Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Datganiad I'r Wasg

Gwylio: Cyngor yn Gwasgu Fan yn Ddim ar ôl Tipio Fferm Ganabis yn Anghyfreithlon yng Nghwm Nedd

11 Mehefin 2026

Mae fan oedd yn rhan o dipio cynnwys fferm ganabis yn anghyfreithlon ger Resolfen wedi cael ei gwasgu'n ddim.

Crushed vehicle

Digwyddodd hyn ar ôl i Gyngor Castell-nedd Port Talbot erlyn pedwar dyn a menyw yn llwyddiannus ar ôl darganfod gwastraff ar dir ar Goedwigaeth Rheola, sy'n eiddo i Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Maen nhw wedi cael gorchymyn i dalu cyfanswm o bron i £7,000 (£6,822) gan Lys Ynadon Abertawe ar ôl i CNC ddod o hyd i ohebiaeth yn y gwastraff oedd wedi'i adael ar eu tir.

Cafodd y pum unigolyn euogfarn ar 21 Mai 2025. Gellir gweld manylion pellach am bawb oedd yn rhan o hyn isod.

Roedd y gwastraff wedi cael ei waredu'n anghyfreithlon ar dir yng nghoedwig Rheola yng Nghwm Nedd, sy'n eiddo i Cyfoeth Naturiol Cymru.

Drwy gyfuniad o dogfen a gafodd ei adael yn y lleoliad, lluniau teledu cylch cyfyng, ac adroddiadau gan dystion, ynghyd â thystiolaeth arall a llawer o holi, llwyddwyd i erlyn pum person i gyd.

Yn ystod gwrandawiad cynharach yn Llys Ynadon Abertawe ym mis Chwefror 2026, plediodd pedwar o'r diffynyddion yn euog o'r troseddau canlynol:

- plediodd Ian Jenkins yn euog o drosedd sy'n ymwneud â dyletswydd gofal am iddo beidio â sicrhau bod y gwastraff yn cael ei waredu'n gyfreithlon.

- plediodd Stephen Powell yn euog o fod yn gyfrifol am y cerbyd a ddefnyddiwyd i ollwng gwastraff a reolir yn anghyfreithlon.

- plediodd Keiron Powell a Darcy Thomas yn euog o ollwng gwastraff a reolir yn anghyfreithlon a chludo gwastraff heb drwydded cludydd gwastraff.

Plediodd Anthony Jones a dyn arall yn ddieuog, a chafodd eu hachosion eu rhestru ar gyfer treial.

Ar 21 Mai 2026, cynhaliwyd y treial lle y cafwyd Jones yn euog o beidio â sicrhau bod y gwastraff yn cael ei waredu'n gyfreithlon.  Cafwyd y dyn arall yn ddieuog.  
 

Mae'r unigolion canlynol bellach wedi cael eu dedfrydu yn Llys Ynadon Abertawe:

Enw: Keiron Powell
Dyddiad Geni: 29 oed
Cyfeiriad: Heol Greenwood, Castell-nedd
Cyhuddiad: Adran 33 (gollwng gwastraff), Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990
Dirwy: £700
Costau: £850
Gordal Dioddefwr: £280
        CYFANSWM: £1830
 

Enw: Stephen John Powell
Dyddiad Geni:  54 oed
Cyfeiriad: Heol Greenwood, Castell-nedd
Cyhuddiad: Adran 33(5) Deddf Diogelu’r Amgylchedd 5 (gwybod mai ei gerbyd ef oedd yn cael ei ddefnyddio)
Dirwy: £200
Costau: £532
Gordal Dioddefwr: £80
        CYFANSWM: £812  
 

Enw: Darcy Thomas 
Dyddiad Geni: 30 oed
Cyfeiriad: Heol Greenwood, Castell-nedd 
Cyhuddiad: Adran 33 (gollwng gwastraff), Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 
Dirwy: £700
Costau: £850
Gordal Dioddefwr: £280
        CYFANSWM: £1830
 

Enw: Anthony Jones
Dyddiad Geni:  32 oed
Cyfeiriad: Heol Wheatley, Castell-nedd 
Cyhuddiad: Adran 34 (dyletswydd gofal), Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 
Dirwy: £660
Costau: £482
Gordal Dioddefwr: £264
CYFANSWM: £1406


Enw: Ian Jenkins
Dyddiad Geni:  39 oed
Cyfeiriad: Heb gartref sefydlog
Cyhuddiad: Adran 34 (dyletswydd gofal), Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990
Dirwy: £330
Costau: £482
Gordal dioddefwr: £132
        CYFANSWM: £944  
 

Gorchmynnodd y llys i'r cerbyd tipio gael ei fforffedu i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.
 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Strydlun, sef y Cyngh. Scott Jones:

“Mae gennym ardaloedd hardd o goedwigoedd a chefn gwlad ledled sir Castell-nedd Port Talbot a dylai pobl allu eu mwynhau'n gyfrifol heb ddod ar draws gwastraff peryglus fel hyn.

“Rydyn ni'n gobeithio y bydd hyn yn anfon neges gref, waeth pa mor fach rydych chi'n credu yw eich rôl chi mewn gwaredu gwastraff yn anghyfreithlon, y byddwch chi'n dal i gael eich dwyn i gyfrif.”
 

Dywedodd James Roseblade, Uwch-swyddog Rheoli Tir Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Mae gwaredu gwastraff yn anghyfreithlon yn dal i andwyo ein cymunedau, ein hamgylchedd, a'n heconomi. Mae mynd i'r afael â'r gweithgarwch hwn a dwyn troseddwyr i gyfrif ymhlith ein prif flaenoriaethau o hyd.

“Bydd troseddau gwastraff yn digwydd ar sawl ffurf, gan weithredu ar wahanol raddfeydd, a chostio miliynau o bunnau i fusnesau, tirfeddianwyr a threthdalwyr bob blwyddyn. Byddant hefyd yn achosi niwed sylweddol i'r amgylchedd, i iechyd pobl ac i fywyd gwyllt.

“Rydyn ni'n croesawu penderfyniad y llys yn yr achos hwn, ac yn gobeithio y bydd yn anfon neges glir na fydd troseddau sy'n gysylltiedig â gwastraff yn cael eu goddef, y byddant yn cael eu cosbi, ac y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru a'i bartneriaid yn parhau i gymryd camau gorfodi priodol yn erbyn pobl sy'n torri'r gyfraith.”
 

hannwch hyn ar:

Rhannu eich Adborth