Datganiad I'r Wasg
Cefynogwyr Bonnie Tyler yn talu teyrnged wrth i'r gantores fynd ar ei thaith olaf drwy ei thref enedigol
17 Awst 2026
Mae cannoedd o bobl yn nhref enedigol Bonnie Tyler, Sgiwen, a thu hwnt, wedi sefyll ar hyd y palmentydd heddiw i gymeradwyo, canu a dathlu'r gantores wrth iddi fynd ar ei siwrne olaf ar ôl iddi farw yn 75 oed.
Taenwyd llawer o flodau ar foned yr hers, a gellid clywed rhai o'i chaneuon enwocaf ar yr awel o fusnesau cyfagos wrth i'r orymdaith ddirwyn o Gadeirlan Abertawe i angladd preifat ar gyfer y teulu.
Dywedodd Maer Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Alan Lockyer – a fynychodd y seremoni yn Abertawe:
"Mae gen i atgofion annwyl am Bonnie Tyler yn dod i Goleg Castell-nedd (fel yr oedd bryd hynny) i'n helpu gyda digwyddiad elusennol, ynghyd â'i chanwr gitâr fas, Kevin Dunn a'r gitarydd Ray Taff Williams (o Gastell-nedd). Fe wnaeth hi argraff ar bawb wnaeth gwrdd â hi.
"Er bod Bonnie/Gaynor yn seren ryngwladol oedd yn perfformio law yn llaw â'i chyfeillion o gerddorion, roedd hi hefyd yn ystyried pobl y byddai hi'n cwrdd â nhw ar y stryd yn Sgiwen neu'r Mwmbwls fel ffrindiau hefyd.
"Roedd hi'n berson go iawn, yn llawn o ofal am eraill, a wnaeth hi byth anghofio'i gwreiddiau. Dwi'n meddwl fod 'cymeriad' yn air da i'w disgrifio hi. Mae'n anodd iawn dweud hwyl fawr."
Dywedodd Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Steve Hunt:
"Dwi'n meddwl taw'r peth oedd yn taro tant gyda chynifer o bobl oedd y ffaith fod Bonnie Tyler mor real a dilys. Byddai hi'n gwneud popeth y bydden ni'n ei wneud, a byddai hi'n gwneud i bawb deimlo croeso yn ei phresenoldeb.
"Roedd hi'n seren ledled y byd, ond wnaeth hi byth anghofio o ble roedd hi'n dod. Pan fyddai'n dod nôl, byddai wastad eisiau mynychu digwyddiadau lleol a chymysgu gyda phobl o'i thref enedigol.
"Mae fy meddyliau gyda theulu, ffrindiau a chefnogwyr Bonnie. Roedd hi'n fenyw hyfryd, naturiol, y bydd cymaint o bobl yn gweld ei heisiau, ond bydd ei gwaddol yn para'n hir iawn."