Datganiad I'r Wasg
Carcharu Masnachwr Twyllodrus ar ôl Costio £40,000 i Ddioddefwyr Castell-nedd Port Talbot
02 Gorffennaf 2026
Mae masnachwr twyllodrus wnaeth wneud gwaith cynnal a chadw ffug ar doeon ac eiddo ledled Castell-nedd Port Talbot wedi cael ei garcharu yn dilyn ymchwiliad maith gan dîm Safonau Masnach Cyngor Castell-nedd Port Talbot.
Fe wnaeth Richard Murnane gynnal busnes o'r enw RM Property and Maintenance yn fwriadol i bwrpasau twyllodrus rhwng 13 Gorffennaf 2021 ac 1 Mehefin 2023.
Roedd y dyn 42 oed hefyd yn gweithredu dan enw ail fusnes, S & R Roofing, rhwng 7 Rhagfyr 2022 ac 1 Ebrill 2023 mewn gweithgaredd twyllodrus yn yr un modd.
Roedd yr achos yn ymwneud â phum dioddefwr, a gollodd ryw £40,000 ar y cyd oherwydd gwaith o safon isel ar eu cartref. Roedd nifer o'r dioddefwyr yn bobl oedrannus.
Yn Llys y Goron Abertawe ar 19 Mehefin 2026, dedfrydwyd Richard Phillip Murnane (Dyddiad Geni: 16/05/84) i gyfanswm o 32 mis dan glo ar ôl cael ei ganfod yn euog o ddwy drosedd am dwyll.
Derbyniodd ddedfryd dan glo o 32 mis am droseddau oedd yn gysylltiedig ag RM Property and Maintenance, a 13 mis am droseddau oedd yn gysylltiedig ag S & R Roofing, i gydredeg.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Natur, Twristiaeth a Llesiant, y Cynghorydd Cen Phillips – y mae'i bortffolio'n cynnwys Safonau Masnach:
“Mae'r achos hwn yn dangos yr effaith ddifrifol y gall masnachwyr twyllodrus a busnesau ffug eu cael ar breswylwyr, yn enwedig ar aelodau hŷn a mwy bregus ein cymunedau.
"Fe wnaeth y dioddefwyr yn yr achos hwn ddioddef colledion ariannol mawr a llawer o ofid meddwl ar ôl rhoi'u hymddiriedaeth yn rhywun a aeth ati'n fwriadol i'w twyllo nhw. Dwi'n croesawu’r canlyniad hwn yn Llys y Goron Abertawe, ac yn talu teyrnged i ymroddiad a gwaith proffesiynol swyddogion Safonau Masnach Castell-nedd Port Talbot, y bu i'w hymchwiliad maith a chymhleth ddod â Richard Murnane o flaen ei well.”.
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn atgoffa preswylwyr i fod yn arbennig o ofalus wrth gyflogi masnachwyr, ac i adrodd wrth Safonau Masnach am unrhyw weithgaredd amheus.