Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Datganiad I'r Wasg

Erlyn Menyw Eilwaith ar ôl i Fwydo Bywyd Gwyllt Gael ei Gysylltu â Phroblem Llygod Mawr mewn Ysgol

18 Mehefin 2026

Mae Tîm Iechyd Amgylcheddol Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi llwyddo i erlyn menyw yn Nyffryn Aman am fethu â rhoi'r gorau i fwydo bywyd gwyllt ar ôl i'w gweithredoedd ddenu nifer sylweddol o lygod i'r ardal.

Rat sighting

Roedd ysgol gynradd, busnes ceffylau a phreswylwyr cyfagos yn Nhai'r-gwaith yn adrodd am weld llygod mawr yn fynych yn dilyn methiant y fenyw i gydymffurfio â hysbysiad cyfreithiol oedd wedi'i gyhoeddi ynghynt.

Dechreuodd y problemau am fod bwyd adar yn parhau i bentyrru yn ei gardd. Fe'i gwelwyd hi hefyd yn gadael cig oedd yn cynnwys esgyrn ar dir cyhoeddus, a allai fod wedi rhoi diogelwch cŵn lleol ac anifeiliaid eraill mewn perygl.

Yn ystod y dedfrydu yn Llys Ynadon Abertawe ddydd Iau 4 Mehefin 2026, cyfeiriodd yr erlyniad at fethiant y diffinydd i gydymffurfio â Hysbysiad Atal a gyflwynwyd dan Adran 79(1)(e) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990. 

Aeth y llys ymlaen i gyhoeddi Gorchymyn Ymddygiad Troseddol (CBO) oedd yn cynnwys nifer o gyfyngiadau a gynlluniwyd i atal y diffinydd rhag bwydo adar mewn mannau cyhoeddus. Cafodd orchymyn i dalu dirwy o £1,500 hefyd.

Mae'r cyfyngiadau'n cynnwys, ond heb eu cyfyngu i:
•    Dim ond 2 beth bwydo adar i'w defnyddio ar y tro yn yr ardd ffrynt a chefn.
•    Dim taenu bwyd ar y llawr.
•    Rhaid llenwi pob bwydwr unwaith yr wythnos yn unig.
•    Dim ond bwydwyr sydd wedi'u hadeiladu i'r perwyl ac sydd wedi'u cymeradwyo gaiff eu defnyddio
•    Rhaid cadw pob bwyd a gedwir tu fas mewn cynhwysydd â sêl iddo. 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Natur, Twristiaeth a Llesiant, y Cynghorydd Cen Phillips – y mae'i bortffolio'n cynnwys rheoli plaon:  

“Mae'r achos hwn yn adlewyrchu pwysigrwydd cydbwyso gweithredoedd unigol gydag effaith ehangach ar y gymuned. Er ei bod hi'n bosib iawn fod bwydo adar yn deillio o fwriadau da, yn yr achos hwn, fe achosodd ofid iechyd cyhoeddus o bwys, oherwydd y cynnydd mewn gweithgaredd gan lygod mawr oedd yn effeithio ar gartrefi cyfagos, ysgol a chyfleuster cymunedol.

"Blaenoriaeth y Cyngor bob amser yw gweithio gyda phreswylwyr i ddatrys problemau'n anffurfiol ble bynnag y bydd hynny'n bosib. Serch hynny, pan fydd methiant i gydymffurfio â gofynion cyfreithiol, ac mae'r effaith ar yr ardal leol yn parhau, byddwn ni'n dilyn y camau priodol.
"Rydyn ni'n gobeithio y bydd y canlyniad hwn yn atal mwy o broblemau, ac yn cefnogi llesiant pawb yn y gymuned. Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn parhau i fod yn ymroddedig i gynnal amgylcheddau diogel, glân ledled y sir." 


Os ydych chi'n breswylydd neu fusnes yng Nghastell-nedd Port Talbot sy'n profi problem iechyd amgylcheddol, mae sawl dull y gallwch eu defnyddio i'w riportio.

AR LEIN: Y ffordd gyflymaf o gysylltu, a'r dull a ffafrir, yw adrodd drwy gyfrwng tudalen swyddogol y Cyngor: https://www.npt.gov.uk/cy/iechyd-yr-amgylchedd/cysylltwch-iechyd-yr-amgylchedd/ 

FFÔN: Fel arall, gallwch ffonio canolfan gyswllt y Cyngor ar 01639 686868 (yn ystod yr wythnos waith). 

POST: Iechyd Amgylcheddol , Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Y Ceiau, Ffordd Brunel, Parc Ynni Baglan, Castell-nedd, SA11 2GG.
 

hannwch hyn ar:

Rhannu eich Adborth