Datganiad I'r Wasg
Cyngor yn amlinellu cynllun buddsoddi o bwys i wella cymdogaethau ar draws y Fwrdeistref Sirol
19 Mawrth 2026
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cymeradwyo rhaglen o fuddsoddiad a gynlluniwyd i wella cymdogaethau, cryfhau isadeiledd lleol, a chefnogi cymunedau ar draws y Fwrdeistref Sirol. Bydd y Cynllun Gwella Cymdogaethau’n cyfeirio tua 34.5m o gyllid i mewn i ardaloedd blaenoriaeth dros y tair blynedd nesaf.
Mae’r cyllid yn rhan o glustnodiad o £5m a gymeradwywyd cyn hyn drwy gyfrwng y Strategaeth Gyfalaf. Defnyddiwyd rhan o’r cyfanswm hwn eisoes i gefnogi diweddariadau brys i feysydd chwarae, a bydd gweddill yr arian yn cael ei ddosbarthu nawr ar draws pedwar maes gwaith allweddol.
Bydd y maes cyntaf yn darparu £250,000 ar gyfer peiriannau ac offer newydd i Wasanaethau Cymdogaeth a’r tîm Hawliau Tramwy. Bydd hyn yn cynnwys eitemau allweddol fel offer lladd gwair a pheiriannau taenu halen y gellir eu tynnu, a fydd yn helpu gwaith y tîm cynnal a chadw tiroedd a phriffyrdd, ac yn cryfhau gwytnwch gweithredol.
Defnyddir £300,000 pellach i ddiweddaru celfi stryd a mannau aros am fysiau. Amlygodd arolwg diweddar y 31 cysgod aros am fws oedd yn y categori ‘cyflwr gwaethaf’ a fydd yn cael eu cyfnewid am rai newydd. Bydd y buddsoddiad hefyd yn cefnogi gwaith i ymestyn oes cysgodion eraill ac ailosod eitemau blaenoriaeth o gelfi stryd a amlygwyd gan aelodau etholedig.
Bydd y rhan fwyaf o’r arian, £2.9m, yn cael ei ddefnyddio i drwsio’r briffordd ac ar gyfer cynlluniau diogelwch ar yr heol. Bydd hyn yn cynnwys trwsio tyllau yn y ffordd yn barhaol, clytio arwynebau a gosod arwynebau newydd, yn ogystal â darparu cynlluniau diogelwch trafnidiaeth a heolydd a godwyd mewn syrjeris gydag aelodau. Bydd y gwaith hwn yn ategu’r rhaglen briffyrdd graidd ac yn galluogi i ymateb cynt, â mwy o ffocws, i gael ei roi i’r ardaloedd mwyaf anghenus.
Bydd rhan olaf y cynllun yn creu Cronfa Fuddsoddi Cymunedol gwerth £1m. Drwy gyfrwng y gronfa hon, bydd modd i aelodau etholedig wneud cais am gyllid hyd at £50,000 ar gyfer prosiectau lleol sy’n gwella mannau neu gyfleusterau cymunedol. Bydd yn gweithredu fel ychwanegiad i fwyhau ceisiadau i’r Gronfa Effaith Balchder Bro (PIPIF) ble mae costau prosiect yn uwch na’r clustnodiad safonol o £25,000.
Cynlluniwyd y rhaglen er mwyn i waith allu cael ei ddarparu drwy gyfrwng gallu presennol gwasanaethau, gyda chefnogaeth gan gontractwyr allanol cymeradwy ble bo angen. Bydd y dull hwn yn gwarchod gwytnwch y gwasanaeth ac yn sicrhau y gellir darparu cynlluniau’n effeithiol o fewn ffenest 2025 tan 2028.
Mae’r adroddiad yn nodi y bydd y buddsoddiad yn cryfhau balchder a llesiant cymunedol drwy wella isadeiledd lleol, harddu’r parth cyhoeddus a gwneud cymunedau’n fwy deniadol a hygyrch.
Disgwylir i’r rhaglen fuddsoddi hon ddarparu gwelliannau gweladwy a pharhaol mewn cymdogaethau ar draws y Fwrdeistref Sirol, a chefnogi cymunedau mwy diogel, gwydn a chysylltiedig.
Dywedodd y Cynghorydd Scott Jones, Aelod Cabinet dros Ofal Stryd:
“Mae preswylwyr eisiau gweld gwelliannau go iawn i’r llefydd ble maen nhw’n byw, a chynlluniwyd y rhaglen hon er mwyn peri i hynny ddigwydd. Bydd y buddsoddiad hwn yn ein galluogi i ymateb i’r problemau y mae pobl yn eu codi gyda ni fwyaf aml, o gyflwr yr heolydd i fannau cysgodi i aros am fysys a chyfleusterau lleol. Mae’n gam mawr ymlaen ar gyfer ein cymunedau, a dwi’n falch ein bod ni’n gallu dechrau symud y cynlluniau hyn ymlaen i’w gweithredu nawr.”