Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Datganiad I'r Wasg

Bwrdd Cymdogaeth Cwm Afan Uchaf: Galwad am Syniadau ar gyfer Prosiectau

27 Awst 2026

Cafodd Bwrdd Cymdogaeth Cwm Afan Uchaf ei sefydlu'n ffurfiol ym mis Gorffennaf. Ymgysylltu â thrigolion, sefydliadau a rhanddeiliaid ehangach yw prif flaenoriaeth y Bwrdd.

Aerial view of Afan Valley

Mae aelodau o'r Bwrdd Cymdogaeth a'i dîm cymorth wedi bod yn cwrdd â thrigolion, yn mynd i ddigwyddiadau ac yn siarad â grwpiau eraill sy'n gweithio yn rhan uchaf y cwm dros yr haf.  

Ddechrau mis Medi, bydd y Bwrdd yn lansio arolwg aelwydydd er mwyn galluogi holl aelwydydd yr ardal i fynegi eu barn ar y canlynol:

•    Sut yr hoffent i ran uchaf y cwm edrych ymhen 10 mlynedd
•    Ym mha ffyrdd y bydd bywyd yn wahanol
•    Sut beth fyddai llwyddiant 

Mae'r Bwrdd hefyd yn bwriadu cynnal digwyddiadau ym mhob pentref yn ystod mis Medi a mis Hydref, a bydd yn sicrhau bod trefniadau priodol ar waith i gasglu safbwyntiau plant a phobl ifanc, trigolion agored i niwed a rhanddeiliaid ehangach.

Bydd yr holl wybodaeth a gaiff ei chasglu yn ystod y gweithgareddau ymgysylltu yn cael ei defnyddio i ddatblygu gweledigaeth ar gyfer rhaglen Balchder Bro a helpu i benderfynu ble y gellid gwario'r buddsoddiad gwerth £20 miliwn.

Mae'r Bwrdd hefyd yn awyddus i ddeall sut y gellid cyflawni'r newidiadau y mae pobl am eu gweld. Dyna ddiben yr alwad am syniadau ar gyfer prosiectau.  Gofynnir i bobl sy'n credu bod ganddynt eisoes brosiect a allai helpu i gyflawni amcanion rhaglen Balchder Bro ddweud wrth y Bwrdd am eu cynigion.  Mae'r Bwrdd hefyd yn awyddus i glywed am brosiectau posibl – h.y. syniadau y mae pobl yn credu y byddent o fudd i'r ardal, ond nad ydynt mewn sefyllfa i wireddu'r syniadau hynny eu hunain.

Noder nad proses gwneud cais am gyllid yw hon, ond ymarfer i roi gwybod i'r Bwrdd am yr amrywiaeth o weithgareddau a allai gefnogi'r rhaglen o bosibl.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno syniadau ar gyfer prosiectau yw 31 Hydref 2026.  Gallwch weld y ffurflen ar gyfer prosiectau yma: https://survey.sqw.co.uk/s/PrideinPlaceAfanValley/ 

Dywedodd Cadeirydd y Bwrdd Cymdogaeth, Karen Jones:

“Nod rhaglen Balchder Bro yw rhoi cyfle i'r bobl sy'n byw yng Nghwm Afan Uchaf lywio dyfodol eu bro. Bwriedir i'r cyllid sy'n cael ei ddarparu gan Lywodraeth y DU arwain at newid hirdymor. Rydyn ni'n awyddus i sicrhau bod llawer o gyfleoedd i bobl ddweud wrthym beth maent am i'r rhaglen hon ei gyflawni a thrafod sut y gallant fod yn rhan o'r broses o sicrhau'r newid hwnnw.

“Mae'r alwad am syniadau ar gyfer prosiectau rydyn ni'n ei lansio heddiw yn rhan bwysig o ddechrau'r sgyrsiau hynny.  Rwyf eisoes wedi ymweld â llawer o grwpiau gwirfoddol sydd wedi dweud wrthym am y newidiadau yr hoffent eu gwneud.  Rwy'n siŵr bod gan lawer o bobl eraill syniadau gwych ac mae hyn yn gyfle pwysig i roi gwybod i ni amdanyn nhw.”


Dywedodd y Cynghorydd Steve Hunt, sef Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot:

“Mae rhaglen Balchder Bro yn ceisio rhoi llais i gymunedau lleol yn y broses o lywio dyfodol Cwm Afan Uchaf. Byddwn yn annog unrhyw un sydd â syniad ar gyfer prosiect, p'un a yw eisoes wedi'i ddatblygu neu ddim ond yn gysyniad cynnar, i'w rannu â'r Bwrdd Cymdogaeth.

“Drwy wrando ar bobl leol a chydweithio â'n gilydd, gallwn fanteisio i'r eithaf ar y buddsoddiad sylweddol hwn a sicrhau buddion hirdymor i'r cwm.”


Dywedodd Aelod Seneddol Aberafan Maesteg, Stephen Kinnock:

“Mae'r buddsoddiad gwerth £20 miliwn yng Nghwm Afan Uchaf gan Lywodraeth y DU fel rhan o raglen Balchder Bro yn gyfle ‘unwaith mewn cenhedlaeth’ i wneud gwahaniaeth hirdymor i gymunedau ledled y cwm. Yn y pen draw, bydd llwyddiant y rhaglen yn dibynnu ar b'un a yw'n arwain at y newidiadau y mae pobl leol am eu gweld ai peidio, a dyna pam mae'n rhaid sicrhau bod gwrando ar drigolion a sefydliadau lleol wrth wraidd popeth a wnawn.

“Rydyn ni am i bobl fod yn uchelgeisiol ynglŷn â dyfodol Cwm Afan Uchaf a rhannu eu syniadau, p'un a ydyn nhw wrthi'n datblygu prosiect yn barod, neu ond wedi meddwl am egin syniad ar gyfer ymyriad a allai wneud gwahaniaeth go iawn yn eu barn nhw.

“Byddwn i'n annog pawb ledled y cwm i gymryd rhan, dweud eu dweud a chyflwyno eu syniadau. Gyda'n gilydd, gallwn ddatblygu gweledigaeth glir ar gyfer y dyfodol a sicrhau y bydd y buddsoddiad hwn yn arwain at newid hirdymor ystyrlon am genedlaethau i ddod.”

 

hannwch hyn ar:
Nol i ben y dudalen