Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Datganiad I'r Wasg

Gwaith ailddatblygu yn dechrau ar Ysgol Gyfun Llangatwg

24 Gorffennaf 2026

Mae gwaith wedi dechrau i adeiladu Ysgol Gyfun Llangatwg newydd sbon yn Llangatwg, gan nodi carreg filltir fawr ar gyfer buddsoddiad parhaus Cyngor Castell-nedd Port Talbot mewn addysg.

Llangatwg

Bydd yr ysgol uwchradd fodern, bwrpasol yn cymryd lle'r hen adeilad presennol ac yn cynnig amgylchedd dysgu o safon uchel ar gyfer hyd at 850 o ddisgyblion, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol.

 

Mae'r prosiect yn rhan o Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru a Rhaglen Strategol Gwella Ysgolion y Cyngor, sy'n darparu datblygiadau arwyddocaol i isadeiledd addysg ar draws y fwrdeistref sirol. 

 

Cynlluniwyd yr ysgol newydd i gefnogi'r Cwricwlwm i Gymru, gan gynnig amgylcheddau dysgu hyblyg ac arloesol ynghyd ag ystod eang o gyfleusterau gwell ar gyfer disgyblion a'r gymuned ehangach.

 

Unwaith y caiff ei gwblhau, bydd yr adeilad yn cynnwys dosbarthiadau, labordai gwyddoniaeth, ystafelloedd TG, ardaloedd dysgu teras ar y to, a chanolfan adnoddau dysgu ganolog o'r radd flaenaf. Bydd yr ysgol hefyd yn gartref i neuadd chwaraeon, man perfformio, gweithdai galwedigaethol ac ystafelloedd cynadledda, y gallai’r gymuned ddefnyddio llawer ohonynt. 

 

Bydd gan Llangatwg gyfleusterau awyr agored gwell hefyd, gan gynnwys meysydd chwaraeon, tair ardal gemau amlddefnydd, ysgol goedwig, a hyd yn oed tŷ gwydr ac ardal tyfu bwyd. Ystyriwyd trafnidiaeth a hygyrchedd yn ofalus, gyda mannau gollwng a chasglu dynodedig, mannau gwefru ceir trydan, a pharcio hygyrch ar y safle. 

 

Mae cynaliadwyedd hefyd yn ganolog i'r datblygiad, a dyluniwyd yr adeilad fodloni safonau Gweithredu Carbon Sero Net Llywodraeth Cymru a bydd yn cael ei adeiladu gan Morgan Sindall.

 

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jenkins, Aelod y Cabinet dros Addysg a’r Blynyddoedd Cynnar,


"Mae gwneud cynnydd ar ysgol newydd cymunedol Llangatwg yn foment cyffrous i'r gymuned. Bydd y buddsoddiad hwn yn darparu cyfleusterau modern a hygyrch sy'n cefnogi addysgu a dysgu o ansawdd uchel, wrth greu adnodd gwerthfawr i breswylwyr hefyd. Roedd yn wych cael gweld pa mor gyffrous mae'r plant ar gyfer y datblygiad newydd."

 

Dywedodd Robert Williams,  Cyfarwyddwr Ardal ar gyfer Morgan Sindall Construction yng Nghymru,

 

"Mae gwneud cynnydd ar Ysgol Gymunedol Llangatwg yn nodi dechrau prosiect cyffrous a fydd yn darparu cyfleusterau addysgu o'r safon uchaf i bobl ifanc Castell-nedd Port Talbot.

 

"Rydym yn falch iawn i weithio gyda Chyngor Castell-nedd Port Talbot a’n partneriaid dylunio i ddod a'r syniad hwn yn fyw, ac rydym wedi ymrwymo i adael etifeddiaeth barhaus a chadarnhaol ar gyfer y gymuned leol drwy gydol pob cam o'r ddarpariaeth."

 

Bydd yr adeilad presennol, y mae angen llawer o waith cynnal a chadw arno ar hyn o bryd, yn cael ei ddisodli gan gyfleuster newydd, gan helpu i wella hygyrchedd, cefnogi canlyniadau addysgol a chreu amgylchedd mwy ysbrydoledig i staff a disgyblion. 

 

Mae gwaith adeiladu wedi dechrau a disgwylir iddo barhau dros y misoedd nesaf, a bydd yr ysgol newydd ar y gweill yn dod yn ased cymunedol allweddol i Langatwg a'r ardal gyfagos. 

hannwch hyn ar:
Nol i ben y dudalen