Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Datganiad I'r Wasg

Diweddglo The Rapture: Lleoliadau ‘amrywiol’ Castell-nedd Port Talbot wedi denu cynhyrchydd teledu

08 Awst 2026

Mae sir Castell-nedd Port Talbot ar raglen deledu genedlaethol unwaith eto wrth i nifer o leoliadau lleol ymddangos yn y ddrama seicolegol newydd, The Rapture.

The Rapture

Bydd y rheini sydd heb wylio'r holl benodau ar BBC iPlayer yn gweld diweddglo cyffrous i'r gyfres ar BBC One ddydd Sul hwn (9 Awst).

Mae Ruth Madeley, Iwan Rheon, Ruth Jones ac India Amarteifio yn serennu yn y ddrama chwe rhan, sydd wedi'i seilio ar nofel boblogaidd Liz Jensen. Chwaraeodd Castell-nedd Port Talbot rôl allweddol wrth ddod â'r stori'n fyw.

Mae lleoliadau allweddol yn cynnwys adfeilion a thirluniau hanesyddol Parc Gwledig Margam, sy’n darparu cefndir dramatig ar gyfer golygfeydd yn y gyfres. Gellir gweld canol tref Port Talbot a Thraeth Aberafan yn y gyfres hefyd.

Dywedodd Rebecca Durbin, Dylunydd Cynhyrchu The Rapture,

"Gan fy mod wedi cael fy magu yn Ne Cymru, roedd bod ym Mhort Talbot i ffilmio The Rapture yn deimlad arbennig. Roedd lleoliadau’r ardal mor eang o ran graddfa a diddordeb gweledol.

“Roedd Canol Tref Port Talbot yn wych fel ein tref ffuglen ar lan y môr, Porth Hen, gyda’i olygfeydd arfordirol godidog a’r Forge Tavern, lle mae diweddglo ein pennod gyntaf yn digwydd. Roedd pobl De Cymru’n hynod groesawgar a charedig ac mae'r criw yng Nghymru yn cynnwys rhai o oreuon y DU!"

Mae'r cynhyrchiad yn ychwanegu at restr gynyddol o brosiectau teledu a ffilm proffil uchel a ddewisodd Castell-nedd Port Talbot fel cyrchfan ffilmio. Mae Parc Gwledig Margam eisoes wedi ymddangos mewn cynyrchiadau megis Doctor Who, His Dark Materials a Death Valley. Dewisodd Michael Sheen Bort Talbot hefyd fel y cefndir wrth iddo gyfarwyddo'r ddrama deledu The Way, gan gryfhau enw da'r fwrdeistref sirol fel un o leoliadau ffilmio mwyaf amlddefnydd Cymru.

I gyrraedd y galw cynyddol hwn, bydd gwefan newydd Swyddfa Ffilm Castell-nedd Port Talbot yn cael ei lansio. Bydd y wefan yn darparu safle dan yr unto ar gyfer holl ymholiadau'r diwydiant ac anghenion o ran cynhyrchiant, gan gynnwys cyfeiriadur cynhwysfawr rhyngweithiol o leoliadau.

Faint o leoliadau byddwch chi'n eu hadnabod? Gwyliwch The Rapture ar iPlayer yma: https://www.bbc.co.uk/iplayer/episodes/m002x7k9/the-rapture
 

hannwch hyn ar:
Nol i ben y dudalen