Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Datganiad I'r Wasg

Rhwydwaith Eiriolaeth Rhieni yn lansio Cwmni Buddiant Cymunedol newydd i gefnogi teuluoedd ledled Cymru

09 Chwefror 2026

Mae cynllun arloesol a ddatblygwyd gyntaf gan dîm Gwasanaethau Plant Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar fin ehangu ei gymorth hanfodol i deuluoedd ledled Cymru yn dilyn lansiad swyddogol PAN Cymru, sef Cwmni Buddiant Cymunedol newydd sy'n canolbwyntio'n benodol ar eiriolaeth rhieni.

Rhwydwaith Eiriolaeth Rhieni yn lansio Cwmni Buddiant Cymunedol newydd i gefnogi teuluoedd ledled Cymru

Mae'r Rhwydwaith Eiriolaeth Rhieni (PAN), a ddatblygwyd yng Nghastell-nedd Port Talbot yn wreiddiol, yn cynnig lle diogel a chefnogol i rieni sy'n mynd drwy brosesau amddiffyn plant gwasanaethau cymdeithasol, lle y caiff eu lleisiau eu clywed a'u gwerthfawrogi. Mae'r cynllun, sy'n gweithio ledled Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe, yn paru rhieni ag eiriolwyr hyfforddedig sy'n eu helpu i ganfod eu ffordd drwy'r system, i deimlo y gallant ymwneud â gweithwyr proffesiynol, ac i rannu eu profiadau bywyd.

Un o nodweddion allweddol y cynllun yw'r Caffis Rhieni llwyddiannus – sesiynau anffurfiol a chroesawgar lle y gall rhieni gysylltu ag eraill sydd wedi wynebu profiadau tebyg, rhannu cyngor, a siarad yn agored am weithio gyda gwasanaethau. Gyda chymorth gweithwyr proffesiynol, mae'r caffis yn cynnig arweiniad ymarferol, gan helpu rhieni i deimlo'n llai ynysig ac yn fwy hyderus.

Mae gwaith ymchwil yn dangos bod eiriolaeth rhieni'n lleihau nifer y plant sy'n ymuno â'r system gofal, yn gwella cydberthnasau rhwng rhieni a gweithwyr cymdeithasol, ac yn rhoi mwy o hyder i rieni wrth iddynt ymwneud â gwasanaethau.

Er mwyn tyfu cynaliadwyedd y rhaglen ac ehangu ei chyrhaeddiad, cofrestrodd PAN fel Cwmni Buddiant Cymunedol gyda chymorth tîm Gwasanaethau Plant Cyngor Castell-nedd Port Talbot. Lansiwyd PAN Cymru yn swyddogol ddydd Iau 29 Ionawr yn Orendy Margam, gan ddod ag uwch-arweinwyr, swyddogion Llywodraeth Cymru, eiriolwyr, a rhieni â phrofiad bywyd ynghyd.

Yn y digwyddiad, cyhoeddodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden, y bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £808,408 mewn darpariaeth eiriolaeth, gan gynnwys £133,600 yn benodol er mwyn ehangu'r Caffis Rhieni poblogaidd ledled Cymru.
Bydd y cyllid hwn yn galluogi PAN Cymru i ymestyn ei wasanaethau yn genedlaethol, gan sicrhau y bydd mwy o deuluoedd yn gallu cael cymorth dan arweiniad rhieni, sydd wedi bod mor effeithiol yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Dywedodd y Cyngh. Sian Harris, sef Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Blant a Theuluoedd: “Mae'r Rhwydwaith Eiriolaeth Rhieni yn enghraifft o'r ffordd y gall cymorth gan gymheiriaid drawsnewid canlyniadau i deuluoedd. Mae cynlluniau fel y Caffis Rhieni a sicrhau bod rhieni'n teimlo bod eu llais wir yn cael ei glywed yn helpu i feithrin hyder, ymddiriedaeth, a chydberthnasau cryfach â gwasanaethau. Ein prif flaenoriaeth bob amser yw rhoi'r dechrau gorau posibl mewn bywyd i blant, a bydd modd gwneud hynny pan fyddwn yn cefnogi teuluoedd y mae angen ychydig bach o help ychwanegol arnyn nhw. Rwy'n anhygoel o falch bod rhaglen a ddechreuodd yma yng Nghastell-nedd Port Talbot bellach yn cael ei hehangu ledled Cymru.”

Yn y gynhadledd, dywedodd Gaia Davies, Cyfarwyddwr a Chyd-gadeirydd bwrdd PAN Cymru: “Dyma wir ystyr cydgynhyrchu. Nid ymgynghori â rhieni ar yr ymylon – ond rhieni'n llywio gwasanaethau, yn cyflawni rolau arweiniol, ac yn cael ysgwyddo cyfrifoldeb.

“Rydyn ni eisoes wedi gweld hyn yn digwydd yn PAN Cymru. Nod y strategaeth 10 mlynedd yw gwneud yn siŵr nad yw hyn yn dibynnu ar lwc neu god post – ond ei fod yn rhywbeth y gall pob teulu yng Nghymru gael budd ohono.”
 

hannwch hyn ar:

Rhannu eich Adborth