Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Datganiad I'r Wasg

Wynebau Adnabyddus a Hyrwyddwyr Cymunedol yn Lansio Enw Theatr Newydd Port Talbot

23 Gorffennaf 2026

Mae enw newydd i theatr Port Talbot wedi cael ei gyhoeddi mewn fideo sy'n cynnwys yr actor Di Botcher, a ymddangosodd yn Twin Town, ynghyd ag amrywiaeth o aelodau o'r gymuned sy'n ymwneud â'r celfyddydau a diwylliant yn lleol.

Di Botcher

Mae Yr Aelwyd wedi cael buddsoddiad gwerth £18 miliwn er mwyn creu gwell lleoliad ar gyfer perfformiadau theatr, gweithgareddau cymunedol a chyfleusterau cyfarfod a chynadledda newydd. Mae Yr Aelwyd yn cael ei hadeiladu ar hyn o bryd ar safle Theatr y Dywysoges Frenhinol gynt.

Fel rhan o'r buddsoddiad, mae Sgwâr Dinesig Port Talbot hefyd yn cael ei droi'n ofod cymunedol bywiog sydd wedi'i aildirlunio'n llwyr, gan drawsnewid yr ardal o flaen y theatr.

Roedd y prosiect hwn, sy'n werth miliynau o bunnau, yn bosibl diolch i gyllid gan Lywodraeth y DU ynghyd â rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru. 


Yr Aelwyd

Yn draddodiadol, Yr Aelwyd yw calon y cartref – lle i ymgynnull, rhannu straeon a chreu atgofion i bara oes.

Yr Aelwyd fydd theatr Port Talbot, a bydd yn lle y gall pobl leol fod yn falch ohono ac yn rhan ohono drwy ddod ynghyd i fwynhau'r celfyddydau ac adloniant. Bydd yn lleoliad sydd wir wedi'i wreiddio yn yr ardal ac yn llwyfan i ddoniau a straeon lleol.

Bydd y theatr ar ei newydd wedd wedi'i dylunio i ddenu cynulleidfaoedd i brofi gwaddol Port Talbot o berfformio, creadigrwydd ac adrodd straeon ac fel lle i'r gymuned a grwpiau creadigol lleol ddod ynghyd.

Bydd Yr Aelwyd hefyd yn adlewyrchu treftadaeth Port Talbot ei hun, yn seiliedig ar orffennol diwydiannol y dref a'r cynhesrwydd a'r egni sy'n parhau i ysbrydoli dyfodol creadigol y dref.
 

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Natur, Twristiaeth a Llesiant, y Cyngh. Cen Phillips:

“Mae'r enw Yr Aelwyd yn cyfleu'n fendigedig yr hyn y bydd y lleoliad newydd hwn yn ei gynrychioli i Bort Talbot – man croesawgar lle y bydd pobl yn gallu dod ynghyd i rannu profiadau, mwynhau creadigrwydd a chreu atgofion i bara oes.

“Bydd Yr Aelwyd yn llawer mwy na theatr; bydd yn ganolbwynt i'n cymuned a'n hymwelwyr, gan ddenu pobl i ganol y dref a chefnogi'r gwaith adfywio sy'n mynd rhagddo ym Mhort Talbot.

“Diolch i gyllid gan Lywodraeth y DU ynghyd â rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, rydyn ni'n creu gofod diwylliannol bywiog a Sgwâr Dinesig gwell, gyda mwy o fannau gwyrdd, mwy o blanhigion ac amgylchedd mwy deniadol i bawb ei fwynhau.

“Mae hyn yn garreg filltir gyffrous i Bort Talbot, ac rwy'n edrych ymlaen at weld Yr Aelwyd yn dod yn rhywle lle y caiff straeon eu rhannu, lle y caiff doniau lleol eu harddangos a lle y daw ein cymuned ynghyd am genedlaethau i ddod.”


Mae hyn wedi bod yn ymdrech gymunedol wirioneddol, ac mae'r fideo'n cynnwys cyfraniadau gan amrywiaeth o randdeiliaid lleol sy'n edrych ymlaen at weld y lleoliad newydd yn cael ei lansio, gan gynnwys:

-    ⁠Richard Hibbard – Chwaraewr rygbi rhyngwladol a pherchennog busnes lleol sydd wedi lleisio cymeriad y Cawr mewn pantomeimiau yn y lleoliad.
-    ⁠Joel Oates – Dylanwadwr lleol sy'n frwd dros ganu, dawnsio a'r theatr.
-    Stuart Broad – O gwmni Calon Films, a lwyfannodd y perfformiad cyntaf yn y byd o Iniquity (Camwedd) yn y theatr.
-    ⁠Nigel Hunt – Perchennog busnes lleol, sef San Portablo.
-    ⁠Cassius Walker Hunt – Perchennog busnes lleol, sef Portablo Coffi. 
-    ⁠Margaret Buckingham Jones – Aelod adnabyddus o'r gymuned Gymraeg leol.
-    ⁠Helen John – O Portablo Arts, a chyn-athrawes Ddrama ym Mhort Talbot.
-    ⁠Afan Dance – Grŵp dawns lleol.
-    ⁠Jenks – Artist graffiti sydd wedi cynhyrchu gwaith ar gyfer Artwalk Port Talbot.

Gwyliwch fideo cyhoeddi Yr Aelwyd i ddarganfod beth oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer yr enw.

Edrychwn ymlaen at eich croesawu chi i Yr Aelwyd – theatr newydd sbon Port Talbot.
 

hannwch hyn ar:
Yr Aelwyd logo
Nol i ben y dudalen