Datganiad I'r Wasg
Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn Atgyfnerthu ei Ymrwymiad i Adfer Byd Natur
13 Ionawr 2026
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cyhoeddi adroddiad sy'n amlinellu cynnydd y Cyngor tuag at adfer byd natur a bioamrywiaeth, gan gynnwys sicrhau dros £2 filiwn mewn cyllid grant ar gyfer prosiectau ecoleg, prosiectau cymunedol a phrosiectau seilwaith gwyrdd.
Mae'r adroddiad, sy'n tynnu sylw at gerrig milltir allweddol a chynnydd tuag at gyflawni amcanion Cynllun Dyletswydd Bioamrywiaeth 2023 – 2026 y Cyngor, yn rhannu sut mae'r Tîm Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt yn parhau i gyflawni ei Ddyletswydd Bioamrywiaeth ac yn cymryd camau tuag at gyflawni Cynllun Gweithredu Adfer Byd Natur Cymru gyfan.
Rhwng 2023 a 2025, mae Tîm Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt y Cyngor wedi cydweithio â gwasanaethau ym mhob rhan o'r Cyngor er mwyn helpu i ddatblygu strategaethau a rhoi newid cadarnhaol ar waith ar gyfer bioamrywiaeth.
Mae'r Tîm Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt wedi cynnal amrywiaeth o brosiectau mawr eu heffaith ledled Castell-nedd Port Talbot. Mae prosiectau a ariennir gan Gronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru wedi adfer a chyfoethogi byd natur ar fwy na 25 o safleoedd ledled y sir, ac mae dros 30 o ddigwyddiadau natur cysylltiedig wedi helpu cymunedau i ymgysylltu â'u safleoedd natur lleol. Hefyd, mae gwaith rheoli cynefinoedd wedi ehangu'n sylweddol, gan arwain at gynnydd o fwy na 50 hectar mewn safleoedd natur ac ardaloedd cynllun Caru Gwenyn CNPT. Ar ben hynny, mae adolygiadau o fannau cyhoeddus ac adeiladau sy'n eiddo i'r cyngor wedi dod o hyd i nifer o gyfleoedd i gyfoethogi cynefinoedd, gan ymgorffori bioamrywiaeth ledled y rhanbarth.
Mae'r adroddiad hwn yn dangos sut mae Cyngor CNPT yn mynd i'r afael â bioamrywiaeth mewn ffordd wirioneddol drawsnewidiol. Yn hytrach na thrin adfer byd natur fel mater ar wahân, rydym yn ei ymgorffori ym mhopeth a wnawn – ein polisïau, ein cynlluniau, ein rhaglenni, a'n gweithgareddau dyddiol. Nid yn unig y bydd y dull integredig hwn yn fuddiol i fywyd gwyllt, ond bydd hefyd yn ein helpu i gyflawni nodau ehangach fel gwella'r gallu i wrthsefyll newid hinsawdd, rheoli lleoedd yn well, a sicrhau amgylchedd naturiol iachach i bawb.
Dywedodd y Cyngh. Cen Phillips, sef yr Aelod Cabinet dros Natur, Twristiaeth a Llesiant: “Mae diogelu a chyfoethogi ein hamgylchedd naturiol yn hanfodol i lesiant ein cymunedau a gwydnwch Castell-nedd Port Talbot yn y dyfodol. Mae'r adroddiad hwn yn arddangos ein llwyddiannau hyd yma, ac yn dangos sut rydyn ni'n ymgorffori bioamrywiaeth yn y ffordd y mae'r Cyngor yn gweithio ac yn defnyddio tystiolaeth i arwain ein camau nesaf.”
Caiff yr adroddiad ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru a'i gyhoeddi ar wefan y Cyngor, gan roi trosolwg clir i drigolion a rhanddeiliaid o'r cynnydd hyd yma. Bydd hefyd yn llywio'r gwaith o ddatblygu'r fersiwn nesaf o Gynllun Dyletswydd Bioamrywiaeth y Cyngor, y disgwylir iddi gael ei chyhoeddi yn 2026.
Ychwanegodd y Cyngh. Phillips: “Nid dim ond cyflawni dyletswydd statudol yw hyn. Mae'n golygu sicrhau bod adfer byd natur yn rhan o'r ffordd y byddwn ni'n cynllunio, yn buddsoddi ac yn darparu gwasanaethau, er mwyn i'n cymunedau allu cael budd o amgylcheddau lleol iachach a mwy gwydn.”
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am brosiectau Bioamrywiaeth Cyngor Castell-nedd Port Talbot yma: https://www.npt.gov.uk/cy/diwylliant-a-thwristiaeth/cefn-gwlad-a-bywyd-gwyllt/bywyd-gwyllt-npt/