Datganiad I'r Wasg
Gwaith yn Dechrau ar Safle Newydd Ysgol Gynradd Gymraeg Rhosafan yn Sandfields, Port Talbot
13 Chwefror 2026
Mae gwaith wedi dechrau ar ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd sbon fydd yn cynnwys yr holl adnoddau mwyaf cyfoes ym Mhort Talbot, gyda rhawiau’n torri’r pridd yr wythnos hon.
Bydd y datblygiad trawiadol newydd yn dod yn lle Ysgol Gynradd Gymraeg Rhosafan a chanolfan hyfforddi Tir Morfa, a fydd yn cael eu dymchwel ar ôl i’r cyfleusterau newydd gael eu cwblhau.
Bydd y prosiect yn darparu amgylchedd dysgu modern ac amgylcheddol gynaliadwy ar gyfer hyd at 511 o ddisgyblion, gan gynnwys darpariaeth feithrin a gofal plant, Uned Anghenion Dysgu Ychwanegol, a lleoedd am ran o’r dydd ar gyfer Uned Drochi Gymraeg (WIU).
Bydd y datblygiad yn cynnwys adeilad ysgol rhannol unllawr, rhannol ddeulawr, ynghyd â maes chwaraeon, ardal chwaraeon amlddefnydd (MUGA), ardaloedd chwarae, gwelliannau i’r briffordd a mynediad, tirlunio helaeth, a gwaith cysylltiol, Bydd yr ysgol newydd yn cynnig lleoliadau o ansawdd uchel ar gyfer dysgu ac addysgu, law yn llaw â gwelliant nodedig i gyfleusterau gan gynnwys caeau chwaraeon a buarthau chwarae modern.
Bydd canolfan hyfforddi Tir Morfa, sy’n darparu gwasanaethau addysg i oedolion, yn cael ei ymgorffori yn y datblygiad newydd nodedig hwn.
Mae’r cynllun uchelgeisiol hwn yn rhan o Raglen Her Ysgolion Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi creu ysgolion sy’n amgylcheddol gynaliadwy ac sy’n cynnwys cymunedau lleol, gan gynnwys disgyblion, yn y gwaith o gynllunio, darparu a rheoli’r ysgol.
Mae’r datblygiad yn un o blith dim ond tri phrosiect a ddewiswyd ledled Cymru i weithredu fel glasbrint ar gyfer cynllunio a darparu ysgolion i’r dyfodol.
Mae hefyd yn rhan allweddol o Raglen Strategol Gwella Ysgolion Cyngor Castell-nedd Port Talbot, sydd â’r nod o sicrhau fod gan bob disgybl fynediad i addysg o safon uchel mewn cyfleusterau modern, addas i’w pwrpas.
Dywedodd y Cynghorydd Nia Jenkins, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Addysg a’r Blynyddoedd Cynnar: “Rydyn ni wrth ein bodd fod y gwaith ar yr ysgol newydd wedi dechrau, ac allwn ni ddim ag aros i weld y datblygiad wedi’i gwblhau.
“Mae’n nodi carreg filltir bwysig yn Rhaglen Strategol y Cyngor i Wella Ysgolion, sy’n canolbwyntio ar sicrhau fod gan bob disgybl fynediad i addysg o safon uchel mewn cyfleusterau modern, addas i’w pwrpas.
“Bydd y datblygiad hefyd yn ymgorffori darpariaeth addysg i oedolion, a chafodd ei gynllunio gyda chynaliadwyedd yn greiddiol iddo. Ein nod yw creu amgylchedd dysgu sy’n cefnogi’r genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol.”
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabined dros Addysg yn Llywodraeth Cymru, Lynne Neagle: “Dwi wrth fy modd o weld y gwaith yn dechrau ar y datblygiad cyffrous newydd hwn i ddysgwyr a’u teuluoedd ym Mhort Talbot. Bydd y buddsoddiad drwy ein Rhaglen Her Ysgolion Cynaliadwy yn darparu cyfleusterau modern, amgylcheddol gynaliadwy, ac mae’n adlewyrchu ein hymrwymiad i addysg cyfrwng Cymraeg. Diolch i bawb sy’n gweithio i alluogi hyn oll.”