Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Datganiad I'r Wasg

Cronfa newydd gwerth £1.2M i gefnogi gweithgareddau llesiant cymunedol ar draws Castell-nedd Port Talbot

29 Medi 2026

Mae sefydliadau cymunedol yn cael eu gwahodd i wneud cais am arian i helpu i gryfhau llesiant a gwytnwch mewn cymunedau ar draws Castell-nedd Port Talbot.

Mae sefydliadau cymunedol yn cael eu gwahodd i wneud cais am arian i helpu i gryfhau llesiant a gwytnwch mewn cymunedau ar draws Castell-nedd Port Talbot.

Bydd y Gronfa Iechyd Meddwl a Llesiant Cymunedol TSUK sy'n werth £1.2M ac yn cael ei ariannu drwy gyfrwng rhaglen bontio Tata Steel, yn buddsoddi mewn prosiectau lleol syn helpu pobl, teuluoedd a chymunedau i ymateb yn gadarnhaol i'r heriau a grëwyd gan newidiadau diweddar, ac ar yr un pryd adeiladu cymunedau cryfach a mwy cysylltiedig ar gyfer y dyfodol.
 

Bydd y gronfa newydd yn darparu grantiau hyd at £50,000 i sefydliadau cymwys sy'n darparu mentrau dan arweiniad y gymuned o fewn i Gastell-nedd Port Talbot. Gall prosiectau dderbyn hyd at 100% o gyllid, gyda chefnogaeth ar gael i gostau refeniw a chyfalaf.
 

Mae ceisiadau'n cael eu ceisio gan sefydliadau cymunedol a gwirfoddol, elusennau a sefydliadau nid-er-elw cymwys eraill a leolir yn y fwrdeistref sirol.

 

Bydd y gronfa'n cefnogi prosiectau sy'n cyfrannu at un neu ragor o bedair blaenoriaeth allweddol:

  • Ailadeiladu cysylltiadau cymdeithasol a chefnogaeth gan gyfoedion
  • Cryfhau gwytnwch cymunedol
  • Gwella iechyd meddwl a llesiant 
  • Mynd i'r afael ag ymddygiadau sy'n niweidio iechyd.

 

Ymysg enghreifftiau o weithgareddau a allai dderbyn cefnogaeth mae gerddi cymunedol, grwpiau cyfeillgarwch a chefnogaeth, rhaglenni ymwybyddiaeth iechyd meddwl, mentrau gweithgaredd corfforol, prosiectau ar gyfer plant a phobl ifanc, hyfforddi gwirfoddolwyr, digwyddiadau cymunedol a gwelliannau i gyfleusterau cymunedol a llecynnau gwyrdd.

 

Yn ôl y Cynghorydd Jeremy Hurley, Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a Thwf Economaidd: 

"Gwyddom fod y newidiadau yn Tata Steel wedi cael effaith sylweddol ar lawer o unigolion, teuluoedd a chymunedau ar draws Castell-nedd Port Talbot, Gwyddom hefyd am rym cymuned, a'r rhan hanfodol y gall grwpiau lleol eu chwarae i gefnogi pobl drwy gyfnodau o newid.

"Mae'r gronfa newydd hon yn cynrychioli buddsoddiad pwysig yn llesiant ein cymunedau, a hoffem annog sefydliadau lleol i gyflwyno syniadau arloesol ar gyfer prosiectau sy'n dod â phobl ynghyd, yn cryfhau gwytnwch ac yn creu cyfleoedd i weld newid cadarnhaol." 

Anogir sefydliadau sydd â diddordeb i drafod eu cynigion â Swyddog Prosiect y Gronfa cyn cyflwyno Mynegiant o Ddiddordeb. Bydd gwahoddiadau i Fynegi Diddordeb yn agor o 30 Medi 2026, gyda cheisiadau'n cael eu hasesu'n barhaus. Rhaid ymrwymo'r cyllid erbyn 31 Mai 2027 a rhaid cwblhau prosiectau erbyn 30 Medi 2027.
 

Am ragor o wybodaeth, arweiniad ar gymhwysedd neu i fynegi diddordeb mewn gwneud cais, ewch i https://www.npt.gov.uk/cy/hwb-gwybodaeth-pontio-tata-steel/cefnogaeth-i-bobl/cronfa-gymunedol-iechyd-meddwl-a-llesiant/ neu e-bostiwch TataCommunityFund@npt.gov.uk

 

hannwch hyn ar:
Nol i ben y dudalen