Datganiad I'r Wasg
Disgyblion Castell-nedd Port Talbot yn achub y blaen ar yrru mwy diogel
21 Hydref 2026
Mae dros 270 o ddisgyblion o ysgolion uwchradd ar draws Castell-nedd Port Talbot bellach yn fwy parod i ddod yn yrwyr a theithwyr mwy diogel, diolch i brosiect Mega Drive.
Dan arweiniad Tîm Diogelwch Heolydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, a gydag arian oddi wrth Lywodraeth Cymru, mae Mega Drive yn fenter diogelwch ar yr heolydd i addysgu darpar yrwyr ifanc 16-17 oed am gyfrifoldebau gyrru cerbyd.
Nod y fenter yw datblygu sgiliau gyrru da a thynnu sylw at rai o'r sefyllfaoedd mwyaf peryglus y gallai'r bobl ifanc eu cael eu hunain ynddynt, Yn ogystal â pharatoi gyrwyr newydd, mae'r sesiynau hefyd yn edrych ar ddiogelwch teithwyr, ac mae'n cynnig ffyrdd i bobl ifanc ymyrryd i atal gwrthdrawiadau a chymryd cyfrifoldeb dros sefyllfaoedd y gallen nhw ddod ar eu traws.
Mae Mega Drive yn brosiect amlasiantaethol, sy'n cynnwys cefnogaeth partneriaid gan gynnwys A2Z of Motoring, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Heddlu De Cymru ac Ambiwlans Sant Ioan.
Gan ddigwydd yn ystod mis Hydref 2026 yn safle A2Z of Motoring yn Abertawe, roedd y cwrs yn cynnwys gweithdai rhyngweithiol ar bynciau fel pwysigrwydd cynnal a chadw eich cerbyd; beth i'w wneud os yw eich cerbyd yn torri neu'n cael gwrthdrawiad â thraffig eraill ar yr heol; a'r deddfau ynghylch goryrru, diogelwch gwregysau, ffonau symudol a'r cyfnod prawf ar gyfer gyrwyr newydd.
Roedd modd i ddisgyblion ymarfer CPR gydag Ambiwlans Sant Ioan a phrofi effeithiau cyffuriau ac alcohol gan ddefnyddio sbectol cwrw ac efelychiad rhith-wirionedd (VR).
Fe wnaeth sesiynau hefyd drafod sut y gall pobl ifanc gefnogi'u cyfoedion i fod yn yrwyr mwy diogel a sut y gall teithwyr mewn car ddylanwadu'n gadarnhaol ar ymddygiad gyrrwr.
Nodwedd fwyaf poblogaidd y digwyddiad oedd y cyfle a roddwyd i bob disgybl gaen gwers yrru flasu gyda thiwtor gyrru ar rwydwaith o heolydd preifat a ddarparwyd gan A2Z of Motoring.
Dywedodd y Cynghorydd Wyndham Fryer Griffiths, Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol, Trafnidiaeth a Chysylltedd:
"Gyrwyr ifanc newydd yw rhai o'n defnyddwyr heolydd mwyaf bregus ac mae Mega Drive yn ein galluogi i ymgysylltu â phobl ifanc cyn iddyn nhw gydio mewn olwyn lywio er mwyn i ni allu lleihau'r perygl iddyn nhw eu hunain a defnyddwyr eraill yr heolydd.
"Mae'r fenter ragweithiol hon yn rhoi'r profiad cyntaf i bobl ifanc o fod yn y sedd yrru, gan ddarparu gwybodaeth hanfodol am ddiogelwch ar yr un pryd, a sefydlu agwedd gadarnhaol at yrru.
"Hoffwn ddiolch i'r holl asiantaethau partner a gymerodd ran. Rydyn ni'n edrych ymlaen at weithio gyda nhw yn y dyfodol i sicrhau y gall ein pobl ifanc barhau i elwa o'r fenter bwysig hon.
"Mae ein diolch arbennig yn mynd at A2Z of Motoring am gynnal y digwyddiad a darparu'r rhwydwaith heolydd unigryw a'r hyfforddwyr gyrru, a barodd fod hwn yn brofiad mor addysgiadol a chofiadwy i'r disgyblion."
I gael mwy o wybodaeth am ddiogelwch ar yr heolydd yng Nghastell-nedd Port Talbot ewch i: https://www.npt.gov.uk/cy/parcio-ffyrdd-a-theithio/cnpt-diogelwch-ffyrdd/