Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Datganiad I'r Wasg

Rhaid i ddyn o Abertawe dalu dros £1400 ar ôl canfod gwastraff wedi'i daenu dros 2 filltir o dir

20 Gorffennaf 2026

Mae tri o bobl, mewn dau achos ar wahân, wedi cael eu gorchymyn i dalu cyfanswm o dros £3,500 ar ôl canfod gwastraff yng Nghwm Dulais ac ar stryd ym Mhort Talbot.

Some of the waste discovered in the Dulais Valley

Cwm Dulais 

Fe welodd yr achos cyntaf hwn wastraff wedi'i daenu ar draws dwy filltir o dir ar hyd heol rhwng y Creunant a Chil-ffriw yng Nghwm Dulais. Cafodd ei riportio am y tro cyntaf ar 6 Tachwedd (2025). 

Roedd y gwastraff yn cynnwys cymysgedd o gydrannau ceir, elfennau wedi'u gorchuddio ag olew, gwastraff masnachol, eitemau o'r cartref a thiwbiau fflworolau.

Yn dilyn ymholiadau cychwynnol, cysylltodd Roger Townsend, 38 oed, ag ymchwilwyr i ddweud ei fod e am drafod gwastraff oedd wedi'i ollwng ganddo yn y Creunant.

Cyfaddefodd y dyn 38 oed i'r drosedd o ollwng y gwastraff yn anghyfreithlon, yn ogystal â datgelu nad oedd e'n meddu ar drwydded cludwr gwastraff. Ar ôl adolygu cofnodion Cyfoeth Naturiol Cymru, cadarnhawyd hefyd nad oedd dim eithriadau gwastraff perthnasol yn bodoli ar hyd yr heol rhwng y Creunant a Chil-ffriw.

Yn Llys Ynadon Abertawe ar 8 Gorffennaf, plediodd Roger Townsend, 38 oed, o Lôn Gwendraeth, Treforys, yn euog i drosedd dan Adran 33 o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990. Fe'i gorchmynnwyd i dalu £946.75 mewn costau, £202.21o iawndal, dirwy o £200 a Gordal Dioddefwr o £80, sy'n gyfanswm o £1428.96. 


Port Talbot

Ar wahân, riportiwyd fod gwastraff oedd yn cynnwys blychau plastig, bwrdd plaster wedi torri, bag du, a lliain lwch wedi cael eu gadael ar Stryd Holland ym Mhort Talbot ar 19 Chwefror (2026). 

Ceisiodd ymchwiliwr siarad â phreswylwyr y cyfeiriad, ond ni fu'i hymgeision yn llwyddiannus i ddechrau. Yn ddiweddarach ar yr un diwrnod, fe siaradon nhw ar y ffôn ag un o'r preswylwyr, oedd yn gallu cadarnhau fod y gwastraff wedi dod o'i eiddo ef, a dywedodd y byddai'n mynd ag ef oddi yno yr un diwrnod.

Pan aeth swyddogion yn ôl i wirio'r cyfeiriad y diwrnod nesaf (20 Chwefror), roedd y gwastraff yn dal yno.  

Yna, ar ôl yr alwad ffôn gychwynnol honno, methodd Brian a Gemma Morgan ag ymgysylltu ag ymchwiliad y Cyngor o ddigwyddiad o dipio anghyfreithlon y tu fas i'w heiddo. Roedd hyn er gwaetha sawl ymgais, a chyhoeddi Hysbysiad Cosb Benodedig.

Yn Llys Ynadon Abertawe ar 9 Gorffennaf, cafodd Brian Morgan sy'n 33 a Gemma Morgan, 39, o Stryd Holland, Port Talbot, eu dedfrydu am fethu â chydymffurfio ag Adran 108 o Ddeddf Amgylchedd 1995. Ni wnaeth y naill na'r llall fynychu, felly cawsant eu herlyn a'u dedfrydu yn eu habsenoldeb.
Rhaid i Brian a Gemma Morgan ill dau dalu dirwy o £660, gordal dioddefwr o £264, a chostau o  £146.25, sy'n gyfanswm o  £2140.50. 


Dywedodd y Cynghorydd Scott Jones, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Strydlun: 

"Mae'r math o wastraff a welwyd yn achos Cwm Dulais, a oedd yn cynnwys cydrannau cerbydau a deunyddiau wedi'u halogi ag olew, yn niweidiol iawn i'r amgylchedd ac ni fydd yn cael ei oddef, tra bod yr ail achos yn profi y bydd camau gorfodi yn cael eu cymryd os anwybyddir rhybuddion i gael gwared ar wastraff.

"Mae'r erlyniadau llwyddiannus, sydd wedi arwain at ddirwyon, costau ac iawndal sy'n gyfanswm o fwy na £3,500, yn dangos ein bod ni'n benderfynol o ddwyn y rhai sy'n torri cyfreithiau amgylcheddol o flaen eu gwell.

"Hoffwn ddiolch i'n tîm gorfodi am eu gwaith ymchwilio diwyd. Byddwn ni'n parhau i fynd ar ôl troseddwyr a defnyddio'r grymoedd sydd ar gael i ni i amddiffyn ein cymunedau, gan annog preswylwyr i waredu gwastraff yn gyfrifol a sicrhau bod gan unrhyw un sy'n cael gwared ar wastraff ar eu rhan y drwydded briodol i wneud hynny."
 

hannwch hyn ar:

Rhannu eich Adborth