Datganiad I'r Wasg
Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn Cymeradwyo Rhaglen Gyfalaf Ddiweddaredig ar gyfer 2026–2029
30 Medi 2026
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi amlinellu camau nesaf ei Strategaeth Gyfalaf a'i Raglen Gyfalaf ar gyfer 2026/27 tan 2028/29. Mae'n dangos sut y bydd yn darparu'r buddsoddiad mwyaf erioed a wnaed i isadeiledd y fwrdeistref sirol, gwasanaethau ac adfywio.
Mae'r rhaglen, a gymeradwywyd gan y Cabinet, yn dangos ymroddiad hirdymor i gefnogi cymunedau drwy gynllunio ariannol gofalus a lefelau digynsail o fuddsoddi cyfalaf. Wrth i gam nesaf y rhaglen ddechrau, bydd cyllid yn cael ei gyfeirio tuag at gynnal a gwella adeiladau allweddol, darparu prosiectau adfywio mawr, a sicrhau fod asedau cyhoeddus hanfodol yn parhau i fod yn addas i'w pwrpas.
Bydd y buddsoddiad digynsail hwn yn helpu i yrru twf economaidd, gwella gwasanaethau lleol a chreu manteision parhaol i breswylwyr ledled Castell-nedd Port Talbot.
Mae ein rhaglen gyfalaf ddiweddaredig ar gyfer 2026/27 yn £180.760m, gan adlewyrchu ceisiadau llwyddiannus am arian allanol a record gref y Cyngor o ran sicrhau buddsoddiad ar gyfer adfywio ac isadeiledd lleol.
Mae'r Cyngor yn parhau i fod yn ymroddedig i ddarparu prosiectau sy'n cryfhau ein cymunedau ac yn gwella ansawdd bywyd i breswylwyr ledled Castell-nedd Port Talbot. Mae'r prosiectau'n dangos cynnydd yn gynt na'r amserlen ar hyn o bryd.
Dywedodd y Cynghorydd Simon Knoyle, Aelod Cabinet dros Gyllid, Perfformiad a Chyfiawnder Cymdeithasol:
“Mae'r Rhaglen Gyfalaf hon yn dangos ein hymrwymiad clir i fuddsoddi yn nyfodol Castell-nedd Port Talbot. Wrth i ni symud i gam nesaf y rhaglen, rydyn ni'n darparu'r buddsoddiad cyfalaf mwyaf erioed a wnaed i'n bwrdeistref sirol, gan helpu i foderneiddio isadeiledd, cryfhau gwasanaethau allweddol a gyrru adfywiad mewn cymunedau ledled Castell-nedd Port Talbot. Bydd y buddsoddiad yn sicrhau fod preswylwyr yn elwa o gyfleusterau diogel, cynaliadwy o ansawdd uchel am genedlaethau i ddod.
“Ar adeg pan fod gwasgfeydd ariannol yn parhau, rydyn ni'n dal i fod yn llwyr ganolbwyntio ar gynllunio ariannol cyfrifol hirdymor sy'n darparu gwerth go iawn i'n cymunedau. Drwy dargedu buddsoddiad ble bydd yn cael yr effaith fwyaf, rydyn ni'n cefnogi twf economaidd, yn gwella gwasanaethau cyhoeddus ac yn creu cyfleoedd a fydd yn gwella ansawdd bywyd ar draws y fwrdeistref sirol."