Datganiad I'r Wasg
Dirwyo dyn o Abertawe ar ôl tipio gwastraff yn anghyfreithlon ym Mhontardawe
02 Hydref 2026
Mae perchennog busnes wedi cael gorchymyn i dalu bron i £3,000 ar ôl i lawer iawn o wastraff gael ei ddarganfod mewn ardal wledig o Bontardawe.
Darganfu ymchwiliad gan Dîm Gorfodi Gwastraff Cyngor Castell-nedd Port Talbot fod tri digwyddiad o adael gwastraff anghyfreithlon wedi digwydd ar Heol y Baran ym mis Tachwedd 2025.
Canfu Swyddogion Gorfodi Gwastraff swm sylweddol o wastraff masnachol, gan gynnwys bagiau du, pecynnau bwyd, cardfwrdd a deunyddiau eraill oedd wedi cael eu gadael yno'n anghyfreithlon. Cysylltwyd y gwastraff â mangre busnes yn Abertawe drwy gyfrwng tystiolaeth a adferwyd o'r gwastraff.
Dysgodd ymchwilwyr fod gwastraff o'r busnes wedi cael ei gasglu gan gwmni oedd yn eiddo i Thomas Daniel Landek, oedd hefyd yn rhedeg y busnes. Fe wnaethon nhw gysylltu'r gwastraff â cherbyd a oedd dan reolaeth y dyn 37 oed hefyd. Pan gafodd ei gyfweld dan rybudd, cadarnhaodd Mr Landek mai ef oedd unig gyfarwyddwr y cwmni oedd yn gyfrifol am y gwaith casglu, a bod is-gontractwr wedi gwneud y gwaith gan ddefnyddio un o gerbydau cwmni Landek.
Ymddangosodd Thomas Daniel Landek, 37, of Rodfa Maes-y-gwernen, Cwmrhydyceirw, o flaen Llys Ynadon Abertawe, ble plediodd yn euog i drosedd o dan Adran 33 o Ddeddf Gwarchod yr Amgylchedd 1990 oedd yn ymwneud â dyddodi gwastraff a reolir yn anghyfreithlon.
Cafodd ei ddirwyo am £1,152, ei orchymyn i dalu gordal dioddefwr o £461 a chostau'r erlyniad a iawndal o gyfanswm o £1,246.46, a ddaeth â'r cyfanswm cyffredinol i £2,859.46.
Dywedodd y Cynghorydd Scott Jones, Aelod Cabinet dros Strydlun yng Nghyngor Castell-nedd Port Talbot:
"Roedd yr achos hwn yn cynnwys sawl pentwr mawr o wastraff masnachol ym Mhontardawe, a fyddai wedi achosi niwed sylweddol i'r amgylchedd o'i gwmpas. Mae tipio anghyfreithlon yn niweidio ein cymunedau, ein cefn gwlad a llecynnau cyhoeddus, a byddwn ni'n parhau i ymchwilio i droseddau yn drylwyr a dal y rheiny sy'n gyfrifol yn atebol am eu gweithredoedd.
“Hoffem hefyd atgoffai busnesau ac aelwydydd fel ei gilydd o bwysigrwydd sicrhau fod unrhyw un y byddan nhw'n ei dalu i fynd â gwastraff i ffwrdd yn berchen ar awdurdod llawn, a'u bod yn ei waredu'n gyfreithlon.”