Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Cynllun Awdurdod Sylfaenol

Beth yw'r Cynllun Awdurdod Sylfaenol?

Sefydlwyd y cynllun Awdurdod Sylfaenol i alluogi busnesau i ffurfio partneriaeth ag awdurdod lleol unigol ac i gael mynediad at gyngor sicr ynghylch cydymffurfiaeth. Mae'n rhaid i awdurdodau lleol barchu'r cyngor hwn ac felly fynd i'r afael â phryderon busnesau o ran cysondeb a rhoi hyder iddyn nhw. .

Mae hefyd yn galluogi gweithgareddau arolygu rhagweithiol i gael eu cydlynu, gan felly wella effeithiolrwydd gweithgareddau lleol a lleihau dyblygu ymdrech. Mae'r cynllun yn cefnogi awdurdodau lleol wrth iddynt ddiogelu eu dinasyddion, eu busnesau, eu gweithwyr a'r amgylchedd.

Pa fath o fusnesau sy'n gymwys?

Pob busnes sy'n destun deddfwriaeth orfodol Iechyd yr Amgylchedd a Safonau Masnach. Fodd bynnag, nid oes rhaid i'r bartneriaeth ddiogelu pob agwedd ar eich busnes.

Sut mae'n gweithio?

Mae awdurdod lleol sy'n cynnig partneriaeth Awdurdod Sylfaenol i fusnesau'n dangos ei barodrwydd i weithio'n adeiladol gyda busnesau i wella cydymffurfiaeth. Mae hefyd yn cymryd cyfrifoldeb am arwain a llywio'r broses o reoleiddio busnes unigol neu grŵp o fusnesau.

Gwneir hyn drwy ddarparu cyngor rheoliadol sicr, wedi'i deilwra a thrwy arwain y ffordd y mae awdurdodau lleol eraill yn rheoleiddio'r busnes neu'r busnesau fel ei fod/eu bod yn effeithiol ac yn effeithlon, gan gynnwys trwy rannu gwybodaeth am gydymffurfio.

Beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer fy musnes?

Gall cymryd rhan mewn cynllun Awdurdod Sylfaenol roi mwy o hyder i'ch busnes yn eich gweithgareddau a reoleiddir a lleihau eich risg o dorri deddfwriaeth. Ar yr amod eich bod yn dilyn y cyngor a roddir i chi, gallwch fod yn hyderus eich bod yn cydymffurfio â'r gyfraith.

Mae Awdurdod Sylfaenol yn cynrychioli gwasanaeth cefnogi pwysig i fusnesau lleol. Mae gan adran Iechyd yr Amgylchedd a Safonau Masnach ymrwymiad i gefnogi busnesau lleol fel rhan o'r gwasanaeth cenedlaethol yn ogystal â fel rhan o Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn ei rinwedd ei hun.

I ddysgu mwy am y cynllun, darllenwch yr arweiniad yma neu cysylltwch ag adran Iechyd yr Amgylchedd a Safonau Masnach Castell-nedd Port Talbot drwy ddefnyddio'r manylion canlynol: 01639 686868 / ehd@npt.gov.uk / tsd@npt.gov.uk