Datganiad I'r Wasg
Lle chwarae Parc Vivian wedi agor yn swyddogol
26 Awst 2026
Mae pennod newydd cyffrous ar gyfer darpariaeth chwarae yng Nghastell-nedd Port Talbot wedi dechrau wrth i le chwarae Parc Vivian, sydd newydd ei adnewyddu, agor yn swyddogol.
Mae'r trawsnewidiad wedi creu cyrchfan bywiog i deuluoedd lleol, gan gynnig bron 80 o nodweddion chwarae i annog plant o bob oedran a gallu i chware, dysgu, cymdeithasu a chadw'n heini gyda'i gilydd.
Mae'r lle chwarae newydd, a ddyluniwyd ac a gyflwynwyd gan Kompan, yn cynnig rhywbeth i bawb, gan gynnwys cyfleoedd cynhwysol i blant o bob oedran a gallu chwarae, dysgu, rhyngweithio a dychmygu gyda'i gilydd, wrth helpu i ddatblygu hyder, cydlyniant, creadigrwydd a sgiliau cymdeithasu mewn amgylchedd diogel a chroesawgar.
Agorwyd y lle chwarae yn swyddogol gan Arweinydd y Cyngor a Chynghorwyr perthnasol, partneriaid prosiect ac aelodau o weithlu'r Cyngor. Roedd hyn yn nodi cwblhad buddsoddiad mawr yn narpariaeth chwarae i blant a theuluoedd lleol.
Dywedodd y Cyng. Scott Jones, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros y Strydlun,
"Mae'r prosiect hwn yn cefnogi ein hamcan corfforaethol o sicrhau cyfleusterau chwarae, gweithgareddau corfforol a chyfleoedd hamdden hygyrch ac amrywiol sydd o ansawdd uchel i bob plentyn a pherson ifanc.
"Rydym yn anelu i ddarparu cyfleoedd chware drwy gyd weithio ag ysgolion a theuluoedd lleol i sicrhau bod gennym y cyfarpar cywir yn y mannau cywir. Mae'r nodau hyn wrth wraidd ein rhaglen adnewyddu.
"Mae'n wych gweld y lle chwarae ar agor a bod plant a theuluoedd ar draws y gymuned yn ei fwynhau."
Mae prosiect Parc Vivian yn nodi dechrau rhaglen strategol fawr i wella cyfleusterau chwarae ar draws Castell-nedd Port Talbot. Dros y ddwy flynedd nesaf, bydd 16 o leoedd chwarae ychwanegol yn cael eu hadnewyddu, gan greu mannau diogel, cynhwysol ac ysbrydoledig i blant a theuluoedd ar draws y fwrdeistref.