Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Diweddariad 22/3/18

Bydd pedwar person sy’n herio penderfyniad Cyngor Castell-nedd Port Talbot i’w symud hwy o’u cartrefi yn Heol Cyfyng, Pant-teg, yn dilyn tirlithriadau, yn ailgydio yn eu hapeliadau fis nesaf.

Clywir yr apeliadau gan banel y Tribiwnlys Eiddo Preswyl dros Gymru (RPTW), a ddechreuodd glywed tystiolaeth yr achos mewn gwrandawiad undydd mewn gwesty yng Nghaerdydd ar 18 Rhagfyr y llynedd.

Gan fod angen mwy o amser, gohiriwyd yr apeliadau gan RPTW ar 1 Mawrth eleni i wrandawiad undydd arall yng Nghaerdydd sydd hefyd wedi’i ohirio er mwyn clywed mwy o dystiolaeth.

Erbyn hyn, mae RPTW wedi pennu dau ddyddiad arall i ailddechrau’r gwrandawiadau am dystiolaeth: 17 ac 20 Ebrill 2018. Clywir yr apeliadau gan banel yng Nghaerdydd.

Mae’r pedwar apelydd yn herio penderfyniad Cyngor Castell-nedd Port Talbot i roi Gorchmynion Gwahardd Brys (GGB) ar dri eiddo yn Heol Cyfyng Road ym mis Awst 2017.

Rhoddwyd y GGB gan yr awdurdod ar ôl derbyn cyngor gan ei ddaearegwyr ymgynghorol, Earth Science Partnership, fod “perygl dybryd i fywyd” o dirlithriadau i deras o dai a oedd yn cynnwys eiddo yr oedd yr apelyddion yn byw ynddynt.

Mae’r rhan fwyaf o’r rhai y rhoddwyd GGB iddynt ym mis Awst 2017 wedi cael eu hadleoli.