Datganiad I'r Wasg
Croeserw'n croesawu maes chwarae newydd o dan raglen gwella gwerth miliynau
04 Awst 2026
Mae teuluoedd yng Nghroeserw bellach yn mwynhau lle chwarae sydd newydd ei adnewyddu yn Sunny Crescent ar ôl i welliannau mawr wedi'u dylunio gael ei cwblhau i wella cyfleoedd chwarae lleol.
Dyma'r maes chwarae cyntaf i gael ei gwblhau trwy Raglen Gwella Cymdogaethau Cyngor Castell-nedd Port Talbot sy’n werth £2.5 miliwn, a fydd yn adnewyddu 16 o leoedd chwarae presennol ar draws y fwrdeistref sirol. Dyma’r ail safle i fuddio o gyllid Grant Chwarae Cymru Gyfan Llywodraeth Cymru, wrth i £35,000 gael ei ddyrannu ar gyfer gwelliannau.
Mae'r lle chwarae newydd yn gartref i ystod o gyfarpar chwarae newydd, gan ddarparu cyfleoedd chwarae rhyngweithiol ar gyfer plant o oedrannau a galluoedd gwahanol. Cafodd y gwaith ei ddarparu gan Proludic UK, arbenigwr blaenllaw mewn dylunio lleoedd chwarae a chyfleusterau hamdden awyr agored.
Dywedodd Steven Hunt, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot,
"Mae'n wych gweld y lle chwarae newydd hwn yn agor ac yn cael ei fwynhau gan blant a theuluoedd lleol yn barod. Mae lleoedd fel Sunny Crescent mor bwysig wrth ddod â chymunedau at ei gilydd a darparu amgylchedd diogel, croesawgar i bobl ifanc chwarae, cymdeithasu a chadw'n heini. Mae gweld y plant yn mwynhau'r cyfleusterau heddiw wir yn amlygu'r effaith gadarnhaol y mae'r gwelliannau hyn yn eu cael ar draws y fwrdeistref."
Mae'r gwaith adnewyddu wedi’i ddylunio i greu man diogel, hygyrch a chroesawgar sy'n annog gweithgarwch corfforol, rhyngweithio cymdeithasol a chwarae dychmygus, a gosodwyd nodweddion cynhwysol i helpu plant o bob gallu.
Ychwanegodd Scott Jones, Aelod y Cyngor dros y Strydlun,
"Mae'r buddsoddiad hwn yn fwy na chyfarpar newydd yn unig; mae'n creu mannau cynhwysol, hygyrch lle mae pob plentyn yn teimlo y gall chwarae a bod yn rhan o'i gymuned. Roedd yn wych gweld cynifer o blant yn mwynhau'r parc wrth iddo agor, gan wneud y mwyaf o'r cyfleusterau newydd a rhannu'r profiad â ffrindiau.Rydym yn falch o ddarparu gwelliannau fel hyn yn ein cymunedau.
Roeddem wrth ein bodd yn croesawu plant o Ysgol Gynradd Croeserw i fwynhau'r cyfleuster newydd, ac roedd yr effaith gadarnhaol yr oedd yn ei gael yn amlwg o'r cychwyn cyntaf.[LH1] ”
Meddai Rob Baker, Rheolwr Gyfarwyddwr Proludic,
"Mae Proludic yn falch o fod wedi gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Castell-nedd Port Talbot i ddarparu'r lle chwarae llachar ac apelgar, cynhwysol a gwydn hwn ar ei ran, gan greu lle croesawgar lle gall plant o wahanol oedrannau a galluoedd chwarae gyda'i gilydd."
Mae'r prosiect hwn yn arddangos ymrwymiad parhaus y Cyngor i wella darpariaeth chwarae ac i sicrhau bod gan blant a theuluoedd fynediad at fannau awyr agored modern ac o ansawdd uchel yn eu cymunedau.