Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Y Diweddaraf 08/12/2017

DYFRDWLL CRAIG Y MERCHED

Mae'r gwaith yn parhau yn ardal tirlithriad Pant-teg yr wythnos hon drwy gynnal dyfrdwll gan ddaearegwyr arbenigol Earth Science Partnership (ESP).

Bydd ESP yn gweithio ar y dyfrdwll yng Nghraig y Merched, y ffordd sy'n rhedeg oddi ar Heol Cyfyng yn Ystalyfera, lle mae perchnogion 9 o dai wedi derbyn Hysbysiadau Gwahardd Argyfwng (EPOs) yn gofyn iddynt adael oherwydd rhesymau diogelwch yn dilyn cyfres o dirlithriadau.

Mae astudiaeth ddiweddaraf y dyfrdwll yn cael ei chynnal ar safle rhif 9, Craig y Merched, a gafodd ei ddymchwel oherwydd ei gyflwr adfeiliedig ac andwyol.

Mae dyfrdyllau'n darparu gwybodaeth sy'n benodol i'r safle a all helpu i bennu daeareg a natur y tir mewn ardal.

Rhoddwyd canlyniadau rhagarweiniol astudiaeth flaenorol o ddyfrdwll ar Heol Cyfyng i berchnogion y tai a'u cynrychiolwyr a oedd yn dangos yr amodau dan y ddaear mewn cyfarfod gyda swyddogion y cyngor yn Ystalyfera'r mis diwethaf.

Cynhaliwyd gwaith clirio coed a llystyfiant, gwaith draenio, LiDAR (arolygon â chymorth laser sy'n defnyddio dronau) a thurio tyllau arbrofol yn ogystal â dyfrdyllau er mwyn asesu'r amodau dan y ddaear ers i'r tirlithriadau diweddar ddechrau ym mis Chwefror eleni.

Fodd bynnag, cyn y tirlithriadau diweddar, cyflogwyd sawl ymgynghorwr arbenigol i gynghori'r cyngor dros y blynyddoedd ynghylch y tirlithriadau i'r de-orllewin o Ystalyfera.

Mae Earth Science Partnership wedi bod yn gweithio gyda'r cyngor ers 2015 i weithredu strategaeth i ddeall yr amodau daearegol presennol yn well ac wedi ffurfio trefn fonitro ar gyfer ardal y tirlithriad, sy'n cynnwys cyfres o osodiadau dyfrdwll a gwaith arolygon eraill.

CYFARFOD CYHOEDDUS

Mae mwy o fanylion ar gael am y cyfarfod cyhoeddus ar fater y tirlithriadau a gynhelir yn Ysgol Gyfun Ystalyfera ar 29 Ionawr 2018.

Bydd drysau'r lleoliad yn agor i'r cyhoedd am 6pm a bydd y cyfarfod, a drefnir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, yn dechrau am 7pm.

Bydd mapiau, lluniau, dogfennau a gwybodaeth arall sy'n rhoi manylion am amodau tir y tirlithriadau a gasglwyd o'r gwaith monitro cynhwysfawr a gynhaliwyd yno ar gael i'r cyhoedd cyn y cyfarfod fel y gallant ymgyfarwyddo â'r wybodaeth.

Penderfynwyd ar 29 Ionawr fel dyddiad oherwydd byddai'n rhoi amser i'r wybodaeth fwyaf diweddar a'r wybodaeth ddaearegol fwyaf cynhwysfawr fod ar gael.