Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Cwestiynau Cyffredin

Isod fe welwch gwestiynau cyffredin a'r atebion perthnasol. Os bydd gennych gwestiwn nad ymdrinnir ag ef, mae croeso i chi ffonio'r swyddfa ar 01639 686405/01639 686406 a gofyn am Wastraff Masnachol.

Beth yw Gwastraff Masnachol?

Gwastraff Masnachol yw unrhyw eitem y mae ar fusnes eisiau ei gwaredu. Gall fod yn bapur, yn wastraff cegin, yn becynnu, yn wastraff sych cyffredinol nad yw'n beryglus o fusnesau, siopau, tafarndai, swyddfeydd, ysgolion, gweithfeydd cynhyrchu, clinigau etc. Mae hyn yn berthnasol i  bob  adeilad (gan gynnwys elusennau) nad ydynt yn cael eu defnyddio ar gyfer llety byw domestig yn unig .

Mae gan unrhyw fusnes Ddyletswydd Gofal. Rhoddir manylion am hyn yn Adran 34 Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990. Maent yn gyfrifol am storio a chadw eu gwastraff mewn ffordd sy'n sicrhau nad yw'n achosi niwsans i unrhyw un neu unrhyw beth. Maent hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod eu gwastraff yn cael ei waredu gan berson neu gwmni priodol a fydd yn darparu dogfennau i ddangos hyn. Gelwir y ddogfen hon yn Nodyn Trosglwyddo. Mae'n gofnod o wastraff sy'n 'trosglwyddo' o'r person sy'n cynhyrchu'r gwastraff i'r cludwr a fydd yn ei gasglu a'i waredu'n gywir.

Pam mae angen i mi dalu i'm sbwriel gael ei gasglu pan fyddaf eisoes yn talu Trethi Busnes? 

Yn ôl y gyfraith mae Awdurdodau Lleol dan rwymedigaeth i adennill costau rhesymol am gasglu a gwaredu gwastraff masnachol yn unol â Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990. Nid yw'r taliadau wedi'u cynnwys yn y Trethi Busnesau er mwyn rhoi rhyddid i ddewis defnyddio gwasanaeth y Cyngor neu ddarparwyr sector preifat.

Nid ydw i'n cynhyrchu llawer o wastraff - pam mae'n rhaid i mi dalu? 

Mae llawer o sefydliadau'n cynhyrchu symiau bach o wastraff ac er nad yw un sefydliad yn cynhyrchu llawer, gyda'i gilydd maent yn cynhyrchu swm sylweddol mae'n rhaid i'r cyngor dalu i'w waredu. Rydym dan rwymedigaeth i dalu ein costau (gweler cwestiwn 1) ond lle mae swm gwirioneddol fach o wastraff, gallwn gynnig bagiau Gwastraff Masnachol fel dewis ar wahân i finiau olwynion.

Os ydw i'n byw yn yr un lle â'm busnes, oes gennyf hawl i gasgliad sbwriel domestig? 

Os ydych yn byw yn eich gweithle, byddwn yn darparu bin safonol ar gyfer eich gwastraff domestig, fel gyda phob cartref yn y Fwrdeistref. Ni waeth pa mor fach ydyw, mae'n rhaid i'ch gwastraff busnes ddod dan gytundeb Gwastraff Masnachol ac mae'n rhaid talu amdano.

Alla i fynd â'm sbwriel i'r domen sbwriel? 

I waredu eich gwastraff yn y tip, bydd angen i chi agor cyfrif a thalu'r taliadau tipio priodol. Bydd angen i chi gael prawf gwaredu gan y tip. Mae'r gyfraith yn nodi bod rhaid i chi fedru profi sut rydych yn gwaredu'ch gwastraff drwy ddarparu dogfennaeth.

Pam na allaf losgi fy ngwastraff? 

Gallech fod yn torri'r gyfraith, achosi niwsans a niweidio'r amgylchedd drwy losgi gwastraff. Ni fydd modd i chi ateb am eich gwastraff neu ddangos y dogfennau sy'n profi eich bod wedi gwaredu'r gwastraff mewn ffordd briodol.

Pam mae'n rhaid i mi gwblhau Nodyn Trosglwyddo Gwastraff? 

Mae'r Nodyn Trosglwyddo Gwastraff a roddir i chi'n ddilys am hyd at flwyddyn. Mae'n ddogfen gyfreithiol i ddangos bod eich gwastraff wedi cael ei gasglu gan berson sydd â'r awdurdod i'w gludo ac a fydd yn ei waredu mewn ffordd briodol. Bydd gofyn i chi gwblhau Nodyn Trosglwyddo newydd ar ddechrau pob blwyddyn ariannol. Dylech gadw eich copi am 2 flynedd.

Oes angen i mi adnewyddu fy nghontract pan fyddaf yn adnewyddu fy Nodyn Trosglwyddo? 

Nac oes. Bydd eich cytundeb gyda'r cyngor yn parhau tan eich bod yn ei ganslo. Bydd gofyn i chi roi un mis o rybudd ysgrifenedig a chodir tâl arnoch hyd at ddiwedd y cyfnod rhybudd.

Beth ddylwn ei wneud os yw'r bin rwyf wedi'i ddewis o'r maint anghywir?

Byddwn yn ymdrechu i'ch cynghori i ddewis bin o faint priodol ar gyfer maint y gwastraff sydd gennych. Mae angen i chi sicrhau ei fod yn ddigon mawr i gynnwys eich HOLL wastraff. Os bydd y bin yn rhy fawr neu'n rhy fach, nid yw'n broblem - cysylltwch â'r swyddfa a byddwn yn trefnu i'w gyfnewid a newid y tâl ar eich cyfrif.

Oes angen i mi anfon siec gyda'r Ffurflen Gytundeb? 

Nac oes. Byddwch yn cael eich anfonebu ar ôl i'ch cytundeb gael ei brosesu. Fel arfer rydym yn anfon anfonebau ymlaen llaw ddwywaith y flwyddyn, ym mis Ebrill a mis Hydref, ar gyfer y 6 mis i ddod. Gallwch dalu drwy ddebyd uniongyrchol, a fydd yn lledaenu'r gost dros 10 mis.

 phwy ddylwn gysylltu os bydd problem?

Os oes gennych broblem, ffoniwch ni ar 01639 686405/686406.

Os oes gennych gwestiwn am anfoneb, ffoniwch ein His-adran Incwm ar 01639 686842.

Gallwch hefyd gysylltu â ni trwy e-bost yn tradewaste@npt.gov.uk.

Sut ydw i'n talu am Gasgliad Gwastraff Busnes?

Gallwch dalu

  • ar-lein (ewch i wefan talu biliau Girobank www.billpayment.co.uk/)
     
  • â siec 
    (sy'n daladwy i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot) neu gydag arian parod mewn un o'n swyddfeydd arian:
  •  Canolfan Ddinesig, Castell-nedd;
  •  Canolfan Ddinesig, Port Talbot neu
  •  Yr Hwb @ Pontardawe.
     
  • drwy'r post
    â siec 
    (sy'n daladwy i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot) 

    Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol
    Adran Incwm
    CBS Castell-nedd Port Talbot
    Canolfan Ddinesig
    Castell-nedd
    SA11 3QZ

  •  neu drwy Ddebyd Uniongyrchol
    ffoniwch y rhif hwn 01639 686842 neu anfonwch e-bost atom i ofyn am ffurflen debyd uniongyrchol