Datganiad I'r Wasg
Fflyd Ailgylchu 100% Trydan Gyntaf Prydain i'w Chyflwyno i Gyngor Castell-nedd Port Talbot
22 Mehefin 2026
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn croesawu'r cyntaf o'i gerbydau ailgylchu trydan, sy'n golygu mae dyma'r unig awdurdod lleol ym Mhrydain gyfan i bontio i fflyd ailgylchu sy'n 100% trydan.
Bydd y fflyd newydd yn cynnwys 21 cerbyd sy'n cael eu gwefru'n rhannol gan baneli solar ar y safle. Byddan nhw'n dod yn lle'r cerbydau disel presennol, gan wella ansawdd yr awyr ledled y sir.
Mae mwy o gapasiti yn y cerbydau'n golygu eu bod nhw'n gallu dal mwy o wastraff ailgylchu na cherbydau blaenorol hefyd, gan helpu Cyngor Castell-nedd Port Talbot i barhau i guro targed ailgylchu Llywodraeth Cymru sef lleiafswm o 70%. Disgwylir iddyn nhw hefyd gynnig gwell effeithiolrwydd o ran cynnal a chadw.
Bydd y 10 cerbyd cyntaf yn cael eu cyflenwi i Gyngor Castell-nedd Port Talbot yn ddiweddarach yn yr haf eleni, gyda mwy'n cyrraedd yn raddol drwy gydol y flwyddyn.
Yn ôl yr Aelod Cabinet dros Strydlun, y Cynghorydd Scott Jones:
“Rydyn ni'n falch iawn taw ni yw'r Awdurdod Lleol cyntaf yn y Deyrnas Unedig i fuddsoddi mewn fflyd ailgylchu hollol drydan. Rydyn ni wedi bod yn gweithio'n rhagweithiol i ddod â'r garreg filltir hon i fodolaeth.
"Nid yn unig bydd y cerbydau hyn yn helpu i wella ansawdd yr awyr i breswylwyr, byddan nhw hefyd yn rhatach i'w rhedeg, sy'n helpu i ryddhau arian ar gyfer gwario ar wasanaethau eraill ar draws y sir.
"Mae'r datblygiad hwn yn dangos ein bod ni'n parhau i gefnogi ein datganiad am yr argyfwng Newid Hinsawdd gyda gweithredu go iawn. Mae hefyd yn cyd-fynd a'n strategaeth Ddatgarboneiddio ac Ynni Adnewyddadwy (DARE), gan ein pweru i gyfeiriad dyfodol glanach a gwyrddachi Gastell-nedd Port Talbot.”