Datganiad I'r Wasg
Gorfodi Contractiwr Symud Gwastraff i dalu Miloedd ar ôl Tipio 14 Bag o Sbwriel yn Anghyfreithlon dan Drosffordd yr M4
22 Hydref 2026
Mae casglwr gwastraff a gododd bron i £500 ar gwsmer wedi cael ei erlyn a'i orfodi i dalu miloedd o bunnoedd ar ôl dympio llawer o wastraff o gartrefi yn anghyfreithlon o dan drosffordd yr M4 ger Port Talbot.
Galwyd swyddogion gorfodi i dip anghyfreithlon mawr ym Mharc Ynni Baglan dan drosffordd yr M4 ar Ffordd Brunel ar 1 Mehefin 2026. Roedd 14 bag du mawr yno'n cynnwys gwastraff o gartrefi gan gynnwys teganau, dillad ac offer cegin.
Arweiniodd tystiolaeth o'r gwastraff y swyddogion i gyfeiriad yng Nghwmafan, ble gwnaed ymholiadau gyda pherchennog yr eiddo a gadarnhaodd eu bod wedi trefnu i wastraff oedd wedi cael ei adael gan gyn-denant gael ei symud o'r eiddo.
Enw'r cwmni a logwyd i symud a gwaredu'r gwastraff oedd All In One Construction oedd wedi ymateb i hysbyseb ar lein. Dangosodd tystiolaeth gan lygad-dystion fod perchennog y busnes, Nathan Pearce wedi dod i'r cyfeiriad ar ddau achlysur i symud gwastraff o'r cartref a gwastraff adeiladu, gan gynnwys teils o'r to ac asbestos. Talwyd cyfanswm o £490 am y gwasanaeth symud gwastraff.
Dangosodd ymholiadau pellach fod cerbyd oedd wedi'i gysylltu â Nathan Pearce, 35 oed, wedi mynychu Canolfan Ailgylchu Llansawel ar 27 Mai 2026 – yr un diwrnod y casglwyd y gwastraff o'r eiddo. Cadarnhaodd llygad-dystion fod yr eitemau oedd wedi'u hadfer o'r tipio anghyfreithlon wedi dod o'r cyfeiriad hwnnw. Dangosodd CCTV ddyn oedd yn debyg i Nathan Pearce yn siarad ag aelod o staff cyn ymadael. Yn ddiweddarach, canfuwyd y gwastraff wedi'i ddympio mewn safle ddau funud oddi wrth y ganolfan ailgylchu.
Yn ystod cyfweliad dan rybuddiad ym mis Gorffennaf 2026, atebodd Nathan Pearce "dim sylw" i bob cwestiwn a ofynnwyd iddo.
Yn Llys Ynadon Abertawe ddydd Iau 15 Hydref, plediodd Nathan Pearce, 35 o The Granary, Abercych, Sir Benfro, yn euog i'r troseddau isod:
- Gwaredu gwastraff rheoledig yn anghyfreithlon, yn groes i Adran 33(1)(a) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.
- Cludo gwastraff rheoledig heb fod wedi'i gofrestru fel cludwr gwastraff, yn groes i Adran 1 o Ddeddf Rheoli Llygredd (Diwygio) 1989.
Bellach, bydd yn rhaid iddo dalu:
- £461 am bob trosedd
- £794.54 mewn costau
- £369 o ardoll dioddefwr
CYFANSWM: £2,085.54
Rhaid iddo dalu £100 y mis fel rhan o orchymyn casglu.
Dywedodd y Cynghorydd Carl Jordan, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Strydlun:
"Mae pobl sy'n talu i wastraff gael ei symud yn disgwyl, yn hollol iawn, iddo gael ei waredu'n gyfreithlon a chyfrifol. Yn hytrach, yn yr achos hwn, dympiwyd swm sylweddol o wastraff o dan lwybr trafnidiaeth o bwys, gan greu hylltod i'r llygad ac arwain at gostau glanhau diangen sy'n cael eu talu amdanynt yn anuniongyrchol gan y cyhoedd.
"Rydyn ni'n dal i fod yn hollol ymroddedig i daclo troseddau amgylcheddol a byddwn ni'n parhau i fynd ar ôl y rheiny sy'n dewis niweidio ein cymunedau drwy waredu gwastraff yn anghyfreithlon.
"Hoffwn annog preswylwyr ledled Castell-nedd Port Talbot i ofalu amdanyn nhw'u hunain drwy sicrhau fod unrhyw un y maen nhw'n eu defnyddio i symud gwastraff yn meddu ar drwydded gywir fel cludwr gwastraff. Gall gofyn am weld trwydded cludwr gwastraff, a chael manylion y lleoliad ble bydd y gwastraff yn mynd, yn gallu helpu i atal achosion pellach fel hyn."
Gallwch wirio ble mae eich canolfan ailgylchu agosaf, archebu slot amser, ac adrodd am dipio anghyfreithlon drwy gyfrwng cyfrif myNPT: https://my.npt.gov.uk neu drwy gyfrwng gwefan Cyngor Castell-nedd Port Talbot: https://www.npt.gov.uk/cy/biniau-ac-ailgylchu/ailgylchu-a-chynaliadwyedd/canolfannau-ailgylchu/