Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Datganiad I'r Wasg

Enillydd Britain’s Got Talent, Paul Potts “Wedi Cyffroi” i fod yn Eitem Agoriadol ar gyfer lleoliad newydd Port Talbot,

22 Hydref 2026

Mae'r canwr Paul Potts yn dweud y bydd ei gyngerdd 20fed pen blwydd yn Yr Aelwyd yn ddigwyddiad 'eithriadol o arbennig'.

Britain’s Got Talent Winner, Paul Potts “Excited” to be Opening Act for Port Talbot’s new Yr Aelwyd venue

Mae'r tenor o Gymru sydd wedi ennill clod ledled y byd yn dychwelyd i'w dref enedigol, Port Talbot, ar gyfer dathliad ugain mlynedd arbennig yn y lleoliad sydd newydd ei adnewyddu yn Sgwâr Dinesig Port Talbot, a arferai gael ei adnabod fel Theatr y Dywysoges Frenhinol.

Yn ôl yn 2007, cerddodd Paul Potts i ganol llwyfan y sioe deledu Britain's Got Talent, a chanu Nessun Dorma, er gwaetha'i nerfau. Nid yn unig enillodd y gystadleuaeth; newidiodd ei berfformiad ei fywyd ac fe ddaeth yn un o'r eiliadau mwyaf bythgofiadwy yn hanes teledu.

Aeth ei albwm gyntaf, One Chance, yn llwyddiant rhyngwladol aml-Blatinwm, gan ddod i frig y siartiau mewn 13 o wledydd. Yn ei thro, daeth ei stori anhygoel yn bwnc ar gyfer y ffilm Hollywood One Chance, gyda James Corden yn serennu. Yn fwy diweddar, cynhwyswyd recordiad Paul o Nessun Dorma yn ffenomenon fyd-eang Netflix, Squid Game 2, gan gyflwyno'i berfformiad eiconig i genhedlaeth newydd o wylwyr.

Bellach, ar ôl dwy ddegawd a thros ddwy fil o berfformiadau mewn 45 o wledydd, mae Paul Potts yn dod adref. Ar nos Sadwrn 27 Chwefror 2027. bydd yn perfformio mewn cyngerdd Dod Adref arbennig yn safle Yr Aelwyd, a fydd newydd gael ei ailagor.

Bydd y gyngerdd Dod Adref yn dathlu dwy ddegawd eithriadol o yrfa Paul, gan ddwyn ynghyd y gerddoriaeth a ddiffiniodd ei daith gyda straeon o'r llwybr rhyfeddol a'i cludodd o Bort Talbot i lwyfannau ledled y byd.

Dywed Paul Potts ei fod yn edrych ymlaen at berfformiad 'eithriadol o arbennig':

"Dwi wir yn llawn cyffro, ac yn teimlo anrhydedd fawr, o gael fy newis i agor y theatr sydd newydd gael ei hadnewyddu ym Mhort Talbot. Mae Port Talbot yn gartref i lawer iawn o ddiwylliant ar draws meysydd ffilm, cerddoriaeth a theatr, ac mae'n fraint go iawn i fod yn agor theatr Yr Aelwyd.

"Dwi wedi treulio 20 mlynedd yn teithio'r byd a dwi wedi bod yn eithriadol o lwcus i berfformio mewn cynifer o leoedd gwirioneddol anhygoel," meddai Potts. "Ond Port Talbot fydd gartref i fi bob amser. Mae gallu dod adref 20 mlynedd yn ddiweddarach a dechrau'r dathlu yn y fan hon, adeg ailagor Yr Aelwyd, yn eithriadol o arbennig. Alla i wir ddim â meddwl am ffordd well o nodi'r pen blwydd."

Dywedodd y Cynghorydd Cen Phillips, Aelod Cabinet dros Natur, Twristiaeth a Llesiant:

"Mae ailagor Yr Aelwyd yn nodi pennod newydd a chyffrous ym mywyd diwylliannol Port Talbot, ac mae'n addas mai un o berfformwyr mwyaf llwyddiannus a mwyaf cydnabyddedig yn rhyngwladol fydd yn ein helpu i ddathlu'r achlysur hwnnw.

"Mae taith eithriadol Paul o Bort Talbot i lwyfannau ledled y byd yn ysbrydoliaeth, ac rydyn ni wrth ein bodd i'w groesawu adref ar gyfer y cyngerdd pen blwydd arbennig hwn. Mae hon yn addo bod yn noson fythgofiadwy sy'n arddangos balchder, doniau a threftadaeth ddiwylliannol ein cymuned, a dangos ar yr un pryd gymaint o ddyfodol llachar sydd gennym ar gyfer y celfyddydau ac adloniant ym Mhort Talbot."

I archebu tocynnau, ewch i: porttalbottheatre.com/ticketbooth neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau yn uniongyrchol ar 01639 763214 (Llun, Mercher a Gwener: 9.30 – 12.30 a 13.30 – 16.15) 

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, gallwch hefyd e-bostio porttalbottheatre@npt.gov.uk. 

hannwch hyn ar:
Nol i ben y dudalen