Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Datganiad I'r Wasg

Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn Cyhoeddi Bwrdd Cymdogaeth Newydd Balchder Bro ar gyfer Blaenau Dyffryn Afan

24 Gorffennaf 2026

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wrth ei fodd i gyhoeddi penodi Bwrdd Cymdogaeth newydd Balchder Bro ar gyfer Blaenau Dyffryn Afan, gan nodi carreg filltir sylweddol ar gyfer y rhaglen drawsnewidiol hon.

Pride in Place Neighbourhood Board

Bydd Rhaglen Balchder Bro, a ariennir gan Lywodraeth y DU, yn dod â hyd at £20 miliwn o fuddsoddiad dros y ddegawd nesaf i gefnogi adfywio, cryfhau cymunedau a gwella cyfleoedd ar draws Blaenau Dyffryn Afan.

Bydd y Bwrdd Cymdogaeth sydd newydd ei sefydlu'n chwarae rhan ganolog wrth roi ffurf ar ddyfodol yr ardal. Gan weithio law yn llaw â phreswylwyr, sefydliadau cymunedol, busnesau a phartneriaid y sector cyhoeddus, bydd y Bwrdd yn datblygu gweledigaeth hirdymor ar y cyd ar gyfer Blaenau Dyffryn Afan, yn helpu i ffurfio blaenoriaethau buddsoddi, ac yn goruchwylio darpariaeth o ran prosiectau lleol.

Mae'r penodiadau'n dod yn sgil proses recriwtio ac ymgysylltu helaeth. Anogwyd pobl i fynegi diddordeb drwy gyfrwng digwyddiadau cymunedol, rhwydweithiau lleol, y cyfryngau cymdeithasol a gweithgarwch yn y wasg, gan gynhyrchu diddordeb mawr o bob cwr o'r cwm.

Mae aelodaeth y Bwrdd yn cynnwys cynrychiolwyr o gymunedau ar draws Cymer, Gwynfi, Glyncorrwg, Dyffryn Rhondda, Cynonville, Croeserw a Sunnyside / Heol y Glyn, ynghyd â chynrychiolwyr o fusnesau lleol, sefydliadau gwirfoddol, sefydliadau angorol a chynrychiolwyr etholedig.

Disgwylir cadarnhau lle ar gyfer cynrychiolydd o blith pobl ifanc yn dilyn mwy o waith ymgysylltu â phobl ifanc ar draws y cwm.

Ymysg y rhai a benodwyd mae:

- David Roberts (Cymer)

- Dr Brian Gibbons (Gwynfi)

- Laurence Davies (Glyncorrwg)

- Lisa Millichap (Dyffryn Rhondda)

- Vicki Sloan (Cynonville)

- Barbara Trahar (Croeserw)

- Wayne Finnemore (Sunnyside / Heol y Glyn)

- Ryan Thomas (Perchennog busnes lleol)

- David Teague (Perchennog busnes lleol)

- Darren Johnson (Sector Gwirfoddol)

- Ceri Thomas (Sector Gwirfoddol)

- Tiff Dew (Sector Gwirfoddol)

- Jazzmine Roberts (Diogelu)

- Roxanne Collins (Tai Tarian)

- Gemma Charnock (Grŵp Colegau CNPT)

- Tony Potts (NPTCVS)

Mae'r Bwrdd Cymdogaeth hefyd yn cynnwys Stephen Kinnock (AS Aberafan a Maesteg), y Cynghorydd Scott Jones (Gwynfi a Chroeserw), y Cynghorydd Jeff Jones (Cymer a Glyncorrwg), Andrew Collins (Rheolwr Adfywio a Datblygu Economaidd yng Nghyngor Castell-nedd Port Talbot), gyda Karen Jones MBE yn arwain y gad fel Cadeirydd.

Dywedodd Karen Jones MBE, Cadeirydd Annibynnol Bwrdd Cymdogaeth Balchder Bro:

“Heddiw, rydyn ni'n cyhoeddi'r penodiadau a wnaed i'n Bwrdd Cymdogaeth.

"Hoffwn yn gyntaf ddiolch i bawb a fynegodd ddiddordeb mewn ymuno â'r Bwrdd. Fe gawson ni ddiddordeb oddi wrth drawstoriad da iawn o bobl o bob cwr o Flaenau'r Cwm. Mae'r broses recriwtio wedi ein galluogi ni i greu Bwrdd sy'n dwyn ynghyd bobl â phrofiadau, setiau sgiliau a safbwyntiau eang iawn. Mae pob aelod o'r Bwrdd yn rhannu balchder ym Mlaenau Dyffryn Afan ac maen nhw oll wedi ymroi i ddefnyddio'r rhaglen hon i greu gwaddol cadarnhaol ar gyfer pobl a fydd yn byw ac yn gweithio yn y cwm dros y blynyddoedd i ddod.

"Dwi wir yn edrych ymlaen at weithio gyda phawb i wneud yn fawr o'r cyfle hwn. Ein tasg gyntaf fydd ymgysylltu'n helaeth gyda phreswylwyr, busnesau, sefydliadau gwirfoddol a rhanddeiliaid eraill i glywed am y blaenoriaethau yr hoffen nhw weld y rhaglen yn canolbwyntio arnyn nhw. Bydd eu barn nhw'n addysgu'r cynllun buddsoddi ar gyfer y pedair blynedd gyntaf y mae angen i ni ei pharatoi erbyn diwedd mis Tachwedd.

"Am ein bod ni wedi cael llawer iawn mwy o bobl yn rhoi'u hunain ymlaen nag a oedd o lefydd ar y Bwrdd, rydyn ni'n cynnig rôl i'r rheiny sydd ddim ar y Bwrdd mewn mannau eraill yn y Rhaglen. Bydd hyn wir yn ein helpu i adeiladu momentwm ac elwa o'r sgiliau a'r syniadau sydd ganddynt i'w cynnig yn ogystal.

"Byddwn ni'n cynnig ein cyfarfod cyntaf o'r Bwrdd ar 31 Gorffennaf, pan fyddwn ni'n cytuno ar raglen waith fanwl ar gyfer y misoedd nesaf i ddod."
 

Yn ôl y Cynghorydd Stephen Hunt, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot:

“Rydw i'n falch o weld Bwrdd Cymdogaeth Balchder Bro'n dwyn siâp ffurfiol ar gyfer Blaenau Dyffryn Afan. Gyda chefnogaeth hyd at £20 miliwn o fuddsoddiad oddi wrth Lywodraeth y DU dros y ddegawd nesaf, dyma ein cyfle i droi uchelgais lleol yn newid parhaol. Mae'r Bwrdd yn dwyn ynghyd breswylwyr, arweinwyr cymunedol, busnesau a phartneriaid sy'n nabod y cwm hwn orau, ac rwy'n llongyfarch pawb a benodwyd.

"Mae fy ymrwymiad innau'n glir: bydd y rhaglen hon yn cael ei gyrru gan leisiau lleol, ei chyflawni gyda thryloywder, a'i mesur gan ganlyniadau go iawn. Byddwn ni'n cyhoeddi blaenoriaethau buddsoddi clir, yn adrodd yn agored ar gynnydd, ac yn gwneud yn siŵr fod pob punt yn gweithio'n galed dros gymunedau o'r Cymer a Gwynfi i Lyncorrwg, Dyffryn Rhondda, Cynonville, Croeserw a Sunnyside /Heol y Glyn. Bydd ymgysylltu cynnar yn rhoi siâp ar y cynllun pedair blynedd gyntaf, ac mae'r drws ar agor i bawb – yn enwedig pobl ifanc – i gymryd rhan.

"Gyda'n gilydd byddwn ni'n canolbwyntio ar y pethau sy'n cyfrif fwy na dim arall: swyddi da a sgiliau, canolfannau ffyniannus, gwell cysylltedd, cartrefi mwy diogel a chynhesach, a llecynnau glas bywiog – er mwyn adeiladu Blaenau Dyffryn Afan sy'n decach a mwy hyderus ar gyfer y tymor hir."
 

Meddai Stephen Kinnock, Aelod Seneddol Aberafan Maesteg:

“Dyma ennyd gyffrous ar gyfer Blaenau Dyffryn Afan oherwydd mae Rhaglen Balchder Bro Llywodraeth y Du yn cyflwyno cyfle unigryw i ddwyn ynghyd arbenigedd lleol ac uchelgais cymunedol er mwyn darparu newid gwirioneddol, Mae cryfder Balchder bro yn byw yn y bobl sy'n adnabod y cwm orau, ac rydw i wrth fy modd o weld ystod mor eang o breswylwyr, busnesau a sefydliadau'n cael eu cynrychioli ar y Bwrdd Cymdogaeth.

"Hoffwn longyfarch pob aelod o'r Bwrdd, ac fel aelod balch o'r Bwrdd fy hunan, edrychaf ymlaen at ddod yn rhan o dîm gyda'm cydweithwyr, i ddarparu gweledigaeth ar y cyd sy'n adeiladu ar gryfderau ac asedau lu y cwm, ac sy'n creu cyfleoedd newydd i bobl leol dros y blynyddoedd i ddod."

"Bydd Rhaglen Balchder Bro'n symud i'r cam nesaf nawr, gyda'r Bwrdd yn gweithio i ddatblygu gweledigaeth ar y cyd a chynllun buddsoddi sy'n adlewyrchu dyheadau a blaenoriaethau pobl leol."

Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am raglen Balchder Bro yma: Rhaglen Balchder Bro Cyngor Castell-nedd Port Talbot – https://www.npt.gov.uk/cy/busnes/rhaglenni-cyllid-strategol/rhaglen-balchder-bro 
 

hannwch hyn ar:

Rhannu eich Adborth