Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Y Diweddaraf 10/11/2017

Y Diweddaraf 10/11/2017

Ardal arolwg LiDar estynedig

Mae arolygon LiDAR (mapio laser 3D) ar draws yr ardal wedi bod yn parhau ers mis Awst eleni.

Fel a drafodwyd yn y cyfarfod cyhoeddus, mae ardal yr arolwg LiDAR wedi'i hestyn. Gallwch weld y Map Perygl Drafft diwygiedig yma, gan ddangos yr ardal sydd bellach yn cael ei hystyried gan yr ymgynghorwyr Earth Science Partnership.

Mae ardal yr arolwg newydd yn cynnwys yr ardaloedd hynny y nodwyd o'r blaen eu bod 'yn aros am LiDAR' mewn lliw glas golau ar y Map Perygl Drafft a gyflwynwyd yn y cyfarfod cyhoeddus, y gellir cael mynediad iddo yma.
Dyma ardaloedd yr arolwg estynedig:

  • I'r gogledd, ychydig y tu hwnt i Res Vine, lle ceir arwyddion o ansefydlogrwydd diweddar
  • I'r gorllewin, i gynnwys y chwareli segur, ac
  • I'r de, sy'n cynnwys eiddo i'r gogledd o Lôn Owen, y cyfeirir atynt fel Dwyrain Godre'r-Graig ym mhentref Pant-teg, sy'n rhan o ardal tirlithriad Godre'r-Graig


Caiff ardaloedd ymhellach i'r de o Lôn Owen a fu'n rhan o asesiad 2013 eu harolygu hefyd.