Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Datganiad I'r Wasg

Arweinydd Newydd y Cyngor yn galw am i Gastell-nedd Port Talbot fod “yn gryfach, yn decach ac yn fwy gwydn”

14 Hydref 2026

Mae'r Cyngh. Scott Jones yn dweud y bydd “cyllido teg a diogelu gwasanaethau hollbwysig” ar frig ei agenda wrth iddo gael ei gadarnhau fel Arweinydd newydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot.

Cllr Scott Jones has been confirmed as the new Leader of Neath Port Talbot Council

Yn dilyn penderfyniad yng nghyfarfod y Cyngor Llawn heddiw (ddydd Mercher 14 Hydref), mae'r Cyngh. Jones – Cynghorydd Annibynnol sy'n cynrychioli ward Gwynfi a Chroeserw – bellach wedi cael ei ddewis yn swyddogol ar gyfer y rôl.

Wrth siarad yn y Siambr, soniodd Arweinydd newydd y Cyngor, y Cyngh. Scott Jones, am bwysigrwydd gwaith tîm i weinyddiaeth lwyddiannus:

“Yn rhinwedd fy rôl fel yr Aelod Cabinet dros Strydlun, rwyf wedi gweithio ochr yn ochr â swyddogion a chynghorwyr ymroddedig i sicrhau buddsoddiad yn ein cymunedau, gwella parciau a mannau cyhoeddus, atgyfnerthu amddiffynfeydd rhag llifogydd, gwneud gwelliannau amgylcheddol a rhagori ar dargedau ailgylchu Llywodraeth Cymru. Roedd y cyflawniadau hynny'n bosibl diolch i waith tîm, gweithio mewn partneriaeth a ffocws clir ar sicrhau canlyniadau ymarferol i drigolion.

“Maen nhw wedi atgyfnerthu fy nghred nad yw arweinyddiaeth effeithiol byth yn golygu un unigolyn. Mae'n golygu dod â phobl ynghyd, eu cefnogi a chreu'r amodau i bawb gyfrannu. Yr egwyddor honno fydd yn llywio'r ffordd y byddaf yn arwain y Cyngor.”

Hefyd, amlinellodd y Cyngh. Scott Jones ei flaenoriaethau cyllidebol ar gyfer ei dymor fel Arweinydd:

“Un flaenoriaeth allweddol y bydd yn rhaid mynd i'r afael â hi ar unwaith yw cyflwyno'r achos cryfaf posibl dros setliad cyllideb teg a chynaliadwy i Gastell-nedd Port Talbot. Mae'r pwysau ariannol sy'n wynebu llywodraeth leol yn sylweddol o hyd, a byddwn yn gweithio'n adeiladol gyda'n partneriaid i sicrhau'r adnoddau y bydd eu hangen i ddiogelu gwasanaethau hollbwysig a chefnogi'r bobl sy'n dibynnu arnynt.”

Bydd y Cynghorydd Scott Jones nawr yn ymgymryd â dyletswyddau'r Arweinydd, ar ôl i'r Arweinydd blaenorol, y Cyngh. Steve Hunt, ymddiswyddo ym mis Medi.

Y Cynghorydd Carl Jordan fydd yr Aelod Cabinet dros Strydlun yng Nghyngor Castell-nedd Port Talbot o hyn ymlaen.
 

hannwch hyn ar:
Nol i ben y dudalen