Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Datganiad I'r Wasg

Gŵyl Fwyd a Diod Castell-nedd yn Ôl gyda Llond Penwythnos o Wledd yn llawn Hwyl a Blas

01 Hydref 2026

Mae canol tref Castell-nedd yn cael ei drawsnewid yn ganolbwynt bywiog o ddiwylliant bwyd ar gyfer Gŵyl Fwyd a Diod boblogaidd y dref.

Neath Food and Drink Festival

Dydd Gwener a Sadwrn yma (2 a 3 Hydref), bydd y digwyddiad rhad ac am ddim sy'n croesawu teuluoedd yn dod â'r dref yn fyw gyda chymysgedd cyffrous o gynhyrchwyr bwyd lleol, masnachwyr crefftus ac adloniant byw.

Gall ymwelwyr bori drwy ystod ragorol o stondinau sy'n cynnwys ffefrynnau fel Gourmet Gower Fudge, Gareth's Delicious Delights, Baked by Jones a That Doughnut Place, law yn llaw ag ychwanegiadau newydd sy'n cynnwys Don Levi Tequila.

Bydd y Parth Bwyd Twym prysur yn gweld ffefrynnau'n dychwelyd ac yn eu plith Mac Daddies Mac n Cheese a Loaded Sausage Co yn ogystal â'r newydd-ddyfodiaid The Artisan Cook Pizza a Tipsy Mule Cocktail Bar. Bydd cerddorion lleol yn darparu adloniant byw drwy gydol y penwythnos.

Yn ogystal â'r stondinau bwyd, bydd cogyddion sy'n cerdded ar stiltiau, jyglwyr, band iwcelele a cherddoriaeth fyw ynghanol y dref gan greu awyrgylch fywiog.

Bydd Pabell Fawr yr Ŵyl, a ddarperir ar y cyd â 4theRegion, yn dychwelyd i gyflwyno gweithdai, sgyrsiau cymunedol a chyfleoedd i ddysgu mwy am fentrau bwyd lleol.
 

Meddai'r Cynghorydd Cen Phillips, Aelod Cabinet dros Hamdden, Twristiaeth a Llesiant:

"Daeth Gŵyl Fwyd a Diod Castell-nedd yn un o uchafbwyntiau ein calendr digwyddiadau ac rydyn ni wrth ein bodd i'w chroesawu'n ôl ar gyfer 2026.

"Mae'r ŵyl yn gyfle rhagorol i gefnogi busnesau lleol, profi bwyd a diod gwych, a mwynhau popeth sydd gan ganol ein tref i'w gynnig."


Mae'r ŵyl yn digwydd rhwng 10am a 5.30pm y ddau ddiwrnod.

I gael mwy o wybodaeth ewch i dudalennau Gŵyl Fwyd a Diod Castell-nedd ar wefan Cyngor Castell-nedd Port Talbot neu dilynwch @NeathFoodFest ar y cyfryngau cymdeithasol.

hannwch hyn ar:
Nol i ben y dudalen