Datganiad I'r Wasg
Rhaglen fuddsoddi gwerth £3.3 miliwn i drawsnewid cyfleusterau hamdden ledled Castell-nedd Port Talbot
09 Medi 2026
Bydd preswylwyr ymhob cwr o Gastell-nedd Port Talbot yn elwa o raglen fawr o welliannau i gyfleusterau hamdden ar draws y fwrdeistref sirol, gyda chynlluniau i wario dros £3.3 miliwn o arian buddsoddi er mwyn moderneiddio canolfannau, ymestyn gweithgareddau a gwella cyfleoedd iechyd a llesiant.
Mae'r rhaglen uchelgeisiol, a ddatblygwyd mewn partneriaeth rhwng Cyngor Castell-nedd Port Talbot a Celtic Leisure, yn cynnwys cyfleusterau ffitrwydd newydd, llecynnau llesiant arbenigol, cyrtiau padel, a diweddariadau i gampfeydd.
Mae'r rhaglen fuddsoddi'n adeiladu ar ymrwymiad y cyngor i wella cyfleusterau hamdden, ac ar yr un pryd i gefnogi Celtic Leisure i gynyddu aelodaeth, denu defnyddwyr newydd a gwella iechyd ein cymunedau drwy hynny, a helpu i gynhyrchu incwm ychwanegol y gellir ei ailfuddsoddi yn ei dro i wella gwasanaethau,
Canolfan Hamdden Aberafan
Dylai Canolfan Hamdden Aberafan weld buddsoddiad o £708,000, gyda gwaith ar fin dechrau a dyddiad agor arfaethedig yn ystod yr hydref 2026.
Bydd y prosiect yn cynnwys:
Stiwdio Reformer Pilates newydd sbon, i ddarparu cynnig ffitrwydd sydd wedi tyfu'n sylweddol o ran poblogrwydd ledled y DU.
Estyniad i'r gampfa drwy ailddatblygu rhan o oriel wylio'r neuadd chwaraeon.
Llecyn llesiant ac adfer newydd.
Cyflwyno system ffitrwydd EGYM arloesol, gan ddefnyddio technoleg glyfar a rhaglenni wedi'u personoleiddio i gefnogi ymarfer, adferiad a chyflyrau iechyd hirdymor.
Canolfan Hamdden Pontardawe
Gallai Canolfan Hamdden Pontardawe weld trawsnewidiad sylweddol yn digwydd drwy gyfrwng prosiect ailddatblygu arfaethedig sy'n werth £2.1 miliwn.
Ymhlith y cynlluniau mae:
Campfa newydd sbon wedi'i lleoli ar flaen yr adeilad
Llecyn stiwdio ffitrwydd ychwanegol
Campfa hybrid newydd a gynlluniwyd o gwmpas tueddiadau ffitrwydd sydd ar eu prifiant a galwadau gan gwsmeriaid.
Mae'r cynllun yn cael ei gynllunio i gyd-fynd â chynlluniau mwy hirdymor ar gyfer pwll nofio yn yr ardal yn y dyfodol. Er nad yw'r arian i gael pwll nofio newydd wedi'i sicrhau eto, mae'r Cyngor yn ymrwymo £250,000 i symud cynlluniau ymlaen i'r cam nesaf.
Mae'r gwaith yn dangos ymroddiad parhaus y Cyngor i ddarparu cyfleuster nofio modern ar gyfer Cwm Tawe pan fydd cyfleoedd ariannu'n dod i'r fei.
Canolfan Hamdden Castell-nedd
Clustnodwyd Canolfan Hamdden Castell-nedd ar gyfer dau gwrt tenis Padel newydd, gan ddod ag un o'r chwaraeon sy'n cynyddu gyflymaf ym Mhrydain i Gastell-nedd.
Bydd y prosiect yn trawsnewid cyrtiau tenis sy'n cael eu tanddefnyddio ar hyn o bryd, ac, yn ddibynnol ar ganiatâd cynllunio, gallent fod yn barod erbyn y gwanwyn 2027.
Yn ogystal, mae Celtic Leisure yn bwriadu buddsoddi rhyw £150,000 o'i gronfeydd wrth gefn ei hunan i ddiweddaru'r gampfa drwy osod offer newydd a chyfleusterau mwy modern.
Canolfan Hamdden Cwm Nedd
Mae cynlluniau cynnar hefyd yn cael eu datblygu i ddiweddaru cyfleusterau'r gampfa yng Nghanolfan Hamdden Cwm Nedd yng Nglyn-nedd. Er bod y cynlluniau'n dal i fod yn eu babandod, mae Celtic Leisure wedi cadarnhau'i fwriad i wella'r cyfleuster ar gyfer cwsmeriaid.
Yn ôl y Cynghorydd Cen Phillips, Aelod Cabinet dros Natur, Twristiaeth a Llesiant:
"Mae'r rhaglen fuddsoddi'n dangos ein hymrwymiad i ddarparu cyfleusterau hamdden o ansawdd uchel ar gyfer cymunedau ledled Castell-nedd Port Talbot. O leoliadau ffitrwydd arloesol yn Aberafan i gyfleoedd chwaraeon newydd cyffrous yng Nghastell-nedd a gwelliannau o bwys ym Mhontardawe, bydd y prosiectau hyn yn helpu mwy o bobl i ddod yn heini, gwella eu llesiant, a mwynhau cyfleusterau modern yn agosach at gartref."
Ychwanegodd Jamie Brown, Prif Swyddog Gweithredol, Celtic Leisure:
“Rydyn ni wrth ein bodd o fod yn gweithio gyda Chyngor Castell-nedd Port Talbot ar y rhaglen fuddsoddi uchelgeisiol hon. Bydd y datblygiadau hyn yn trawsnewid y profiad i gwsmeriaid ar draws ein cyfleusterau, gan helpu mwy o bobl i ddod yn heini, gwella eu hiechyd a mwynhau manteision gwasanaethau hamdden modern o ansawdd uchel. Yn bwysig, bydd y buddsoddiad hwn hefyd yn cryfhau cynaliadwyedd hirdymor ein canolfannau, gan ein galluogi i ailfuddsoddi mewn cyfleusterau a gwasanaethau sy'n cefnogi cymunedau iachach ar draws y fwrdeistref sirol."
Disgwylir i'r rhaglen fuddsoddi wella cyfleusterau ar gyfer preswylwyr a thyfu cyfranogiad mewn gweithgaredd corfforol, chwaraeon a gwasanaethau llesiant ar draws Castell-nedd Port Talbot ar yr un pryd. Rhagwelir y bydd y cynlluniau hefyd yn cynhyrchu incwm ychwanegol sylweddol dros y blynyddoedd i ddod, gan helpu i leihau costau hirdymor gweithredu cyfleusterau hamdden, a chefnogi'u cynaliadwyedd i'r dyfodol.