Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Lleoli Bwrdd Arddangos a Hysbysebu

Amodau cofrestru

Gall nwyddau ac arwyddion ar droedffyrdd ychwanegu lliw ond gallent hefyd rwystro palmentydd ac achosi peryglon.

Mae'r Cyngor eisiau rheoli eitemau ar droedffyrdd ac ardaloedd i gerddwyr yn deg. Diogelwch a chyfleustra i gerddwyr sy'n dod gyntaf.

Mae’r polisi’n cynnwys canllawiau ar gyfer ymdrin â rhwystrau ar lwybrau troed:

  • Mae angen o leiaf £2 filiwn mewn yswiriant atebolrwydd cyhoeddus ar fusnesau. Rhaid iddynt barchu iechyd a diogelwch y cyhoedd a chynnal trefn dda.
  • Mae angen cymeradwyaeth yr awdurdod ar nwyddau ar droedffyrdd. Ni ddylent ymestyn mwy nag 1 metr o flaen y siop a rhaid iddynt aros o fewn lled y siop.
  • Rhaid i nwyddau a arddangosir fod â rhwystrau ar y pennau ar gyfer marcio clir.
  • Rhaid cael lled llwybr clir ar y droedffordd i gerddwyr o 2 fetr.
  • Rhaid i eitemau beidio â gorfodi cerddwyr i fynd ar y ffordd.
  • Ni amharir ar welededd modurwyr na cherddwyr.
  • Mewn ardaloedd i gerddwyr, rhaid cael llwybr 4 metr o led ar gyfer cerbydau brys.

I gael arweiniad a gwybodaeth ychwanegol, ewch i'n tudalennau Rhwystrau ar y priffyrdd.

Cost y drwydded

Ar hyn o bryd nid oes ffi am osod arddangosiadau a byrddau hysbysebu ar y briffordd.

Amser prosesu

Fel arfer caiff ceisiadau eu prosesu o fewn 28 diwrnod.

Caniatâd dealledig

Ydi. Os na fyddwch yn clywed yn ôl o fewn 28 diwrnod, caiff eich cais ei gymeradwyo.

Proses apêl

Nid oes gweithdrefn apelio. Os oes gennych unrhyw ymholiadau am unrhyw benderfyniadau, cysylltwch â'r adran gwaith stryd.

Gwnewch gais am drwydded

Nid oes angen trwydded ar gyfer arddangosiadau a byrddau hysbysebu ar y briffordd.

Mater i’r awdurdod yw cymeradwyo arwyddion ar lwybrau troed.

Dylid anfon llythyrau o ddiddordeb i’r adran gwaith stryd neu gallwch gysylltu â ni’n uniongyrchol i drafod eich cynigion.

Manylion cyswllt

Cyfarwyddiadau i SA11 2GG
Adran Gwaith Stryd
Y Ceiau,
Ffordd Brunel,
Llansawel,
Castell-nedd
SA11 2GG pref
(01639) 686338 (01639) 686338 voice +441639686338