Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Datganiad I'r Wasg

Rheolau mynediad i gŵn ar lan môr Aberafan i gael eu hadolygu wrth i'r cyngor ddechrau ymgynghori

29 Mehefin 2026

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn gofyn i drigolion ac ymwelwyr am eu barn ar reolau sy'n berthnasol i gŵn a'u perchnogion ar lan môr a phromenâd Aberafan.

Aberavon seafront

Nod y Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus yw cynnal diogelwch, glendid a mwynhad y traeth poblogaidd i bob defnyddiwr.

Byddai'r cynigion yn disodli'r Gorchmynion presennol a ddaw i ben cyn bo hir, gan sicrhau y bydd rheolaethau priodol ar waith o hyd.
 

Beth sy'n cael ei gynnig?

-    Byddai'r cyfyngiadau tymhorol presennol ar y prif draeth yn parhau. Byddai cŵn yn dal i fod wedi'u gwahardd o brif ran Traeth Aberafan rhwng 1 Mai a 30 Medi bob blwyddyn, gan helpu i ddiogelu ansawdd dŵr ymdrochi a sicrhau amgylchedd diogel i deuluoedd ac ymwelwyr yn ystod y cyfnod prysuraf.

-    Byddai'r gofyniad i gadw cŵn ar denynnau ar y promenâd yn ystod yr un cyfnod yn yr haf yn parhau hefyd.

-    Mae'r cyngor hefyd yn ceisio barn ar newid posibl i ymestyn y gofyniad ‘cŵn ar denynnau’ ar y promenâd er mwyn iddo fod yn berthnasol drwy gydol y flwyddyn, yn hytrach na dim ond yn ystod misoedd yr haf.
 

Gwrando ar bob barn

Mae'r cyngor yn cydnabod bod glan môr Aberafan yn cael ei thrysori gan amrywiaeth eang o ddefnyddwyr, gan gynnwys perchnogion cŵn, ac mae'n awyddus i glywed safbwyntiau cytbwys. Bwriedir i'r ymgynghoriad gasglu adborth o bob safbwynt er mwyn helpu i wneud penderfyniad ar sail gwybodaeth.

Er bod llawer o drigolion o blaid mesurau i sicrhau amgylchedd diogel a chroesawgar, mae'r cyngor yn deall y gall unrhyw gyfyngiadau beri pryder i rai perchnogion cŵn sy'n defnyddio'r promenâd yn rheolaidd drwy gydol y flwyddyn. Mae'r cyfyngiadau presennol yn ceisio taro cydbwysedd rhwng anghenion pobl sy'n defnyddio'r traeth at ddibenion hamdden a pherchnogion cŵn, gan fod cyfyngiadau ar tua hanner y traeth, a chŵn yn cael eu caniatáu ar yr hanner arall.

Ar hyn o bryd, mae gan Aberafan Wobr Glan Môr ac, a thybio y bydd y sgôr ansawdd dŵr ardderchog yn parhau, ceir dyhead i wneud cais am statws y Faner Las, a fyddai'n arwain at gydnabyddiaeth a safonau uwch. Mae Cadwch Gymru'n Daclus wedi cadarnhau bod cyfyngiad llawn ar gŵn yn ofynnol er mwyn cyrraedd safonau'r Faner Las, ac felly ni fyddai cyfyngiad ar adegau penodol (h.y. 9am – 6pm), fel y mae rhai wedi bod yn gofyn amdano, yn bosibl. Bydd yr ymgynghoriad yn cynnwys cyfle i drigolion ac ymwelwyr awgrymu opsiynau amgen.


Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Hamdden, Twristiaeth a Llesiant, y Cyngh. Cen Phillips:

“Mae glan môr Aberafan yn un o'n mannau a drysorir ac a ddefnyddir fwyaf, a bydd trigolion ac ymwelwyr yn ei mwynhau drwy gydol y flwyddyn. Felly, mae'n bwysig ein bod yn taro'r cydbwysedd cywir rhwng cynnal amgylchedd diogel, glân a chroesawgar i bawb, gan gydnabod a chydbwyso anghenion perchnogion cŵn cyfrifol ar yr un pryd.

“Bydd yr ymgynghoriad hwn yn gyfle i bobl ddweud eu dweud a helpu i lywio'r ffordd y caiff y mesurau hyn eu rhoi ar waith yn y dyfodol. Byddwn yn annog unrhyw un sy'n defnyddio'r traeth i gymryd rhan a rhannu ei farn cyn i unrhyw benderfyniadau terfynol gael eu gwneud.”


Cyfle i ddweud eich dweud

Bydd yr ymgynghoriad yn casglu adborth, ac rydym yn annog trigolion, ymwelwyr a grwpiau lleol i gymryd rhan a rhannu eu barn.

Ymgynghoriad: https://www.npt.gov.uk/cy/cyngor/dweud-eich-dweud/ymgynghoriadau/ 

 

hannwch hyn ar:

Rhannu eich Adborth