Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Diweddariad 7/9/2017

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn cynnal cyfarfod cyhoeddus heno (nos Iau) i ddiweddaru'r gymuned leol am y tirlithriad ym Mhant-teg.

Cynhelir y cyfarfod hwn yn Ysgol Gyfun Ystalyfera a bydd yn dechrau am 7pm. Caiff y cyfarfod ei gadeirio gan y Prif Weithredwr, Steven Phillips, a bydd Arweinydd y Cyngor, y Cyng. Rob Jones, ar y panel. Yn ogystal, bydd staff o adrannau tai, peirianneg ac amgylchedd y cyngor ar gael i ateb cwestiynau gan y cyhoedd.

Yn barod ar gyfer y cyfarfod, mae'r cyngor wedi cyhoeddi ‘Map Peryglon’ o'r ardal. Mae'r map wedi cael ei lunio gan Earth Science Partnership, ymgynghorwyr peirianneg a daearegol arbenigol, sydd wedi bod yn helpu'r cyngor i fonitro ardal y tirlithriad ym Mhant-teg ers 2015.

Mae'r map peryglon yn gam cyntaf asesiad modern o beryglon a risgiau tirlithriadau yn unol â safonau rhyngwladol. Mae'r cynllun yn dosbarthu'r ardal yn dri pharth perygl - Perygl Isaf, Perygl Canolig, Perygl Uchaf.

Bydd y gwaith monitro data parhaus yn ein galluogi i baratoi asesiad risg mewn perthynas ag eiddo, isadeiledd a thir ym mhob un o'r parthau perygl hyn, gyda'r prif bwyslais ar barth y perygl uchaf.