Datganiad I'r Wasg
Cyfle: Chwilio am Gadeirydd Annibynnol i Hyrwyddo Diwylliant Ledled Castell-nedd Port Talbot
04 Awst 2026
Ydych chi'n credu y gall diwylliant drawsnewid lleoedd, atgyfnerthu cymunedau a chreu cyfleoedd i bobl ifanc?
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot a'i bartneriaid yn chwilio am Gadeirydd gwirfoddol annibynnol i arwain Partneriaeth Ddiwylliant newydd, gan ddod â sefydliadau ynghyd o'r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol er mwyn helpu lywio dyfodol diwylliant ledled y sir.
Yn dilyn i cadarnhad Bort Talbot (a Chwm Afan) ar restr fer cystadleuaeth Tref Diwylliant y DU, bydd y Bartneriaeth yn gweithredu fel y corff cyflawni, gyda'r Cadeirydd yn darparu goruchwyliaeth ac arweinyddiaeth yn ystod cyfnod allweddol o ddatblygu a chyflawni.
Bydd y Cadeirydd yn cynnig arweinyddiaeth strategol, yn hyrwyddo cydweithio ac yn helpu i gyflawni Strategaeth Ddiwylliant Castell-nedd Port Talbot. Bydd hefyd yn gweithredu fel cennad dros ddiwylliant, gan sicrhau bod y Bartneriaeth yn gwneud cyfraniad ystyrlon i gymunedau, lleoedd a'r economi yn lleol.
Am bwy rydym yn chwilio
Rydym yn chwilio am rywun sydd â'r canlynol:
• Cysylltiadau cryf â Chastell-nedd Port Talbot
• Brwdfrydedd dros rôl diwylliant o ran llywio cymunedau a chyfleoedd
• Profiad o ddatblygu partneriaethau effeithiol mewn gwahanol sectorau
• Profiad o arwain ar lefel bwrdd
• Sgiliau cyfathrebu a hwyluso ardderchog
• Y gallu i herio'n annibynnol a ffurfio consensws.
Byddai profiad o ddatblygu diwylliannol, adfywio, creu lleoedd neu oruchwylio rhaglenni a buddsoddiadau mawr yn fanteisiol.
Gyda chefnogaeth Swyddogion Cyngor Castell-nedd Port Taalbot, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arwain cyfarfodydd y Bartneriaeth, yn helpu i bennu blaenoriaethau, yn goruchwylio cynnydd ac yn sicrhau bod y Bartneriaeth yn cynnal ffocws ar gyflawni canlyniadau diriaethol. Rôl wirfoddol yw hon, a chaiff costau teithio a threuliau rhesymol eu talu.
Bydd y penodiad am gyfnod cychwynnol o dair blynedd, a bydd angen ymrwymo 6–8 awr y mis ar gyfartaledd, gan gynnwys bod yn bresennol mewn o leiaf bedwar cyfarfod y flwyddyn. Cynhelir cyfarfodydd ar-lein ac wyneb i wyneb, gydag ymrwymiad i gynnal o leiaf un cyfarfod wyneb yn wyneb bob blwyddyn o fewn Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Natur, Twristiaeth a Llesiant, y Cyngh. Cen Phillips:
“Rydyn ni'n chwilio am Gadeirydd annibynnol sy'n gallu dod â phartneriaid diwylliannol ynghyd, hyrwyddo cydweithio a helpu i gyflawni ein Strategaeth Ddiwylliant uchelgeisiol. Gyda'r potensial i'r Bartneriaeth gyflawni rôl allweddol yn ein huchelgeisiau ar gyfer dynodiad Tref Ddiwylliant y DU, mae hwn yn gyfle unigryw i wneud cyfraniad parhaol.
“Mae hwn yn gyfle cyffrous i rywun sydd â gweledigaeth, brwdfrydedd a sgiliau arwain cadarn. Gall diwylliant gyflawni rôl allweddol o ran dod â phobl ynghyd, dathlu ein hunaniaeth a chreu cyfleoedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.”
Daw'r cyfnod gwneud cais i ben am 12pm ddydd Mawrth 1 Medi 2026.
I ofyn am becyn datgan diddordeb, e-bostiwch H.Rees@npt.gov.uk
Cadeirydd Partneriaeth Ddiwylliant Castell-nedd Port Talbot - Cyngor CnPT
Helpwch i lywio dyfodol diwylliant yng Nghastell-nedd Port Talbot.