Datganiad I'r Wasg
Maes Parcio Newydd Ar Agor Nawr ym Mhontneddfechan i Helpu i Reoli Effeithiau Ymwelwyr ar Fro'r Sgydau
03 Gorffennaf 2026
Mae maes parcio ac ynddo 136 lle bellach wedi agor ym Mhontneddfechan fel rhan o brosiect gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot i gefnogi twristiaeth gynaliadwy ym Mro'r Sgydau. Mae'r maes parcio'n rhan o gasgliad ehangach o gyfleusterau newydd i ymwelwyr gan gynnwys parc chwarae, llety a siop, y cyfan i agor yn ddiweddarach eleni.
Mae'r gwaith ar y datblygiad wedi mynd yn dda, gydag ymdrechion enfawr wedi'u gwneud i agor y maes parcio yn gynt na'r amserlen er mwyn helpu i reoli effaith trafnidiaeth ymwelwyr yn nhymor brig yr haf ar y gymuned leol. Cynlluniwyd y prosiect yn fwriadol i reoli niferoedd ymwelwyr presennol yn well, ac nid yw wedi'i fwriadu ar gyfer annog mwy o deithio.
Mae'r buddsoddiad hwn yn nodi cam ymlaen o ran sut y rheolir y galw gan ymwelwyr yn un o gyrchfannau cerdded mwyaf poblogaidd Cymru, gan helpu i leihau'r effaith ar y gymuned leol, a gwella'r profiad cyffredinol i ymwelwyr ar yr un pryd. Mae'r cyfleuster, a gynlluniwyd i leihau tagfeydd yn y pentref a'r ardaloedd cyfagos, yn cynnig pwynt cyrraedd mwy diogel a threfnus i'r rheiny sy'n dod i ddarganfod Bro'r Sgydau.
Bydd y maes parcio newydd yn gweithredu drwy gydol yr haf o 8am tan 10pm, saith diwrnod yr wythnos, gan ddarparu ateb parcio dibynadwy a hygyrch i ymwelwyr.
Gosodwyd pris parcio ar gyfradd un pris o £6, yn unol â phrisiau ar draws ardal ehangach Bro'r Sgydau. Gosodwyd y pris hwn yn fwriadol i adlewyrchu'r ddarpariaeth bresennol ar draws y Parc Cenedlaethol yn gyffredinol, a bydd yn helpu i reoli'r galw. Gallai gosod pris is arwain at gynnydd yn niferoedd yr ymwelwyr, a fyddai'n bygwth ychwanegu mwy o bwysau ar y pentref a thanseilio nodau cyffredinol y datblygiad. Gellir talu drwy ap MiPermit neu wrth y peiriant talu ar y safle.
Law yn llaw â'r maes parcio newydd, mae cyfleusterau tŷ bach modern bellach ar agor rhwng 8am a 7pm bob dydd, sy'n welliant mawr ar yr amwynderau sydd ar gael ar y safle. Bydd y cyfleusterau newydd hyn yn darparu profiad glanach, mwy diogel a mwy cyffyrddus i ymwelwyr, gan leihau pwysau ar isadeiledd lleol ar yr un pryd.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Hamdden, Twristiaeth a Llesiant, y Cyngh. Cen Phillips:
“Dyma fuddsoddiad pwysig i Bontneddfechan a Bro'r Sgydau yn fwy cyffredinol. Nid yn unig bydd y maes parcio newydd yn helpu i warchod yr amgylchedd arbennig hwn a chefnogi'r gymuned leol, ond bydd hefyd yn gwella'r profiad i ymwelwyr.
"Drwy ddarparu gwell isadeiledd, rydyn ni'n dilyn llwybr cytbwys i sicrhau y gall ymwelwyr barhau i fwynhau'r ardal, a lleihau'r effaith ar breswylwyr ar yr un pryd."
Mae camau pellach o'r datblygiad bron â dod i ben erbyn hyn, gan gynnwys cyfleuster llety ymwelwyr wyth ystafell wely fydd yn croesawu teuluoedd, siop fferm / gymunedol ac ardal chwarae i blant. Disgwylir i'r cyfleusterau hyn agor yn ddiweddarach eleni, gyda'r llety a'r siop yn agor ar ôl i weithredwr gael ei benodi.
Mae'r gwelliannau hyn yn nodi cam allweddol ymlaen o ran mynd i'r afael â heriau hirdymor a gysylltir â niferoedd ymwelwyr mawr. Drwy gyflwyno parcio penodedig ac amwynderau o safon uchel, bydd y prosiect yn helpu i leihau pwysau trafnidiaeth yn y pentref, gwella diogelwch, a chyfrannu at gynaliadwyedd hirdymor y gyrchfan boblogaidd hon.
Bydd diweddariadau pellach yn cael eu rhannu wrth i'r Prosiect Buddsoddi mewn Isadeiledd i Ymwelwyr barhau i gael ei gyflawni.
Ariennir y prosiect hwn gan Lywodraeth y DU.