Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Datganiad I'r Wasg

Mynegwch eich barn ar gerdded, olwyno a beicio yng Nghastell-nedd Port Talbot

29 Mehefin 2026

Mae preswylwyr, busnesau ac ymwelwyr yng Nghastell-nedd Port Talbot yn cael eu hannog i rannu eu barn ar fapiau newydd sy’n nodi llwybrau cerdded, olwyno a beicio arfaethedig a phresennol yn yr ardal.

Mynegwch eich barn ar gerdded, olwyno a beicio yng Nghastell-nedd Port Talbot

Mae Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol Castell-nedd Port Talbot wedi’u diweddaru yn dilyn rownd gynharach o adborth cyhoeddus yn 2025 i amlygu lle roedd angen gwelliannau.

Mae’r cyngor bellach yn gwahodd preswylwyr, ymwelwyr, busnesau a rhanddeiliaid eraill i adolygu’r rhwydwaith arfaethedig cyn cyflwyno’r map terfynol i Lywodraeth Cymru i’w gymeradwyo.

Bydd y mapiau’n helpu i lywio buddsoddiad yn y dyfodol mewn isadeiledd lleol er mwyn galluogi pobl i wneud teithiau pob dydd sy’n fwy diogel, mwy hygyrch ac sy’n fwy cysylltiedig.

Dywedodd y Cynghorydd Wyndham Griffiths, Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol, Trafnidiaeth a Chysylltedd, "Rydym am helpu pobl yng Nghastell-nedd Port Talbot i wneud eu teithiau bob dydd mewn modd iach, diogel a chynaliadwy. Boed yn teithio i’r ysgol, i’r gwaith neu i’r siopau, mae’n bwysig bod pobl yn teimlo bod ganddynt ddewis.”

 

“Mae’r ymgynghoriad hwn yn rhoi cyfle i bobl a busnesau rannu eu barn ar ble mae’r angen mwyaf am newidiadau er mwyn galluogi hyn i ddigwydd. Bydd y mapiau hyn wedyn yn llywio ein ceisiadau am gyllid penodol i wella Teithio Llesol yng Nghastell-nedd Port Talbot.”

Mae’r ymgynghoriad statudol 12 wythnos yn cau ar 21 Medi 2026.

Gall pobl rannu eu barn drwy wneud y canlynol:

I gael mwy o wybodaeth ewch i www.npt.gov.uk/cy/parciau-chwaraeon-a-hamdden/chwaraeon-a-gweithgareddau/beicio-a-beicio-mynydd/teithio-llesol/ neu e-bostiwch y tîm yn: activetravel@npt.gov.uk 

hannwch hyn ar:

Rhannu eich Adborth