Datganiad I'r Wasg
Gwasanaethau a gorymdeithiau Sul y Cofio yng Nghastell-nedd a Phort Talbot
29 Hydref 2026
Cafodd manylion y gwasanaethau a'r gorymdeithiau i nodi Sul y Cofio a gynhelir yng Nghastell-nedd a Phort Talbot ddydd Sul 8 Tachwedd 2026 eu cyhoeddi.
Bydd y digwyddiadau blynyddol yn dod â chymunedau ynghyd i gofio a thalu teyrnged i bawb sydd wedi gwasanaethu ac aberthu mewn rhyfeloedd ddoe a heddiw.
Port Talbot:
9.00am – Cau heolydd yn dod i rym.
9.30am – Cyfranogwyr yn ymgasglu ar gyfer yr orymdaith yn Hyb Trafnidiaeth Port Talbot.
10.25am – Yr orymdaith yn cychwyn o Hyb Trafnidiaeth Port Talbot.
10.40am – Yr orymdaith yn cyrraedd Parc Coffa Talbot.
10.45am – Gwasanaeth y Cofio yn dechrau ym Mharc Coffa Talbot.
11.00am – Y Caniad Olaf, ac yna 2 funud o dawelwch.
11.20am – Yr orymdaith yn dychwelyd i Hyb Trafnidiaeth Port Talbot.
11.30 am – Saliwt wrth y llwyfan y tu fas i'r Plaza.
12 Hanner Dydd – Yr orymdaith yn dod i ben.
1.00pm – Cau heolydd yn gorffen.
Castell-nedd:
9.00am – Cau heolydd yn dod i rym.
9.15am – Cyfranogwyr yn ymgasglu yn Eglwys Dewi Sant, Castell-nedd.
9.30am – Gwasanaeth eglwysig yn dechrau.
10.20am – Gwasanaeth eglwysig yn dod i ben
10.35am – Cyfranogwyr yn ymgasglu ar gyfer yr orymdaith ar Stryd Dewi Sant
10.40am – Yr orymdaith yn dechrau.
10.50am – Yr orymdaith yn cyrraedd Clwydi Coffa Gnoll
11.00am – Gweithred o Gofio.
11.15am – Cyfranogwyr yn ymgasglu er mwyn i'r orymdaith ddychwelyd er mwyn derbyn y saliwt P wrth y llwyfan ar Heol Cedar.
12 Hanner Dydd – Yr orymdaith yn dod i ben a chau heolydd yn gorffen.
Dywedodd y Cynghorydd Wyndham Griffiths, un o Hyrwyddwyr y Lluoedd arfog ar Gyngor Castell-nedd Port Talbot: “Mae Sul y Cofio yn rhoi cyfle pwysig i ni ddod ynghyd fel cymunedau i gofio am y rheiny a wnaeth yr aberth eithaf ac i dalu teyrnged i bawb sydd wedi gwasanaethu."
Dywedodd ei gyd-hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd Tim Bowen: “Hoffem annog preswylwyr o bob cwr o'r fwrdeistref sirol i ymuno â ni wrth i ni gyd-sefyll i gofio."
Cynhelir digwyddiadau Sul y Cofio yn ogystal yn Llansawel, Ystalyfera a Phontardawe dan nawdd cynghorau tref a chymuned, gyda chymorth sefydliadau gwirfoddol.