Datganiad I'r Wasg
Miloedd o Blant ar draws Sir Castell-nedd Port Talbot Bellach yn Fwy Diogel mewn Dŵr ar gyfer Gwyliau Haf yr Ysgolion
03 Awst 2026
Mae dros 3,500 o blant ar draws Sir Castell-nedd Port Talbot bellach wedi'u paratoi'n well ar gyfer aros yn ddiogel o gwmpas dŵr yn dilyn ymgyrch sgiliau ac ymwybyddiaeth.
Ers mis Mai, mae disgyblion wedi bod yn cymryd rhan mewn prosiect o'r enw Ysgolion Doeth am Ddŵr, a gynhelir gan y Royal Life Saving Society UK (RLSS UK).
Mae'r rhaglen yn helpu plant i ddysgu am ddiogelwch dŵr mewn ffordd sy'n ymarferol ac yn addas ar gyfer eu hoedran, ac mae'n eu helpu i ddeall peryglon, gwneud dewisiadau doethach a theimlo'n fwy hyderus o gwmpas dŵr.
Mae'n cynnwys pum sesiwn yn y dosbarth, gwersi nofio i Gyfnod Allweddol 2, ymweliad â'r Criw Craidd ac ymweliad addysgiadol oddi wrth yr RNLI.
Ym mis Mehefin, yn ystod Wythnos Atal Boddi RLSS UK, llwyddodd y pum ysgol gyntaf i gyflawni'r wobr Efydd:
• Ysgol Gynradd Henadur Davies yr Eglwys yng Nghymru
• Ysgol Gynradd Awel Y Môr
• Ysgol Gynradd Blaengwrach
• Ysgol Gynradd Gnoll
• Ysgol Carreg Hir
Ers hynny, mae 21 yn rhagor o ysgolion wedi cwblhau'r rhaglen ac maen nhw bellach yn ddeiliaid Gwobr Efydd Doeth am Ddŵr:
• Ysgol Gynradd Baglan
• Ysgol Gynradd Blaenbaglan
• Ysgol Gynradd Blaendulais
• Ysgol Gynradd Catwg
• Ysgol Gynradd Crynallt
• Ysgol Gynradd Cwmnedd
• Ysgol Gynradd Eastern
• Ysgol Gynradd Sandfields
• Ysgol Gynradd Gatholig St Joseph's
• Ysgol Gynradd Tonna
• Ysgol Gynradd Tywyn
• YGG Blaendulais
• YGG Castell-nedd
• YGG Cwmllynfell
• YGG Cwm-nedd
• YGG Gwauncaegurwen
• YGG Pontardawe
• YGG Rhosafan
• YGG Trebannws
• YGG Tyle'r Ynn
• Ysgol Bae Baglan
Bwriad y tîm yw parhau i weithio'n agos gydag ysgolion cynradd lleol ledled CNPT ac ymestyn y rhaglen i gynnwys mwy o ddisgyblion.
Yn ôl y Cynghorydd Nia Jenkins, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Addysg a'r Blynyddoedd Cynnar:
"Nawr bod gwyliau'r haf wedi dechrau, mae'n gysur gwybod fod dros 3,500 o blant ledled Castell-nedd Port Talbot wedi elwa o'r rhaglen diogelwch dŵr bwysig hon. Mae dysgu sut i adnabod y peryglon, gwneud dewisiadau diogel, a bod yn hyderus a synhwyrol o gwmpas dŵr yn sgiliau bywyd all helpu i gadw ein pobl ifanc yn ddiogel nawr ac yn y dyfodol.
"Llongyfarchiadau enfawr i'r holl ddisgyblion a staff mewn 27 ysgol, a diolch arbennig unwaith eto i'r partneriaid darparu, Celtic Leisure, Nofio Dyffryn Afan, Freedom Leisure, RNLI Port Talbot a'r Criw Craidd am eu cefnogaeth barhaus.
"Rydyn ni'n falch o allu cefnogi prosiectau sy'n elwa llesiant a diogelwch plant lleol, ac edrychaf ymlaen at weld hyd yn oed ragor o ysgolion ledled Castell-nedd Port Talbot yn cymryd rhan yn y rhaglen Ysgolion Doeth am Ddŵr yn y blynyddoedd i ddod."