Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Datganiad I'r Wasg

Canmol Parc Gwledig Gnoll am “Nodweddion Hanesyddol Unigryw” wrth iddo Ddathlu Gwobr Dreftadaeth Werdd Gyntaf

14 Gorffennaf 2026

Mae parc gwledig yng Nghastell-nedd yn dathlu ei Achrediad Safle Treftadaeth Werdd cyntaf erioed oddi wrth Cadw Cymru'n Daclus.

Gnoll Country Park

Mae'r wobr a roddwyd i Barc Gwledig Ystâd Gnoll yn cydnabod fod y safle'n cynnig safonau cadwraeth cryf a nodweddion hanesyddol sy'n cael eu cynnal a'u cadw'n dda.

Mae'n ymuno â Pharc Margam a enillodd yr un teitl ym mis Gorffennaf 2018, ac sy'n ei gadw unwaith eto eleni.
Mae Gardd Gymunedol Fairyland wedi ennill ei Wobr Gymunedol gyntaf hefyd, sy'n cydnabod parciau a llecynnau gwyrdd lleol o safon uchel a reolir yn dda.

Mae hi'n 30ain pen blwydd gwobrau'r Faner Werdd, a gydnabyddir erbyn hyn mewn dros ugain o wledydd. Maen nhw'n tynnu sylw at y parciau a'r llecynnau gwyrdd gorau oll ac yn eu canmol, er mwyn i ymwelwyr wybod eu bod nhw, o ymweld â lle sy'n cyhwfan Baner Werdd, yn dod i le eithriadol â'r safonau uchaf.

Am y drydedd flwyddyn o'r bron, mae Cymru'n dal y record am fwy o Wobrau Cymunedol y Faner Werdd na'r un wlad arall sy'n darparu cynllun y Faner Werdd ar draws y byd.

Y 15 parc / llecyn gwyrdd ar draws Castell-nedd Port Talbot â statws Baner Werdd yw:  

•    Parc Gwledig Ystâd Gnoll: Enillydd gwobr Baner Werdd lawn ac erbyn hyn yn enillydd Gwobr Treftadaeth. Yn derbyn clod am greu cynefinoedd. Rheolir gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot.

•    Parc Gwledig Margam: Enillydd achrediadau'r Faner Werdd Lawn a'r Safle Trreftadaeth Werdd. Rheolir gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot.

•    Parc Coffa Talbot (Port Talbot): Mae'n dal statws Baner Werdd Lawn i gydnabod ymwneud eithriadol gan y gymuned a safonau amgylcheddol. Rheolir gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot.

•    Gerddi Fictoria (Castell-nedd): Parc canol tref hanesyddol a gynhelir yn hardd iawn sy'n dal Baner Werdd Lawn. Rheolir gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot.

•    Campws y Bae Prifysgol Abertawe: Statws Baner Werdd Lawn. Fe'i dethlir am waith cadwraethol eang sy'n cynnwys gwestyau i drychfilod.

•    Gardd Gymunedol Fairyland: Gwobr Gymunedol Baner Werdd. Mae grŵp gwirfoddol Forward 4 Fairyland a Chymdeithas Rhandiroedd Fairyland yng Nghastell-nedd wedi trawsnewid ystâd drwy ddatblygu llecynnau tyfu lleol.  

•    Parc Gwledig Craig Gwladus: Gwobr Gymunedol Baner Werdd. Mae'r safle'n gartref balch i 9km o lwybrau troed, a rhai'n cynnwys treftadaeth gweithfeydd glo.  

•    Clwb Trotian Dyffryn Aman: Gwobr Gymunedol Baner Werdd am safonau amgylcheddol eithriadol, rheolaeth gan y gymuned a llecyn gwyrdd o safon uchel.

•    Tyfwyr Cymunedol Cilybebyll: Gwobr Gymunedol Baner Werdd. Dan ofal gwirfoddolwyr lleol ymroddedig a'r gymuned. Lleolir ger pentref Cilybebyll a'i gymydog  Pontardawe.

•    Perllan Gymunedol Cwmafan: Gwobr Gymunedol Baner Werdd.. Ymddiriedolaeth fach leol sy'n plannu a thyfu amrywiaeth o goed ffrwythau treftadaeth.  

•    Gardd Gymunedol Sandfields: Gwobr Gymunedol Baner Werdd. Lle croesawgar ble gall pobl gwrdd, tyfu cynnyrch ffres a chefnogi bioamrywiaeth.

•    Canolfan Cyfeillion a Chymdogion: Gwobr Gymunedol Baner Werdd. Dyma sefydliad sy'n dod â phobl ynghyd i greu cymuned, cynnig teithiau dydd a boreau coffi.

•    Gardd Natur Parc Vivan: Gwobr Gymunedol Baner Werdd. Mae'n cynnig amgylchedd heddychlon i deuluoedd ac unigolion.

•    Gardd y Bobl: Gwobr Gymunedol Baner Werdd. Gardd gymunedol a leolir yn YMCA Castell-nedd.

•    Parc Glanyrafon Glantawe, Pontardawe: Gwobr Gymunedol Baner Werdd. Lleoliad heddychlon a hardd sy'n enwog am y rhodfeydd prydferth ar lan yr afon.


Yn ôl yr Aelod Cabinet dros Natur, Twristiaeth a Llesiant, y Cynghorydd Cen Phillips:

“Dwi wedi dwlu i weld ein parciau ardderchog yn cael eu cydnabod gan Cadw Cymru'n Daclus. Maen nhw'n ased allweddol i'r gymuned, ac mae llawer iawn o waith caled yn digwydd y tu ôl i'r llenni – yn bennaf gan wirfoddolwyr ymroddedig – i beri fod gwobrau fel hyn yn bosib.

"Anfonaf fy niolch a'm llongyfarchion i bawb sy'n gwneud y llecynnau gwyrdd hyn mor groesawgar, addysgiadol, diogel, a phleserus i breswylwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd. Mae'r gwobrau hyn yn bethau i fod yn falch iawn ohonyn nhw." 


Dywedodd Prif Weithredwr Cadw Cymru'n Daclus, Owen Derbyshire:  

"Rydyn ni wrth ein bodd o weld cynifer o lecynnau gwyrdd ar draws Castell-nedd Port Talbot yn cael eu cydnabod yng Ngwobrau Baner Werdd eleni. O barciau'r rheng flaen i erddi cymunedol, mae'n glir fod y sir yn blaenoriaethu ansawdd ar draws pob math o lecyn gwyrdd, er mwyn i bawb allu eu mwynhau,
"Llongyfarchiadau i i Ardd Gymunedol Fairyland ar ennill gwobr Gymunedol gyntaf, ac i Barc Gwledig Gnoll ar ennill Achrediad Safle Treftadaeth Werdd am y tro cyntaf; gyda Pharc Gwledig Margam yn dal gafael ar y statws hwnnw. Mae'r ddau barc wedi gwneud gwaith rhagorol wrth warchod eu nodweddion hanesyddol unigryw a helpu ymwelwyr i gysylltu â'r gorffennol.

"Gyda dim ond 14 safle Treftadaeth Werdd i'w cael ledled Cymru gyfan, mae cael dau safle yng Nghastell-nedd Port Talbot yn bluen go iawn yng nghap yr ardal. Mae llecynnau gwyrdd yn chwarae rhan hanfodol o gefnogi iechyd a llesiant ein cymunedau. Hoffem ddiolch i bawb sy'n cymryd rhan yn y gwaith o ofalu am y safleoedd hyn, am eu hymroddiad disyfl i feithrin llecynnau gwyrdd croesawgar a chynhwysol."

Gellir dod o hyd i restr lawn o wobrau ar wefan Cadw Cymru'n Daclus: https://keepwalestidy.cymru/our-work/awards/green-flag-parks/ 

 

hannwch hyn ar:

Rhannu eich Adborth