Hawlen sgaffald
Mae angen hawlen sgaffald i godi sgaffald ar y briffordd dan ddarpariaethau Adran 169 Deddf Priffyrdd 1980.
Gweler manylion isod ar sut i wneud cais am hawlen sgaffald.
Pwy all wneud cais?
I wneud cais am hawlen sgaffald yng Nghastell-nedd Port Talbot, rhaid i chi ddarparu prawf o'ch yswiriant atebolrwydd cyhoeddus y mae'n rhaid iddo fod yn werth o leiaf £5 miliwn.
Amodau'r hawlen
Mae caniatâd yn dibynnu ar amodau sy’n berthnasol â:
- lleoliad y sgaffald
- y lle sydd ar gael ar y droedffordd a
- mynediad i gerddwyr
Gallai fod amodau ychwanegol ynghlwm wrth geisiadau unigol.
Faint fydd yn ei gostio?
Y ffi gyfredol am drwydded sgaffald yw £103.50 (bydd angen cerdyn debyd neu gredyd arnoch) mae trwyddedau sgaffald yn ddilys am 28 diwrnod. Os ydych yn dymuno ymestyn y drwydded ar ôl y cyfnod o 28 diwrnod cychwynnol, rhaid i chi wneud cais am drwydded newydd.
Sut i wneud cais?
Gallwch wneud cais am drwydded sgaffald ar-lein.
Cwblhewch y ffurflen gais sgaffald canlynol a'i gadw fel pdf. Gall hyn gael ei llwytho yn ystod y broses ymgeisio.
Llawrlwytho
-
Amodau a thelerau'r drwydded sgaffaldiau (DOC 45 KB)
-
Cais am ganiatad i godi sgaffaldiau (DOCX 42 KB)