Datganiad I'r Wasg
Lleoedd Chwarae Cynhwysol Cyffrous Newydd yn Dod i Gastell-nedd Port Talbot
11 Mehefin 2026
Mae plant a theuluoedd ar draws Castell-nedd Port Talbot ar fin elwa ar dri lle chwarae cynhwysol, newydd sbon, gan ddod â chyfleoedd chwarae bywiog, modern a hygyrch i gymunedau yn ardaloedd Ger yr Afon, Pen y Dre a Pharc Victoria.
Mae’r datblygiadau blaengar hyn, a gyflwynir drwy Raglen Gwella Cymdogaethau’r Cyngor, yn cynrychioli cam mawr ymlaen wrth greu mannau cynhwysol o safon uchel lle gall plant a phobl ifanc o bob gallu ddod at ei gilydd i chwarae, dysgu a mwynhau.
Bydd pob lle chwarae, sydd wedi’i gynllunio wrth flaenoriaethu hygyrchedd, yn cynnig cymysgedd deinamig o gyfarpar a nodweddion sy’n annog gweithgarwch corfforol, rhyngweithio cymdeithasol a chwarae dychmygus.
Ger yr Afon – Gwaun-Cae-Gurwen a Brynaman Isaf
Bydd cyrchfan chwarae fywiog, aml-barth yn cael ei chreu yn ardal Ger yr Afon, gan ddarparu ar gyfer plant bach hyd at bobl ifanc yn eu harddegau. Bydd y safle’n cynnwys nodweddion cynhwysol cyffrous fel carwsél hygyrch i gadeiriau olwyn a si-so cynhwysol, ynghyd ag ardaloedd dringo, siglenni a pharthau pêl-droed a phêl-fasged pwrpasol, gan greu gofod sydd wir yn cynnig rhywbeth i bawb.
Pen y Dre - Gogledd Castell-nedd
Bydd lle chwarae Pen y Dre yn cael ei drawsnewid yn amgylchedd chwarae deniadol a lliwgar, gan gynnwys adeileddau aml-chwarae mawr, llwybrau chwarae thematig a chyfarpar cynhwysol gan gynnwys carwsél hygyrch i gadeiriau olwyn a siglen pendil. Bydd elfennau synhwyraidd a gwaith celf pwrpasol gan artist lleol yn ychwanegu creadigrwydd a rhyngweithio pellach i’r gofod.
Parc Victoria – Gorllewin Llansawel
Bydd Parc Victoria yn derbyn tŵr chwarae cynhwysol trawiadol gyda mynediad trwy ramp, gan alluogi plant o bob gallu i gymryd rhan.Bydd nodweddion ychwanegol gan gynnwys llinell sip, siglen fasged, tyrau dringo ac offer chwarae rhyngweithiol yn creu canolfan fywiog i deuluoedd ei mwynhau gyda’i gilydd.
Ar draws y tri safle, bydd y lleoedd chwarae newydd yn:
• Gwella lles corfforol a meddyliol plant
• Hyrwyddo chwarae cynhwysol i blant o bob gallu
• Provide safe, modern and welcoming community
spaces
• Dod â theuluoedd at ei gilydd drwy brofiadau a rennir
Dyma ddechrau’r datblygiadau cyffrous hyn yn unig. Dros y ddwy flynedd nesaf, bydd 12 lle chwarae arall ar draws Castell-nedd Port Talbot yn cael eu hadnewyddu fel rhan o raglen ehangach i drawsnewid darpariaeth chwarae a sicrhau bod gan bob cymuned fynediad at fannau awyr agored ysbrydoledig.
Dywedodd y Cynghorydd Scott Jones, Aelod y Cabinet dros y Strydlun,
“Rydym yn falch o fuddsoddi yn nyfodol ein cymunedau drwy greu lleoedd cynhwysol o ansawdd uchel lle gall plant a phobl ifanc chwarae a ffynnu.
“Mae’r lleoedd chwarae newydd hyn wedi’u cynllunio fel y gall plant o bob oed a gallu eu mwynhau gyda’i gilydd. Bydd hyn yn helpu i feithrin hyder, cyfeillgarwch ac atgofion gydol oes.
Nid yw hyn yn ymwneud â chyfarpar chwarae yn unig;mae’n ymwneud â chreu mannau croesawgar yng nghalon ein cymunedau i deuluoedd eu mwynhau am flynyddoedd i ddod.”