Datganiad I'r Wasg
Tref Diwylliant Port Talbot yn Cyhoeddi Sesiynau "Dweud yn Falch" ar gyfer Casglu Adborth gan y Gymuned
02 Hydref 2026
Mae Port Talbot wedi lansio'i ymgyrch yn swyddogol i ddod yn Dref Diwylliant gyntaf Prydain yn 2028, gan wahodd pobl o bob cwr o'r dref a Dyffryn Afan yn ehangach i helpu i roi siâp ar gais uchelgeisiol sy'n rhoi'r gymuned wrth galon ei stori.
Bydd ymgyrch Tref Ddiwylliant Port Talbot 2028 'Dweud yn Falch. Port Talbot' yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu cymunedol wyneb yn wyneb, Sesiynau Dweud yn Falch, dros yr wythnosau nesaf.
Bydd y Sesiynau Dweud yn Falch, a gynlluniwyd i glywed yn uniongyrchol oddi wrth bobl leol ynghylch beth yw ystyr diwylliant iddyn nhw a'r hyn yr hoffen nhw ei weld yn nyfodol y dref, yn digwydd ledled Port Talbot a Dyffryn Afan.
Yn y sesiynau adborth hyn, bydd preswylwyr, grwpiau cymunedol, busnesau, artistiaid, pobl greadigol, pobl ifanc a sefydliadau o bob cwr i'r ardal yn cael eu holi ynghylch rhoi ffurf ar ddigwyddiadau a mentrau a fydd yn cael eu cynnwys yn y cais, er mwyn gwir adlewyrchu diddordebau'r gymuned a dathlu diwylliant o bob cornel o'r dref a Dyffryn Afan.
Ymysg sesiynau Dweud yn Falch sydd ar y gweill mae:
6 Hydref – digwyddiad rhad ac am ddim, gyda thocynnau, yn y Plaza Newydd ar gyfer ymarferwyr creadigol ac unrhyw un sy'n gweithio neu sy'n gwirfoddoli yn y sector diwylliannol, er mwyn iddyn nhw roi'u hadborth am syniadau ar gyfer y cais.
9 Hydref – Sesiwn galw i mewn rad ac am ddim yn Llyfrgell Cwmafan, gyda chroeso i bawb sydd am rannu'u barn.
10 Hydref – Sesiwn galw i mewn rad ac am ddim yng Nghanolfan Siopa Aberafan, ble gall unrhyw un sydd â diddordeb rannu syniadau am yr hyn y dylid ei gynnwys yng nghais Tref Diwylliant y DU Port Talbot.
14 Hydref – digwyddiad â thocynnau ‘The Founder Network with Richard Hibbard’ yn y Sand Rabbit Bar and Grill, ble bydd aelodau tîm cais Tref Diwylliant y DU Port Talbot ar gael i glywed syniadau.
22 Hydref – Sioe Deithiol CVS Castell-nedd, rhad ac am ddim, yn Eglwys Fethodistaidd Sandfields. Bydd aelodau tîm cais Tref Diwylliant y DU Port Talbot yn bresennol ac yn derbyn adborth gan y cyhoedd.
23 Hydref – Sesiwn galw i mewn cyn y gic gyntaf ar Gaeau Pêl-droed Bechgyn a Merched Trefelin, gan groesawu'r cyhoedd i rannu'u barn.
29 Hydref – Sesiwn galw i mewn yn ystod Diwrnod Hwyl i'r Teulu Croeserw, gan roi cyfle i bawb roi'u hadborth am syniadau'r cais.
I'r rheiny sydd ddim yn gallu mynychu'r digwyddiadau, mae'r Bartneriaeth Tref Diwylliant wedi lansio arolwg er mwyn dal barn pobl leol a sicrhau y gall cynifer o bobl â phosib gyfrannu at y cais a grëir ar y cyd.
Bydd manylion digwyddiadau, a'r straeon diwylliannol sy'n eu cefnogi, yn cael eu rhannu hefyd drwy gyfrwng gwefan swyddogol newydd yr ymgyrch, , ei sianelau cyfryngau cymdeithasol, a chylchlythyron dros e-bost.
Mae Port Talbot yn ymgeisio fel tref o faint canolig, ac os bydd yn llwyddo, byddai'n derbyn £3 miliwn i ddarparu rhaglen o weithgaredd diwylliannol dros flwyddyn gyfan yn 2028. Byddai dwy dref arall yn y rownd derfynol yn derbyn £250,000 yr un i ddatblygu'u rhaglenni diwylliannol eu hunain.
Nod y cais yw goleuo'r creadigrwydd, y doniau, y dreftadaeth a'r ysbryd cymunedol sydd eisoes yn bodoli ar draws Port Talbot a Dyffryn Afan.
Cafodd Port Talbot ei lunio gan ddiwydiant ers amser maith, ond mae yma stori am greadigrwydd a gwytnwch hefyd. O gysylltiadau byd-enwog ag â'r actorion Richard Burton, Anthony Hopkins a Michael Sheen, i'r gweithgaredd cynyddol ym maes celf stryd, cerddoriaeth, y Gymraeg a gweithgareddau diwylliannol dan arweiniad y gymuned, mae gan y dref hunaniaeth ddiwylliannol gyfoethog sy'n aros i gael ei dathlu.
Dywedodd y Cynghorydd Cen Phillips, Aelod Cabinet dros Natur, Twristiaeth a Llesiant:
“Mae'r cais hwn yn ymwneud â Phort Talbot yn adrodd ei stori'i hunan, yn ei llais ei hunan. Gwyddom fod creadigrwydd, doniau, angerdd ac ysbryd cymunedol enfawr ar draws ein tref a Chwm Afan, ac rydyn ni eisiau clywed oddi wrth y bobl sy'n byw, gweithio ac yn creu yma.
"Rydyn ni'n annog aelodau o'r cyhoedd a'r bobl sy'n gweithio, hyfforddi neu'n gwirfoddoli yn y sector diwylliannol i rannu'u barn am yr hyn a ddylai gael ei gynnwys yn y cais, pa fath o ddigwyddiadau diwylliannol yr hoffen nhw eu gweld, a beth sy'n gwneud Port Talbot mor arbennig yn eu barn nhw."
Yn ôl Gemma Charnock, Cadeirydd Partneriaeth Ddiwylliannol Castell-nedd Port Talbot:
“Mae'r sin creadigol, diwylliannol yn ffynnu ym Mhort Talbot, ac mae cymaint o grwpiau a sefydliadau cymunedol yn gweithio i ymgysylltu â mwy o bobl a chyfoethogi bywydau drwy ddiwylliant. Hoffem glywed gan y sefydliadau hyn, a hefyd oddi wrth unigolion ar draws Port Talbot a Dyffryn Afan er mwyn gwneud yn siŵr nad oes yr un stori'n methu â chael ei hadrodd.
"Mae'r cais yn cynnig cyfle unigryw i arddangos y cyfan sydd gan y rhanbarth hwn i'w gynnig, a gwyddom y bydd y gymuned yn croesawu'r cyfle i ddathlu ysbryd unigryw a'r ymdeimlad o berthyn sy'n dod i bawb ohonom yn sgil diwylliant Port Talbot."
Bydd y rhaglen ymgysylltu'n digwydd drwy gydol mis Hydref cyn i ddyddiad cau cyflwyno'r cais ddod ym mis Tachwedd, a bydd y syniadau, uchelgeisiau a'r straeon a gasglwyd oddi wrth gymunedau'n helpu i roi ffurf ar gyflwyniad terfynol y Dref Ddiwylliant 2028.
Yna bydd y dref yn disgwyl clywed y canlyniad, gyda chyhoeddi enillydd llwyddiannus Tref Diwylliant 2028 yn digwydd ym mis Chwefror 2027.
Bydd y dref fuddugol yn derbyn £3 miliwn i gyflawni'i rhaglen o weithgarwch diwylliannol drwy gydol 2028, gan greu cyfle i roi diwylliant wrth galon dyfodol y dref a gadael gwaddol parhaus i'r gymuned.
Dysgwch ragor a llenwch yr arolwg yma: https://porttalbottownofculture.wales/cy/get-involved/