Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Diweddariad 22/02/18

Diweddariad 22/02/18

Apêl i breswylwyr gysylltu er mwyn trefnu archwiliadau

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot am i'r bobl sy'n byw yn yr ardaloedd hynny o Bant-teg y nodwyd eu bod mewn ardaloedd o berygl uchel neu berygl uchel iawn ar y map o risgiau a pheryglon y diweddarwyd yn ddiweddar, gysylltu â hwy er mwyn trefnu i'w cartrefi gael eu harchwilio.

Mae'r map diweddaredig o risgiau a pheryglon yn cynnwys nifer o gartrefi sydd mewn ardaloedd o berygl uchel neu berygl uchel iawn (gweler y parthau coch a phinc ar y map diweddaredig) ac mae'r awdurdod yn awr yn atgoffa pobl ag eiddo yn y parthau hyn i gysylltu â'r cyngor er mwyn iddo gwblhau rhaglen o archwiliadau.

Bydd yr archwiliadau'n cynnwys archwiliad gweledol o du mewn a thu allan yr eiddo yn unol â'r System Mesur Iechyd a Diogelwch Tai (HHSRS).

Dull gwerthuso ar sail risg yw'r HHSRS sy'n helpu awdurdodau lleol i nodi ac amddiffyn yn erbyn risgiau a pheryglon posib i iechyd a diogelwch o ganlyniad i ddiffygion a nodwyd mewn anheddau.

Cynghorodd swyddogion o Gyngor Castell-nedd Port Talbot i'r rheiny a oedd yn bresennol yng nghyfarfod cyhoeddus Pant-teg a gynhaliwyd ar 29 Ionawr 2018 gysylltu â'r cyngor - naill ai drwy'r llinell gymorth neu'r cyfeiriad e-bost penodol -i ddarparu eu manylion cyswllt i'r awdurdod fel y gallai'r cyngor drefnu apwyntiadau sy'n gyfleus i bawb er mwyn archwilio'r eiddo yn yr ardaloedd o berygl uchel ac uchel iawn.

Ers y cyfarfod cyhoeddus, mae'r cyngor wedi derbyn manylion cyswllt pedwar eiddo'n unig, ac maent wedi'u harchwilio erbyn hyn.

 Ar hyn o bryd mae'r swyddogion mewn trafodaethau â'u hymgynghorwyr arbenigol er mwyn creu cynllun prosiect archwilio sy'n nodi'r eiddo hynny y mae angen archwiliad arnynt fel blaenoriaeth.

Bydd y cyngor yn dechrau'r archwiliadau'n fuan ond byddai derbyn manylion cyswllt y preswylwyr yn gymorth mawr i'r broses hon.

Mae gofyn i breswylwyr felly gysylltu â'r cyngor drwy'r llinell gymorth neu'r cyfeiriad e-bost penodol (01639 686288) neu pantteg@npt.gov.uk.

 Ardal tirlithriad Pant-teg a daeargryn 17/02/18

Nid achosodd y tirlithriad newydd a ddigwyddodd cyn y daeargryn (a oedd yn cynnwys oddeutu deg tunnell o ddeunydd) y cafwyd hyd iddo ger y capel ym Mhant-teg yr wythnos ddiwethaf unrhyw anafiadau i unrhyw un nac unrhyw ddifrod i unrhyw eiddo na ffyrdd.

Teimlwyd y daeargryn 4.6 mewn maint (a dyfnder o 7km) gyda'i uwchganolbwynt yng Nghwmllynfell a gofnodwyd ar brynhawn dydd Sadwrn, 17 Chwefror 2018 ar draws y DU gan gynnwys de Cymru a de-orllewin Lloegr ac nid oes unrhyw anafiadau wedi'u cofnodi nac unrhyw ddifrod i eiddo yn unrhyw le.

Meddai Matthew Eynon, Arbenigwr Peirianneg Tir a Daearegwr Siartredig gydag Earth Science Partnership, ymgynghorwyr daearegol a gwyddoniaeth amgylcheddol ar faterion ym Mhant-teg, am y daeargryn:

  • Fel arfer mae tirlithriadau a digwyddiadau seismig o ganlyniad i wahanol brosesau. Fodd bynnag, mae yna enghreifftiau o dirlithriadau a achoswyd gan ddaeargrynfeydd ar draws y byd, ond nid yw'r rhain yn digwydd yn y DU fel arfer.
  • Mae tirlithriadau wedi'u cofnodi ym Mhant-teg am dros ganrif ac nid oes unrhyw gysylltiau amlwg â seismigrwydd; nid oedd yr ansefydlogrwydd a gofnodwyd yn ddiweddar (gan gynnwys 2017 a dechrau 2018) yn cyfateb i ddaeargryn.
  • Nid ydym yn ymwybodol o unrhyw broblemau pellach ar hyn o bryd. Ni chofnodwyd unrhyw ddifrod o Bant-teg (digwyddodd y tirlithriad 10 tunnell mwyaf diweddar cyn ddydd Sadwrn 17 Chwefror 2018). Bydd unrhyw newidiadau geomorffaidd sylweddol yn cael eu hasesu fel rhan o'n gwaith parhaus.