Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Y Diweddaraf 15/09/2017

Cynhaliodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot gyfarfod cyhoeddus nos Iau, 7 Medi ynghylch y tirlithriad ym Mhant-teg.

Cynhaliwyd y cyfarfod yn Ysgol Gyfun Ystalyfera a daeth mwy na dau gant o bobl iddo.

Bu Arweinydd y Cyngor a nifer o swyddogion y cyngor yn ateb cwestiynau am fwy na dwy awr a hanner gan breswylwyr ac eraill â diddordeb yn sefyllfa'r tirlithriad sy'n parhau yn yr ardal.
Yn ystod y cyfarfod, cytunodd swyddogion y cyngor ar nifer o gamau gweithredu.

O ran y deg eiddo teras yr effeithir arnynt:

Rydym eisoes wedi suddo un dyfrdwll i'r gogledd o'r teras yr effeithir arno, ac yn amodol ar gytundeb gan y tirfeddiannwr perthnasol, byddwn yn suddo dyfrdwll arall i'r de o'r teras yr effeithir arno. Byddwn yn cysylltu â'r perchnogion tir/eiddo perthnasol er mwyn ein galluogi i wneud hyn.

Mewn cytundeb â pherchennog y tir preifat, mae'r cylfatiau a'r cyrsiau dŵr ar ochr y mynydd uwchlaw Heol Cyfyng/Graig y Merched wedi cael eu glanhau.

Er eglurder, bydd y ffordd drwy'r pentref yn parhau ar agor heb cyfyngiad pwysau oni bai ein bod yn derbyn tystiolaeth a chyngor arbenigol i'r gwrthwyneb. Bydd gweithwyr y cyngor ar y safle unwaith eto'r wythnos nesaf i gynnal archwiliadau i gefnogi'r gwaith monitro a gwerthuso hwn.


O ran ardal ehangach Pant-teg:

O ran y Cynllun Perygl drafft a'r camau nesaf, byddwn yn parhau i fonitro a chasglu data o arolygon a mapiau digidol, archwiliadau dyfrdyllau a gwaith dadansoddi'r llethr.

Bydd gwerthuso'r data hwn yn ein galluogi i lunio asesiad o'r risg mewn perthynas ag eiddo, isadeiledd a thir ym mhob un o'r ardaloedd perygl.

Unwaith byddwn wedi cael y canlyniadau ar gyfer y rhain, bydd y cyngor yn diweddaru preswylwyr yr ardal.


Mynediad i Wybodaeth:

Yn y cyfarfod, gofynnodd preswylwyr i'r cyngor ddarparu mwy o ddogfennaeth o ran ardal y tirlithriad. Ar hyn o bryd, mae'r swyddogion yn coladu'r holl wybodaeth berthnasol a byddwn yn cyflwyno'r wybodaeth hon ar ein gwefan arbennig ar gyfer tirlithriad Pant-teg www.npt.gov.uk/pantteg cyn gynted â phosib.