Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Diweddariad 18.08.17

Dros yr wythnos ddiwethaf, mae tîm tai'r cyngor wedi bod yn gweithio gyda'r holl deuluoedd yr effeithir arnynt i'w helpu i adleoli.

Mae wyth o'r deg eiddo yr effeithir arnynt wedi'u gadael bellach. Cynigiwyd llety amgen i'r teuluoedd ac maent wedi eu derbyn. Maent naill ai wedi symud eisoes neu maent yn y broses o symud. Ni chaiff unrhyw deuluoedd eu gadael mewn llety gwely a brecwast neu lety brys arall.

Mae un eiddo ar y teras mewn cyflwr adfeiliedig ac yn wag – heddiw mae'r cyngor wedi cyflwyno gorchymyn dymchwel ar yr eiddo hwn.

Cyflwynwyd dau hysbysiad ar un eiddo ym mis Mawrth a mis Ebrill 2017. Mae'r rhain wedi'u disodli'n ddiweddar gan un hysbysiad a gyflwynwyd ar 15 Awst 2017.  Mae tenant yr eiddo hwnnw wedi apelio a chaiff yr apêl ei chlywed ar 20 Medi 2017.

Nid yw hwn yn ddigwyddiad unigryw ond cofnodwyd tirlithriadau yn yr ardal honno yn dyddio'n ôl i 1897. Cyfeiriwyd at y llethr uwchben ardal Pant Teg a Godre'rgraig gan bobl leol fel y 'mynydd symudol'.

Mae'r rhan fwyaf o bentref Godre'graig ei hun yn wag ar ôl i lawer o gartrefi gael eu dymchwel oherwydd tirlithriadau ar ddiwedd y pumdegau a dechrau'r chwedegau.

Pe bai ateb syml i'r broblem o fynd i'r afael â thirlithriadau, byddai wedi dod i'r olwg ymhell yn ôl.

Fodd bynnag, effeithiodd y ddau dirlithriad diweddaraf yn uniongyrchol ar eiddo preswylwyr a dyna'r rheswm pam mae'r cyngor wedi gofyn i breswylwyr adleoli. Nodir cyfrifoldebau'r cyngor yn glir yn y Ddeddf Tai; mae dyletswydd arnom i ddiogelu preswylwyr yn erbyn y perygl o niwed enbyd.

Mae'n bwysig nodi bod y rhan fwyaf o ardal y tirlithriad mewn perchnogaeth breifat, ond prif flaenoriaeth y cyngor erioed fu diogelwch a lles y preswylwyr yr effeithir arnynt ac mae hynny'n parhau.

Gan fod y gwaith o fonitro'r safle'n parhau, rydym yn ceisio sicrhau bod y gymuned leol yn gwybod am y datblygiadau diweddaraf drwy ein gwefan a thrwy gyfathrebu'n uniongyrchol â'r preswylwyr yr effeithir arnynt.

Rydym wedi bod yn cynllunio cyfarfod cyhoeddus ag aelodau o'r gymuned leol i roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt a bydd preswylwyr yn derbyn llythyrau cyn bo hir.

Gellir cysylltu â ni am fwy o wybodaeth drwy ein rhif ffôn arbennig (01639) 686288 neu pantteg@npt.gov.uk