Datganiad I'r Wasg
£500,000 o Fuddsoddiad Ychwanegol i Ddarparu Mwy o Welliannau Heolydd a Diogelwch ar draws Castell-nedd Port Talbot
30 Hydref 2026
Bydd preswylwyr ledled Castell-nedd Port Talbot yn elwa o fuddsoddiad ychwanegol o £500,000 ar gyfer trwsio ffyrdd, diogelwch ar yr heolydd a chynlluniau gwella trafnidiaeth fel rhan o Raglen Wella Cymdogaethau uchelgeisiol y Cyngor.
Bydd y cyllid ychwanegol yn cynyddu buddsoddiad y rhaglen mewn priffyrdd i £3.4 miliwn, gan helpu i sicrhau y bydd y pecyn llawn o welliannau a gynlluniwyd yn cael eu cyflawni mewn cymunedau ledled y fwrdeistref sirol.
Bydd y buddsoddiad ychwanegol, a ariannwyd drwy gyfrwng cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru, yn cefnogi ystod eang o waith a gynlluniwyd i wella teithiau beunyddiol, cynyddu diogelwch ar yr heolydd a chryfhau isadeiledd lleol ar gyfer preswylwyr a busnesau fel ei gilydd.
Mae'r rhaglen yn cynnwys:
Trwsio tyllau yn barhaol
Rhoi arwyneb newydd ar heolydd a gwaith clytio arwynebau.
Gwelliannau i'r modd y rheolir trafnidiaeth
Cynlluniau diogelwch ar yr heolydd a amlygwyd drwy ymgysylltu ag aelodau lleol a chymunedau.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Strydlun, y Cynghorydd Carl Jordan:
"Mae'r buddsoddiad ychwanegol hwn yn dangos ein hymroddiad i wella heolydd ac isadeiledd trafnidiaeth ar draws Castell-nedd Port Talbot. Drwy glustnodi hanner miliwn o bunnoedd yn fwy, rydyn ni'n sicrhau fod cymunedau'n derbyn yr ystod lawn o welliannau a gynlluniwyd yn wreiddiol dan nawdd y Rhaglen i Wella Cymdogaethau.
"Bydd y gwaith hwn yn helpu i wella cyflwr yr heolydd, yn gwneud teithiau'n fwy diogel i bawb ac yn darparu manteision parhaol i breswylwyr ar draws y fwrdeistref sirol."
Sefydlwyd y Rhaglen i Wella Cymdogaethau er mwyn darparu gwelliannau ymarferol, mawr eu heffaith, mewn cymunedau ar draws Castell-nedd Port Talbot. Mae elfen briffyrdd y rhaglen yn cyd-fynd â rhaglen fuddsoddi barhaus y Cyngor mewn priffyrdd, ac mae'n canolbwyntio ar ddarparu gwelliannau gweladwy sy'n cyfri i breswylwyr.
Bydd yr arian ychwanegol yn galluogi'r Cyngor i gwblhau’r rhaglen lawn o gynlluniau i drwsio ffyrdd, rheoli trafnidiaeth ,a diogelwch ar yr heolydd ledled y fwrdeistref sirol, gan ddod â gwell cyflwr ar yr heolydd, teithio mwy diogel ac amgylchfyd gwell mewn cymdogaethau i gymunedau lleol.
I ddarllen yr adroddiad yn llawn, cliciwch yma (ddim ar gael yn Gymraeg)
https://democracy.npt.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=158&MId=12915