Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Datganiad I'r Wasg

Arweinydd Cyngor yn croesawu hwb mewn buddsoddiad i gymunedau'r hen faes glo yng Nghastell-nedd Port Talbot

24 Mehefin 2026

Mae Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi croesawu newyddion y bydd dau barc busnes yn y fwrdeistref sirol yn elwa o gyfran o £13.5 miliwn i gefnogi adeiladu datblygiadau diwydiannol newydd.

Arweinydd Cyngor yn croesawu hwb mewn buddsoddiad i gymunedau'r hen faes glo yng Nghastell-nedd Port Talbot

Bydd y cyllid, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU, yn cefnogi datblygu arfaethedig yn:

  • Parc Busnes Nant-y-cafn, Blaendulais – datblygiad diwydiannol 45,000 troedfedd sgwâr, yn ddibynnol ar brynu'r safle yn ddiweddarach dros yr haf, a chaniatâd cynllunio.

  • Parc Busnes Cwm Nedd, Resolfen – datblygiad diwydiannol 30,000 troedfedd sgwâr, yn ddibynnol ar brynu'r safle yn ddiweddarach dros yr haf, a chaniatâd cynllunio.

Mae'r buddsoddiad yn rhan o raglen ehangach sy'n targedu cymunedau a arferai ddibynnu ar lo ledled Prydain, gan helpu i greu swyddi newydd, cefnogi busnesau lleol, a gyrru twf economaidd.

Mae'r cyhoeddiad yn adeiladu ar lwyddiant diweddar ym Mharc Busnes Nant-y-cafn, ble cwblhawyd chwe uned ddiwydiannol newydd ynghynt eleni, gydag arian gan Lywodraeth y DU drwy gyfrwng Cronfa Ffyniant Cyffredin y DU, a phob un yn llawn eisoes.

Croesawyd y newyddion gan Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Steve Hunt:

"Dyma newyddion cadarnhaol iawn ar gyfer Castell-nedd Port Talbot a'n cymunedau yn y cymoedd. Mae buddsoddiad fel hyn yn helpu i greu swyddi newydd, yn cefnogi busnesau lleol, ac yn dod â chyfleoedd ffres i mewn i'r ardal.

"Rydyn ni eisoes wedi gweld galw mawr am leoliadau diwydiannol o safon uchel yn Nant-y-cafn, ble mae'r unedau newydd a agorodd eleni eisoes yn llawn. Bydd y cyhoeddiad diweddaraf hwn yn adeiladu ar y llwyddiant hwnnw, ac yn dod â rhagor o fuddsoddiad i mewn i'n cymunedau. 

"Mae datblygiadau fel hyn yn chwarae rhan allweddol wrth gryfhau ein heconomi leol, gan roi lle i fusnesau dyfu a helpu i sicrhau y gall pobl fanteisio ar gyfleoedd am gyflogaeth yn nes at adre."

Bydd y datblygiadau newydd yn darparu lle diwydiannol a anelir at fusnesau bach a chanolig, gan gefnogi busnesau newydd a chwmnïau sydd eisiau ymestyn.

Mae'r cyllid yn rhan o Gronfa Cenhadaeth Dwf Llywodraeth y DU, gyda chefnogaeth ychwanegol oddi wrth Ymddiriedolaeth Adfywio'r Meysydd Glo, a anelir at helpu ardaloedd a arferai gloddio glo i ddenu buddsoddiad, creu swyddi, a datgloi cyfleoedd newydd.

hannwch hyn ar:

Rhannu eich Adborth