Datganiad I'r Wasg
Ysgolion Castell-nedd Port Talbot yn nodi llwyddiannau Lefel-A
13 Awst 2026
Estynnir llongyfarchiadau i fyfyrwyr a staff yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera-Bro Dur a Chanolfan Chweched Dosbarth Ysgol Gatholig St Joseph, y ddwy ysgol yng Nghastell-nedd Port Talbot sy'n darparu addysg ôl-16. Casglodd myfyrwyr yn y ddwy ysgol eu canlyniadau Lefel-A a chymwysterau ôl-16 eraill heddiw (dydd Iau 13 Awst). Mae llawer o bobl ifanc ar draws y fwrdeistref sirol yn parhau â'u hastudiaethau drwy gyfrwng Grŵp Colegau NPTC Group of Colleges yn ogystal.
Dywedodd y Cynghorydd Steve Hunt, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot: “Mae diwrnod y canlyniadau'n benllanw blynyddoedd lawer o ymroddiad gan ddisgyblion, athrawon, rhieni a gofalwyr. Waeth a yw myfyrwyr yn symud ymlaen i brentisiaethau, prifysgol, mwy o hyfforddiant neu swyddi, mae'u cymwysterau'n darparu sylfaen bwysig ar gyfer eu camau nesaf, a hoffem ddymuno pob llwyddiant iddynt at y dyfodol."
Wrth longyfarch myfyrwyr a staff ysgolion, ychwanegodd y Cynghorydd Nia Jenkins, Aelod Cabinet tros Addysg a'r Blynyddoedd Cynnar: "Llongyfarchiadau gwresog i'r holl ddisgyblion ar yr hyn y maen nhw wedi'i gyflawni ar draws ystod eang o gymwysterau galwedigaethol, technegol ac academaidd.
"Hoffwn gydnabod hefyd a diolch i arweinwyr uwch, swyddogion arholiadau, staff cefnogi ac athrawon am y rhan y maen nhw wedi'i chwarae wrth gefnogi ein pobl ifanc i astudio. Mae'r sylfaen addysgol gref a sefydlwyd yn ystod Cyfnod Allweddol 4 wedi helpu mwy o fyfyrwyr i barhau â'u haddysg y tu hwnt i 16 oed gyda phwrpas, uchelgais a llwyddiant."
I fyfyrwyr sy'n chwilio am arweiniad am eu camau nesaf, bydd ein Tîm Cefnogi Cyflogaeth Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn cynnal sesiynau cyngor galw-i-mewn yn yr Hwb Cyfleoedd, Canolfan Siopa Aberafan a'r Hwb Cyfleoedd yn 8 Stryd y Gwynt Castell-nedd, ddydd Iau 13 Awst, Gwener 14 Awst, Iau 20 Awst, a Gwener 21 Awst.
Bydd ymgynghorwyr ar gael i gynnig cyngor a chefnogaeth. Does dim angen cael apwyntiad. Fel arall, gall myfyrwyr ffonio 01639 860160 neu e-bostio jobsupport@npt.gov.uk am fwy o help.