Datganiad I'r Wasg
Cynnig Newidiadau i Drefniadau Parcio ar Lan Môr Aberafan
19 Mehefin 2025
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn cynnig gwneud newidiadau i drefniadau parcio ar Lan Môr Aberafan mewn ymateb i adborth gan drigolion ac ymwelwyr ar ôl i ffioedd gael eu cyflwyno yn y cilfannau.
Yn sgil cyflwyno ffioedd parcio yn y cilfannau ar hyd Ffordd y Dywysoges Margared yn gynharach eleni, mae Glan Môr Aberafan bellach yn gyson â llawer o gyrchfannau ymwelwyr poblogaidd. Mae'r incwm ychwanegol yn helpu i gefnogi'r gwaith parhaus o weithredu a chynnal a chadw glan y môr a'i gyfleusterau—gan sicrhau bod yr ardal yn aros yn lân ac yn groesawgar i drigolion ac ymwelwyr.
Bydd parcio yn parhau i fod am ddim yn y cilfannau rhwng 1 Hydref a 31 Mawrth. Bydd deiliaid Bathodyn Glas yn dal i allu parcio am ddim ar unrhyw adeg drwy gydol y flwyddyn a heb gyfyngiadau amser yn y cilfannau.
Ar ôl cael adborth, mae'r cyngor yn cydnabod bod y newidiadau wedi peri rhwystredigaeth i rai defnyddwyr—yn enwedig o ran y diffyg opsiynau talu ag arian parod a pharcio arhosiad byr.
Mewn ymateb, mae'r cyngor yn cynnig cyflwyno tariffau parcio arhosiad byr newydd mewn pedwar maes parcio oddi ar y stryd gerllaw—Bay View, Ocean Way, Rhodfa Ysgarlad a Heol Victoria—o 1 Ebrill 2026 ymlaen. Bydd y tariffau arfaethedig o £1 am awr a £2 am ddwy awr yn addas i bobl sy'n ymweld â glan y môr am arhosiad byr, a byddant yn gallu talu ag arian parod gan ddefnyddio'r peiriannau talu ac arddangos presennol. Ni fydd modd i daliadau a wneir yn y meysydd parcio gael eu trosglwyddo i'r cilfannau.
Mae'r meysydd parcio hyn bellter cerdded byr i ffwrdd o lan y môr a byddant yn cynnig opsiwn arall i bobl nad ydynt yn dymuno defnyddio MiPermit neu systemau talu dros y ffôn.
Er i'r cyngor ystyried y syniad o osod peiriannau talu ag arian parod yn uniongyrchol ym mhob cilfan, penderfynwyd nad oedd hynny'n ymarferol oherwydd y gost a fyddai'n gysylltiedig â gosod nifer o beiriannau ar hyd glan y môr.
Er mwyn gwella'r wybodaeth sydd ar gael am opsiynau talu ar hyd Ffordd y Dywysoges Margared, bydd y cyngor hefyd yn ceisio caniatâd gan Lywodraeth Cymru i osod arwyddion cliriach.
“Rydyn ni wedi gwrando ar y pryderon a godwyd ers i'r ffioedd gael eu cyflwyno ac rydyn ni'n cynnig gwneud newidiadau sydd â'r nod o wneud y trefniadau parcio ar lan y môr yn fwy hygyrch ac yn haws eu defnyddio. P'un a ydych chi'n ymweld am dro byr neu am ddiwrnod cyfan allan, rydyn ni am wneud y trefniadau parcio mor syml a hyblyg â phosibl—gan helpu i gynnal a chadw un o fannau cyhoeddus pwysicaf ein bwrdeistref sirol ar yr un pryd.”
Bydd y Cabinet yn ystyried y cynigion ar 16 Gorffennaf 2025.
Cyswllt:
https://democracy.npt.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=558&MId=12552&Ver=4&LLL=1